|
William Edwards - Pensaer, Adeiladydd, Gweinidog Atrhrylith hen bont Pontypridd
Adolygiad Gwyn Griffiths o William Edwards - Pensaer, Adeiladydd, Gweinidog. Cyhoeddir gan Gyngor Tref Pontypridd. Pris 拢6.50.
"Adeiladydd i'r ddeufyd," - dyna'r geiriau ar gofeb William Edwards yng Nghapel yr Annibynwyr, y Groeswen, y capel lle bu adeiladwr pont enwog Pontypridd yn weinidog am bum mlynedd a deugain.
Mae pont yn symbol arwyddocaol ym mhob oes - yn sylfaenol yn cysylltu dau ddarn o wlad dros afon, neu gulfor neu gwm cul.
Ond gall gyfeirio at ddod 芒 phobl o wahanol oed, cenedl neu iaith at ei gilydd.
Yn ei hanfod roedd pont William Edwards yn cysylltu plwyfi Eglwysilan, Llanwynno a Llantrisant dros afon wyllt a pheryglus.
Ond roedd ei fywyd yn pontio llawer mwy na'r syniad o uno dyrnaid o blwyfi yn yr hen Sir Forgannwg.
Ei dad yn boddi G诺yr llawer y stori am dad William Edwards yn boddi wrth geisio croesi afon T芒f a hithau mewn llif ffyrnig a hynny, fe gredir, sy'n egluro'i frwdfrydedd pan gafodd gais i adeiladu pont fyddai'n meistroli'r afon gipiodd fywyd ei dad ac yntau yn blentyn deim ond seithmlwydd oed.
Mae llawer yn gyfarwydd 芒'r ffaith mai hon, am ddeugain mlynedd, oedd y bont un bwa mwyaf ei rhychwant yn Ewrop - 140 troedfedd.
Hwyrach mai hi oedd y bont un bwa fwyaf yn y byd ar y pryd, oni bai bod rhywbeth draw, draw, yn China na wyddom ni ddim amdani.
Y gwir yw bod William Edwards yn glamp o athrylith, aml ei ddoniau.
Ceir hanes rhyfeddol y g诺r o lechweddau mynydd Eglwysilan yn y gyfrol William Edwards - Pensaer, Adeiladydd, Gwenidog, cyfieithiad o gyfrol a gyhoeddwyd gan H. P. Richards, Caerffili, ugain mlynedd union yn 么l.
Nid y bont enwog ym Mhontypridd oedd ei unig bont - cododd tua dwsin o bontydd i gyd, dros afonydd Wysg, Tawe, Afan, Tywi ac Aman.
Ac mae'n debyg mai ef a gododd y bont reilffordd gyntaf yng Nghymru - Pont Pwll y Llygod dros Gwendraeth Fawr ar gyfer tramffordd geffyl i gludo glo.
Os yw hynny'n gywir hon fyddai'r drydedd bont reilffordd i'w hadeiladu yn y byd.
Sawl agwedd Yr hyn a'm swynodd yn y gyfrol yw'r nifer o agweddau o hanes Cymru a adlewyrchir ym mherson William Edwards.
Cawn ddarllen amdano, ac yntau ond plentyn, yn atgyweirio muriau cerrig sychion ar y ffermydd ar ochrau Mynydd Eglwysilan - hen grefft sy'n mynd yn 么l filoedd o flynyddoedd.
Cawn ei hanes yn cerdded i Gaerffili i astudio adeiladwaith y castell Normanaidd.
Darllenwn amdano'n astudio ffwrnais Caerffili a chyn hir yn adeiladu ffwrneisi ei hun.
Adeiladodd efail ar gyfer gwaith haearn Caerdydd ym 1840, dros bymtheg mlynedd cyn codi pont Pontypridd.
Bryd hynny y dysgodd siarad Saesneg.
Mae ei fywyd, felly, yn cwmpasu'r hen draddodiad Cymraeg, hen hanes adeiladwaith o oes y cerrig drwy gyfnod y Normaniaid i'r Chwyldro Diwydiannol.
Cynllunio tref Wedi adeiladu'r bont ym Mhontypridd, cafodd gomisiwn gan y diwydiannwr John Morris, i gynllunio tref ar gyfer ei weithwyr ar lan afon Tawe a dyma Dreforys (Morriston) lle mae cynllun William Edwards gyda'i strydoedd llydain braf yn un a edmygir fel patrwm o gynllunio tref ddiwydiannol hyd heddiw.
Ond ei gofeb enwocaf yw'r hen bont ym Mhontypridd.
Denodd arlunwyr ledled Ewrop i'w hedmygu a'i phaentio mewn cyfnod pan safai yng nghanol gwlad wyrddlas heb dai ar ei chyfyl.
Ymhlith yr arlunwyr hynny oedd y Cymro Richard Wilson o Benegoes.
Cafwyd darlun o'r bont ar gaead dysgl gawl gan gwmni Wedgewood ar gyfer Catherine Fawr o Rwsia.
Do, cafodd William Edwards ei anrhydeddu yn ei oes ei hun - er ein bod ni heddiw, hwyrach, yn euog o anghofio'i athrylith.
Digwyddiad o bwys Bu cyfieithu'r llyfryn a sgrifennodd ac a gyhoeddodd y diweddar H. P. Richards yn ddigwyddiad o bwys a da gweld Cyngor Tref Pontypridd yn cymryd y cam ac fe fuasai H P Richards yn falch o'r gyfrol liwgar ac o gyfieithiad rhwydd a deallus Gareth Wort - yntau'n un o blant Pontypridd.
Yr oedd Lili, gwraig H. P. Richards, yn un o'r criw bach o athrawon a sefydlodd Ysgol Gyfun Rhydfelen.
Dylid llongyfarch Curadur Amgueddfa Pontypridd, Brian Davies, am ei ychwanegiadau i'r gwaith.
Lle gynt yr oedd y lluniau i gyd yn ddu a gwyn, yn awr mae'r mwyafrif mewn lliw ac mewn 么l-nodyn diddorol ceir sawl darn o wybodaeth newydd - yn arbennig am y bont reilffordd ger fferm Pwll y llygod.
Yr ydym ar fai am esgeuluso Cymry a wnaeth gyfraniad arbennig ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianyddiaeth. Dylai Cymru gyfan ymfalch茂o yng nghyfraniad y gweinidog a'r adeiladwr o'r Groeswen ac Eglwysilan.
Gellir cael cop茂au o'r llyfryn o Amgueddfa Pontypridd, Stryd y Bont, Pontypridd, CF37 4PE. Ychwaneger 拢1 am gludiant.
Cysylltiadau Perthnasol
Pontypridd yn Lleol i Mi
Lluniau diwrnod cyhoeddi'r gyfrol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|