大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gelert
Prif awdures yn mentro i fyd c诺n
Un o ddisgynyddion ci enwocaf Cymru yw'r prif gymeriad yn nofel ddiweddaraf enillydd Gwobr Goffa Daniel yn Eisteddfod Abertawe 2006.

Clawr y llyfrGelert yw nofel gyntaf Gwen Pritchard Jones i blant - er ei bod wedi cyhoeddi'n barod lyfrau eraill i blant.

Ci chwareus a direidus yw Gelert sy'n digwydd bod yn olyniaeth y Gelert hwnnw a fu'n gi mor ffyddlon Lywelyn Fawr!


Yn Gelert, nofel gyda darluniau hyfryd gan Petra Brown o Borthmadog, y ci ei hun sy'n adrodd y stori, yn y person cyntaf, a stori ddigon difyr yw hi hefyd gydag elfen arallfydol iddi hi.

Yn nhraddodiad gorau pethau fel hyn ci drygionus yw Gelert ac mewn pob math o helbulon gyda'i ffrindiau.

Mae cymysgedd ddifyr yma o 'ddynoli'r' anifeiliaid ac o edrych ar y byd trwy lygaid anifail gyda phobl yn "ddwy-goesiaid". Mae'n gwestiwn hefyd, pwy sydd piau pwy - y bobl y c诺n ynteu'r c诺n y bobl!

A'r cyfarchiad pan fo dau gi yn cyfarfod yw:
"Haia, Smwt!"
"Haia Gel, haia Del! Ogleuon da?"

Cyhoeddi'r llyfr yn Ysgol yr Hendre Mae bywyd hapus y c诺n o grwydro, gwneud baw, yn newid yn go arw pan gaiff Gelert ddamwain erchyll - ac y mae pethau'n gwaethygu wrth iddynt ymdrechu i achub eu dwy-goesiaid, Geraint ac Emyr.

Fel y gellid disgwyl oddi wrth Gwen Pritchard Jones mae'r sgrifennu yn llyfn ac yn llithrig.

Er nad yw sgrifennu ar gyfer plant yn beth dieithr i Gwen Pritchard Jones a hithau wedi cyhoeddi sawl llyfr llun a stori ar gyfer plant iau, dyma'i llyfr cyntaf ar gyfer darllenwyr wyth i 11 oed.

"Roeddwn i wastad wedi mwynhau mynd i Feddgelert, ac wrth gwrs wedi adrodd y stori sawl gwaith i'r hen blant tra'n athrawes yn Ysgol yr Hendre, Caernarfon, ac roedd rhyw gnoi wedi bod i sgwennu fersiwn fwy cyfoes ohoni.

"Ac yna dyma daro ar y syniad o sgwennu am un o ddisgynyddion Gelert, ond ei wneud o'n dipyn o fwrddrwg!" meddai.

Dywedodd iddi sgrifennu'r stori yn ystod yr un cyfnod ag yr oedd yn sgrifennu Dygwyl Eneidiau ac yn troi ati pan fyddai'r gwaith hwnnw yn mynd yn drech na hi.

"Yr oedd yn rhyw fath o wrthbwynt," meddai. "Os oeddwn i'n diflasu ar Dygwyl Eneidiau roeddwn i'n troi ar Gelert am dipyn o waith ysgafn a hwyl,"meddai.

Dywedodd fod ganddi hoffter arbennig o g诺n.
"Arferai fy nhad ddeud ei fod yn sicr mod i fy hun yn arfer bod yn gi mewn rhyw oes o'r blaen am mod i wastad yn 'bondio' gydag unrhyw gi'n syth! Rydym ni wastad wedi cael ci yn y t欧 - deud y gwir, y Del yn y stori ydy Del ein ci defaid ni!" ychwanegodd.

Daeth Gwen Pritchard Jones i amlygrwydd trwy ennill Gwobr Goffa Daniel Owen gyda nofel hanesyddol Dygwyl Eneidiau yn Eisteddfod Abertawe a'r Cylch 2006.

Disgyblion Ysgol yr Hendre Dychwelodd Gwen Pritchard Jones i'w hen ysgol lle bu'n athrawes yn yr Wythdegau ar gyfer cyhoeddi'r gyfrol gan ddarllen y stori i Ddosbarth pump Mrs Ann Jones yn Ysgol yr Hendre.

Ac wedi'r edi'r sgwrs, cafwyd cyfle i fwynhau bisgedi arbennig si芒p c诺n yr oedd yr awdur wedi eu paratoi.

  • Gelert gan Gwen Pritchard Jones. Gwasg y Bwthyn. 拢5.00

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Dygwyl Eneidiau

  • Gwen Pritchard Jones

  • Ennill y Daniel


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy