|
Er Dy Fod Menna Elfyn yn chwarae 'da geiriau
Adolygiad Linda Edwards o Er Dy Fod, antholeg gan Menna Elfyn. Goner. 拢6.99.
Mae Menna Elfyn yn un o lenorion amlycaf y Gymru gyfoes - wedi cyhoeddi wyth casgliad o farddoniaeth yn ogystal 芒 nofelau a dram芒u.
Ymysg ei chyfrolau mae'r antholegau dwyieithog Cell Angel a Cusan Dyn Dall/ Blind Man's Kiss a'r gyfrol Perffaith Nam.
Mae hi hefyd wedi sgwennu cyfrol i blant Rana Rebel ac wedi golygu'r antholeg Eingl-Gymreig The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry.
Caiff wahoddiadau cyson i ddarllen ei barddoniaeth dros y byd i gyd yn ogystal 芒 phob rhan o Gymru.
Hi oedd Bardd Plant Cymru S4C 2002-2003.
Yn fam i ddau o blant, mae hi bellach yn byw yn Llandysul.
Ar dudalen flaen y gyfrol hon gwelir y geiriau: Cerddi gan Menna Elfyn I ddathlu dysgu iaith Profiadau dysgwyr A phrofiadau dysgwyr wrth ddysgu Cymraeg oedd y sbardun iddi fynd ati i greu'r gyfrol.
Meddai: "Fe sylweddoles i un diwrnod fod gen i fwy o ffrindiau sy'n ddysgwyr neu sydd ddim yn medru'r Gymraeg, nag sydd gen i o Gymry Cymraeg.
"Ac yn aml iawn mae ffrindiau'n gyrru e-byst ata i'n gofyn beth yw ystyr gair penodol....ac o hynny dechreues i feddwl am y pontio yna, y ddeialog honno sy'n mynd ymlaen rhwng rhywun sy'n siarad un iaith a rhywun sy'n siarad iaith arall."
Mae'r rhelyw o'r cerddi felly yn gerddi ysgafn a doniol wedi eu hysbrydoli gan ffrindiau sy'n dysgu'r iaith- er enghraifft mae'r gerdd Chutzpa wedi dod i fod ar 么l i ffrind ddweud wrthi:
"I want to be outrageous in Welsh."
ac eisiau dweud pethau mwy heriol na'r hyn a ddysgid iddi ar gwrs Wlpan fel "Dwi'n hoffi coffi".
Beth am
Dwi'n hoffi Wisgi
Gyda tecila
A'i yfed ym Manila
Un arall wedyn yn trin a thrafod sawl ffordd sydd yna o ddweud 'Yes' a 'No' yn y Gymraeg ar 么l i ddysgwr yn Noc Penfro ofyn "How many ways do you need to say 'yes' and 'no' in Welsh?"
Un arall eto - Tyddyn wedi codi o'r ffaith na allai'r bardd Gillian Clarke ddweud 'Tyddyn' ac yn dweud yn hytrach 'T欧 Dyn', a'r hwyl gododd o hynny.
Hwyl eto yn y gerdd Oergell wrth i ddysgwr ddweud ei fod yn cadw llyfrau yn yr 'oergell' yn lle 'llyfrgell'.
Nid gwneud hwyl Ond nid gwneud hwyl am ben dysgwyr mae Menna ond, yn hytrach, uniaethu 芒 hwy- fel y dywed ei hun:
"Dwi'n cael gwahoddiad i fynd i ymweld 芒 sawl gwlad, naill ai i ddysgu neu i ddarllen fy marddoniaeth, ac yn aml yn canfod fy hun mewn gwlad dramor ble nad ydwi'n deall yr iaith, felly rwyf yn gallu uniaethu 芒 phrofiadau dysgwyr."
Nid profiadau dysgwyr yw'r unig symbyliad yn y gyfrol chwaith gan fod hoffter Menna ei hun o drin geiriau yma hefyd fel y gwelir yn Geiriannu, Er Dy Fod, 38 Gair Am Gariad, ac mae'n gallu cyfleu'r hoffter hwnnw i'r darllenydd yn gelfydd o syml a'i sbarduno yntau i gael yr un hoffter.
Mae rhai cerddi hefyd yn ymdrin 芒 materion mwy dwys, rhai am Gymru a thynged yr iaith. Hoffaf yn fawr ei cherdd i Gaerdydd: Lle yw hwn, i'r lliaws o bob llais.
ac mae'r bwrlwm a'r miri yma i'r dim.
Hefyd, hoffais Rhad ac am Ddim, Cymro Amddifad, Tynged yr Iaith, Rhowch imi Wlad, a Gwybod y Treiglad heb Adnabod y Gair.
Y byd Mae eraill o'r cerddi yn ymdrin 芒 sefyllfa'r byd cyfoes- Pen yn ymdrin ag unbeniaid amlwg ac yn diweddu: Boed ben mawr neu'n ben bach Boed yn unben neu'n anniben; Daw'r lli a daw penllanw.
Libanus, Y Pwll 2006, wedyn, wedi eu llunio yn anterth y brwydro yn haf 2006; a Golau yn Olauwedi dod i fod wrth feddwl am y byd yn cynhesu. Tair cerdd sy'n pigo cydwybod ac yn aros yn y cof.
Celfydd a syml Beth bynnag fo 'r symbyliad tu 么l i'r cerddi maent i gyd wedi eu sgwennu'n gelfydd o syml, yn hawdd i'w deall, yn gafael yn y dychymyg, yn rhoi golwg newydd ar, ac yn dathlu iaith.
Fel y dywed Gwyneth Lewis:
"Mae ein dyled yn fawr i Menna Elfyn gan ei bod hi wrthi adnewyddu ein Cymraeg trwy ei defnyddio fel offeryn sy'n llwyr atebol i gymhlethdodau bywyd yr unfed ganrif ar hugain."
Ewch ati i ddarllen y gyfrol- fe ail fagwch gariad at eiriau, mi chwarddwch gyda rhai, cael eich pigo gan rai, a meddwl yn ddwys am eraill.
Fe fwynhewch y cyfan, ac fe erys rhai cwpledau yn y cof am byth.
Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|