| |
|
|
|
|
|
|
|
Ar Bwys Cael y geiriau hud i blant
Adolygiad Linda Edwards o Ar Bwys gan Mererid Hopwood. Gomer. 拢4.99.
Ganed Mererid Hopwood yng Nghaerdydd ond mae'n byw ar hyn o bryd yng Nghaerfyrddin gyda'i g诺r, Martin, a'u tri plentyn.
Daeth i amlygrwydd yn 2001 fel y ferch gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ers hynny, mae wedi ennill y Goron ac wedi bod yn Fardd Plant Cymru yn 2005-2006.
Mae'n awdur nifer o lyfrau; Singing in Chains, Yr Ynys Hud, ac O'r M么r i Ben y Mynydd.
Mae ei chyfrol ddiweddaraf, Ar Bwys, wedi ei hanelu at blant o saith i 11 oed ac yn un y bydd plant ym mhobman yn ei mwynhau - ynghyd 芒 phawb sy'n cofio bod yn blentyn!
Mae agor y tudalennau a darllen y cerddi yn bleser pur, a lluniau Susie Grindey yn atodiad gwych i'r geiriau.
Mae'r bardd yn gallu deall ac uniaethu 芒 byd a bywyd plentyn i'r dim.
Faint o blant sydd wedi diflasu ar gael eu galw'n rhywbeth ond eu henwau gan oedolion? Faint sydd wedi dweud, "Dim ond digwydd" mynd heibio o'n i pan fo rhywbeth yn mynd o'i le? Faint sydd wedi bod ofn y bwgan "dan y gwely'"? Faint o blant sydd wedi bod wrth eu boddau pan fo nain yn 'darllen stori', ac yn cas谩u 'molchi' a 'gwaith cartref'?
Mae'r profiadau hyn i gyd yma, yn syml a chofiadwy.
Ond mae mwy na hyn yma hefyd - mae byd Peter Pan yma- yn y gerdd Dianc: Mae man yn nwfn pob mynwes lle all wneud y pell yn nes cerbyd hud dim ond i ti gael hedfan fan a fynni.
Ac yn Anturiaethau'r Awyr Uwchben Mae Cymru'n ymddangos, a bys hir Pen Ll欧n yn cyffwrdd Trwyn Dewi cyn diflannu o'r llun.
wrth i ddychymyg plentyn weld darluniau'n y cymylau.
Yn ei cherdd deyrnged i T.Llew Jones mae'n gofyn: Ga i lais y llygaid gleision Ga i iaith y stori i gyd Ga i wres yr hen hanesion Ga i'r hwyl, ga i'r geiriau hud?
Dywedwn i ei bod wedi eu cael a'i bod hi fel T Llew Jones yn gallu'n tywys trwy ryfeddodau byd plentyn, ac, fel T Llew, yn gallu'n swyno ni wrth wneud hynny.
Mynnwch y gyfrol hon i'ch plant, i'ch wyrion a'ch wyresau, neiaint a nithod ac i blant eich ffrindiau.
A beth bynnag wnewch chi, prynwch gopi i chi eich hun hefyd gan fod pori yn y tudalennau yn brofiad bendigedig ac yn bleser pur.
Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|