大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Merched Gwyllt Cymru
Dod a thebyg ac annhebyg at ei gilydd
  • Adolygiad Lowri Roberts o Merched Gwyllt Cymru / Wild Welsh Women gan Beryl H. Griffiths. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.


  • Yn draddodiadol, hyd y gwelaf i, rhywbeth gwrywaidd a macho yw ein gorffennol.
    Dynion yn cofnodi gorchestion, gwrhydri a dewrder eu cyd-ddynion.

    Clawr y llyfr Gerallt Gymro, Sieffre o Fynwy, Aneurin, Taliesin, enwau sydd mor gyfarwydd i ni heddiw 芒'r gw欧r a gafodd eu hanfarwoli ganddynt.

    Ond beth am y merched?

    Ceisio gwneud iawn am y diffyg hwn y mae'r gyfrol Merched Gwyllt Cymru a braf iawn oedd cael darllen cyfrol sydd wedi ei neilltuo yn llwyr i ferched Cymru.

    Ond nid unrhyw ferched mo'r rhain, cofiwch. Fel y tystia Bethan Gwanas yn ei rhagair, merched yw'r rhain "sydd 芒 thipyn o d芒n yn perthyn iddyn nhw".

    Sadlau yn dilyn
    Wrth gyhoeddi cyfrol fel hon mae'n anorfod y bydd yna drafod a dadlau yn dilyn.

    Beirniadaeth o du rhai carfannau am beidio 芒 chynnwys ambell i wraig. Ac anghrediniaeth ymysg eraill fod unigolion llai amlwg wedi eu hystyried.

    Yn hynny o beth mae Bethan Gwanas yn achub cam yr awdur cyn cychwyn trwy esbonio'r canllawiau ar gyfer dewis.

  • Rhaid oedd i'r gwragedd fod yn farw.
  • Roedd cysylltiadau cryf 芒 Chymru yn hanfodol.
  • A'r maen prawf olaf oedd eu bod nhw, yn eu ffyrdd dihafal eu hunain, wedi herio trefn cymdeithas ar y pryd.
    Fyddech chi'n sicr ddim am ddadlau 芒'r criw yma!

    Cymraeg a Saesneg
    Cyfrol ddwyieithog yw hi - y Gymraeg yn dilyn y Saesneg. Yn bersonol byddai argraffu'r hanesion gefn wrth gefn yn hytrach na fesul tudalen wedi hwyluso'r darllen.

    Dan y drefn bresennol mae i gymharu'r straeon wrth fynd ymlaen. Ond efallai bod hynny yn fai arnaf i yn hytrach nag ar y diwyg.

    Lladron ac emynwyr
    Ceir yma ystod eang o gymeriadau - yn wrachod a breninesau, beirdd a reslwyr, lladron ac emynwyr!

    Rhaid cyfaddef nad oedd enwau pob un o'r merched yn gyfarwydd imi.
    Mae pawb decini wedi clywed am Blodeuwedd, Siwan ac Ann Griffiths - ond beth am Alabina Wood, Eleanor Butler neu Sarah Ponsonby?

    Credwch chi fi, mae yna lawer i'w ddysgu rhwng y cloriau lliwgar yma!

    Paris Hilton ei dydd
    Un o'r enwau anghyfarwydd imi oedd Catrin o Ferain a ddisgrifir gan Beryl Griffiths fel Paris Hilton neu Liz Taylor ei dydd.

    Yn ddisgynnydd uniongyrchol Brenin Harri VII roedd meibion prif deuluoedd y gogledd yn ymladd am yr hawl i'w phriodi.

    Yn wir, cymaint oedd ei hanlwc fel y bu iddi briodi bedair gwaith i gyd - sy'n esbonio'r gymhariaeth 芒 Liz Taylor.

    Beryl H Griffiths Mae un hanesyn yn s么n am y modd y bu i Morus Wynn o Wydir ei gofyn i'w briodi wrth iddi ddychwelyd adref o angladd ei g诺r cyntaf - gweithred braidd yn ansensitif ynddo'i hun fel y mae Beryl Griffiths yn cyfaddef.

    Ond mae'n debyg iddi hithau ei ateb trwy ddweud ei fod yn rhy hwyr am ei bod wedi cytuno i briodi Richard Clwch ar y ffordd i'r angladd!

    Llyfr hanes yw Merched Gwyllt Cymru yn y b么n sydd wedi ei gyflwyno mewn arddull stor茂ol, hawdd iawn ei ddarllen.

    Mae'n ffynhonnell addysgol werthfawr i athrawon, rhieni a disgyblion sydd am ddysgu mwy am eu cyn-neiniau!
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy