|
Yr Arwisgo Cynnwrf y Chwedegau
Adolygiad Bethan Wyn o Yr Arwisgo gan Sonia Edwards. Cyfres Fy Hanes i, Gwasg Gomer. 拢4.99.
Mae 'na rywbeth am angerdd, hyfdra a diniweidrwydd cenhedlaeth y Chwedegau a chyffro'r cyfnod sydd wedi cydio yn fy nychymyg i.
Fallai mai wedi treulio gormod o amser yng nghwmni hen rebals ydw i yn s么n am y 'dyddia da' pan oedd peint o gwrw'n costio dau swllt a Chymru'n ennill g锚m rygbi bob wip stitsh.
Neu 'fallai mai cenfigen plentyn Thatcher sy'n fy nghnoi am na ches i flasu'r don o ysbrydoliaeth a'u sbardunodd nhw i gicio yn erbyn y tresi a theimlo y gallan nhw newid y byd hefo pot o baent gwyrdd a brwsh.
O ganlyniad i hyn, roedd cynsail Yr Arwisgo - nofel ddiweddaraf Sonia Edwards - yn apelio ata i.
Nofel fer yw hi ar ffurf dyddiadur merch ifanc o'r cyfnod ac mae'n rhan o gyfres Fy Hanes i Gwasg Gomer ar gyfer pobl ifanc.
Mae'r gyfrol hon yn mynd ati i bortreadu cyfnod cythryblus y misoedd cyn seremoni arwisgo'r Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon a hynny drwy lygaid Sara Harries - merch sydd 芒 th芒n yn ei bol dros ei hiaith ac yn ferch i blismon.
Tyndra dwys
Yn y berthynas rhwng y ferch a'i thad cawn gipolwg ar y tyndra dwys oedd yn bodoli yng Nghymru'r Chwedegau a'r ffordd y cyrhaeddodd ei anterth yn 1969 cyn yr Arwisgo.
Sara ar un pegwn yn ysu am gael torri allan o focs ei phlentyndod a chodi ei llais a'i thad ar y pegwn arall yn mynnu'n chwyrn bod ei ferch yn "rhoi gorau i'r syniadau Welsh Nash 'ma".
Dengys y nofel gymhlethdod y sefyllfa fel mwy na gwrthdaro rhwng y cenedlaethau gan fod yma gyffwrdd 芒 phenbleth rhai o'r genhedlaeth h欧n sy'n rhannu daliadau Sara yn ddistaw bach ond yn "ofn y canlyniadau" - ofn pechu'r mistar, ofn colli cwsmeriaeth.
Clywn s么n am weithwyr yn ymddiswyddo am iddyn nhw gael eu gwahardd rhag ateb y ff么n yn Gymraeg a phobl Caernarfon yn rhegi protestwyr ifanc Cymdeithas yr Iaith.
Cawn gip hefyd ar y gwrthdaro rhwng carfannau eithafol a heddychlon y cenedlaetholwyr a deuoliaeth Eisteddfod yr Urdd yn cadeirio bardd am gerddi gwrth-Brydeinig ar y naill law ond yn croesawu'r Tywysog i'r maes ar y llall.
Drwgdeimlad
Ond efallai mai'r wers bwysicaf yma i ddarllenwyr ifainc yw nad oedd Cymru'n wlad ddwyieithog tan yn ddiweddar.
Yn yr oes hon o ddwyieithrwydd, ysgolion Cymraeg a Deddf Iaith, mae'n hawdd anghofio am wrthdaro a brwydro'r gorffennol ac yn fwy byth mai Cymry Cymraeg oedd rhai o wrthwynebwyr ffyrnicaf y frwydr dros statws y Gymraeg.
Gwelwn yma'r drwgdeimlad oedd yn codi'i ben rhwng cymdogion, cydweithwyr a hyd yn oed o fewn yr un teulu.
Mae cyfeiriadau at fywyd y cyfnod yn britho'r tudalennau a dim ond weithiau maen nhw'n teimlo mor fwriadol ag i amharu ar ddilysrwydd y dyddiadur.
Ar y cyfan maen nhw'n helpu i'n tynnu ni'n gelfydd i mewn i gyffro a miri'r ychydig fisoedd cynhyrfus hyn wrth i ni ddilyn hynt Sara.
Yn sg卯l ei pherthynas 芒 Gwil, mab y Gweinidog, caiff Sara ei thywys i fyd lliwgar y protestwyr ifanc ac yn ogystal 芒 rhannu'r wefr, caiff hefyd weld nad yw pethau'n f锚l i gyd.
Disgrifio a chymeriadu Mae yma ddisgrifio a chymeriadu gwych, yn arbennig y paratoi a'r cynnwrf cyn y brotest yng Nghaernarfon.
"Cyrraedd Caernarfon mewn m么r o chwerthin a chadw reiat a chael andros o drafferth cael hyd i le parcio. Welais i erioed gymaint o bobl. Roedd y cei dan ei sang. Cannoedd o brotestwyr a baneri ac arwyddion wedi eu dal yn uchel. Roedd yr awyrgylch yn drydanol..."
Byddwn i wedi mwynhau cael fy nhynnu'n ddyfnach i mewn i'r byd yma - y dadlau tanbaid dros beint a'r trefnu a'r paratoi yn y digs - ond wedyn mae'n debyg nad nofel drwy lygaid merch ysgol fyddai honno.
Yn fyw Fel adnodd addysgol mae'r nofel yn llwyddo heb os nac oni bai, a hynny drwy ddod 芒 holl gyffro a thensiwn y cyfnod yn fyw i fyfyrwyr ysgol sydd, o bosib, yn fwy gwerthfawr na llyfr hanes neu ddarlith.
Mae yma ddyfyniadau o ffynonellau cynradd, lluniau o'r cyfnod a chyfeiriadau at ddigwyddiadau go iawn sy'n gosod yr hanes yn ei gyd-destun ac yn rhoi darlun cliriach, ym meddyliau'r darllenwyr, o'r digwyddiadau.
Er hyn, rhaid cofio nad yw'r nofel yn ffynhonnell hanesyddol gynradd ac mai o safbwynt un ochr yn unig y caiff yr hanes ei adrodd. o'r digwyddiadau o'r digwyddiadau
Nofel i bobl ifanc...?
Dwi'n rhyw amau hefyd na fydd pleser i'w gael yn ei thudalennau i ambell un 'chydig bach h欧n hefyd, nid cymaint oherwydd dwyster y dweud neu gymhlethdod y plot, ond oherwydd y ffordd gelfydd mae hi'n llwyddo i'n tynnu ni i mewn i fyd y cymeriadau - byd y sgert fer, y polo nec, y bouffant a'r seidis. On'd doedden nhw'n ddyddia da? Gweler Gwales
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|