|
Blwyddyn Fawr Glyn Wise Geiriau'r duw yn syth o'i geg . . .
Adolygiad Bethan Wyn o Blwyddyn fawr Glyn Wise. Golygydd, Beca Brown. Gwasg Carreg Gwalch. 拢7.50.
Mae'n anhygoel meddwl bod blwyddyn wedi mynd heibio ers lansio Big Brother 2006 ac i minnau fynd drwy fy rwt卯n arferol o ddweud nad oeddwn i'n mynd i gael fy sugno i mewn 'leni wir a 'mod i'n mynd i 'wneud rhywbeth adeiladol hefo'n amser'.
Ond dyma glywed si bod Cymro Cymraeg yn un o'r cystadleuwyr a chyn imi gael cyfle i gofrestru ar gwrs nos nac ymuno 芒 'gym' cafodd fy mwriadau da am yr haf eu chwalu'n deilchion...
Ond i fod yn onest, doedd hynny'n ddim gwahanol i unrhyw flwyddyn arall. Y peth rhyfedda am haf diwethaf oedd ymateb y genhedlaeth h欧n a oedd fel arfer naill ai'n ddirmygus o'r rhaglen neu heb ddiddordeb o gwbl.
Bellach, roedden nhw'n ddilynwyr brwd ac erbyn Eisteddfod Abertawe yn fwy na pharod i roi eu barn ar dantryms Nikki a sgiliau coginio 'rhen Glyn.
Yn arwr - yn Fab Darogan
Roedd Glyn yn arwr, yn Fab Darogan ac yn cael mwy o 'air time' na bardd y goron a'r gadair hefo'i gilydd.
Dydy hi ddim yn syndod felly bod llyfr wedi ei gyhoeddi i'w lansio yn Eisteddfod yr Urdd yn adrodd ei hanes dros y flwyddyn ddiwethaf - Blwyddyn Fawr Glyn Wise.
Mae'r llyfr wedi'i rannu'n dair pennod ar ddeg gan ddechrau gyda'r 'Ffeinal' a gorffen gyda'i gynlluniau ar gyfer y 'Dyfodol'.
Mae'n llawn lluniau, dyfyniadau gan bobl enwog a ffans, darnau o erthyglau papur newydd a chyfweliadau gyda theulu a ffrindiau.
Mae'r holl elfennau hyn a'r clawr lliwgar a glosi'n si诺r o ddenu llawer i gael sbec arno a chadw'r ffans yn hapus hefyd.
'Boi iawn' Fel ro'n i'n ei ddisgwyl, mae Glyn yn dod drosodd fel 'boi iawn' ac wrth ddarllen fedrwn i ddim peidio meddwl, "Sgwn i pam ar wyneb y ddaear roddodd o'i hun drwy'r fath beth" ac ar yr un pryd teimlo'n falch ei fod o wedi.
Mi wnaeth o ffafr 芒 ni'r gogs wedi'r cyfan, drwy fod yn falch o'i acen a'i iaith.
Mae swmp y llyfr ar ffurf ymson gan Glyn yn ei iaith lafar sy'n rhoi cipolwg inni ar ei fywyd dros y flwyddyn ddiwethaf - byd Glyn drwy ei lygaid ei hun - yr uchafbwyntiau a'r troeon trwstan.
Pe bai Glyn yn stor茂wr naturiol, byddai'r fformat yma wedi gweithio'n well ond am nad ydy o, yn anffodus, mae ei ddarllen yn teimlo bron fel darllen trawsysgrif o gyfweliad a chawn ein harwain ar drywydd diamcan a dryslyd ar brydiau, lle mae o'n neidio o un peth i'r llall ac yn ailadrodd ei hun.
Un peth ydy gwrando ar rywun yn adrodd hanes gan roi pob manylyn bach dibwys heb gymryd anadl bron ond mae darllen hynny'n beth arall.
Gyda rhai o'r brawddegau yn baragraffau mawrion, roeddwn i'n aml yn ffeindio fy hun yn neidio 'mlaen i'r paragraff nesa - a hyd yn oed y dudalen nesa.
Mynd ar goll Mae ambell berl o wybodaeth neu hanesyn digri yn dueddol o fynd ar goll yn y llif meddwl diddiwedd a thrwy ychwanegu is-benawdau, o bosib, rhannu'r penodau'n ddarnau llai a golygu llymach, gallai'r wybodaeth fod wedi cael ei chyflwyno mewn ffordd well i'r darllenydd.
Hynny yw, tameidiau bach blasus yn hytrach na lobsgows mawr trwm i'n llethu ni.
Wedi dweud hyn, yng nghanol y cyfan, mae 'na ddigon o ffeithiau a gwybodaeth jiwsi yma i blesio unrhyw ddilynwr Big Brother gwerth ei halen.
Fel y darn lle mae Glyn yn s么n am ei siom fod 'ffrindiau' wedi gwerthu storis amdano i'r papurau newydd, ei hanes o'n mynd ati'n fwriadol i wneud ff诺l ohono'i hun er mwyn cael mynd ar y rhaglen, yn cuddio yng Ngwlad Belg cyn dechrau'r sioe neu'n teimlo'n isel ar 么l dod allan a chael ei alw'n bob enw dan haul.
Ond yn bwysicaf, mae'n debyg y bydd ffans go iawn Glyn wrth eu boddau'n cael darllen holl eiriau'r Duw domestig ei hun; a hynny'n union fel y daethon nhw allan o'i geg o!
Cysylltiadau Perthnasol
Glyn Wise yn Eisteddfod yr Urdd
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|