|
Cerddoriaeth y Cymry Golau ar draddodiad cyfoethog cerddoriaeth werin
Adolygiad Rhidian Griffiths o Cerddoriaeth y Cymry: cyflwyniad i draddodiad cerddorol Cymru gan
Arfon Gwilym. Y Lolfa, 2007, 拢5.95.
Pwrpas y gyfrol hon yw cynnig arweiniad i gyfoeth y traddodiad cerddorol Cymreig. Teimla Arfon Gwilym nad yw pobl yn gwybod digon am y cyfoeth sydd ar gael ac nad oes digon o bobl hyd yn oed yn gwybod am y traddodiad.
Arwyddion gobaith Eto i gyd, mae'n gweld arwyddion o obaith yn y diddordeb newydd sydd mewn offerynnau traddodiadol, yn arbennig, ac yn gobeithio y bydd cerddoriaeth draddodiadol Cymru'n gallu dal ei thir yn erbyn bygythiadau'r diwylliant Eingl-Americanaidd rhyngrwydol.
Mae'n llyfr hylaw a hawdd iawn ei ddarllen. Cawn gefndir hanesyddol a phennod ar gerddoriaeth sy'n gysylltiedig ag arferion tymhorol.
Yna, cawn ymdriniaeth ag agweddau penodol, gan gynnwys cerdd dant, baledi, canu plygain ac offerynnau traddodiadol.
Bydd llawer o'r wybodaeth yn newydd ac yn ddiddorol i ddarllenwyr, yn arbennig beth a ddywedir am arferion hela'r dryw a'r Fari Lwyd.
Mae rhychwant yr offerynnau traddodiadol, sy'n cwmpasu llawer mwy na'r delyn, hefyd yn drawiadol - y ffidil, y crwth, y pibgorn a'r bibgod - ac mae'n ardderchog o beth fod pobl yn ailgydio, a hynny'n frwd, yn y traddodiad offerynnol hwn.
Lladd ar y Methodistiaid Droeon drwy'r llyfr mae'r awdur yn lladd ar y Methodistiaid am fygu'r traddodiad gwerin, ac mae Thomas Charles yn ei chael hi am gas谩u'r delyn.
Does dim modd gwadu dylanwad y diwygiadau a fu'n fodd i orfodi llawer i roi heibio eu hofferynnau am byth, ac er mawr golled i'r traddodiad, ond mae'n deg dweud hefyd fod hyd yn oed y diwygwyr wedi defnyddio alawon traddodiadol a aeth yn rhan o ffrwd canu cynulleidfaol fel y datblygodd yng Nghymru'r 19eg ganrif.
Dyled i unigolion Gwelwn gymaint ein dyled i unigolion am gadw arferion a thraddodiadau'n fyw - Nansi Richards, 'Telynores Maldwyn' wrth gwrs, a gariodd draddodiad y delyn deires ar ei phen ei hun nes i genhedlaeth newydd ymddiddori yn yr offeryn; Bob Roberts Tai'r Felin, John Thomas Maesfedw a Ben Phillips, 'Ben Bach' am gadw a chanu caneuon, ac Idris Fychan a Dafydd Roberts, 'Telynor Mawddwy' am ddiogelu arferion canu penillion.
Yn yr ugeinfed ganrif bu gwaith y Gymdeithas Alawon Gwerin a'r Gymdeithas Gerdd Dant yn fodd i ddiogelu a chyhoeddi caneuon ac alawon a hybu diddordeb newydd, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae ffurfio'r Gymdeithas Offerynnau Traddodiadol, Clera, wedi bod yn ysgogiad mawr i offerynwyr. Dyma'r maes mwyaf addawol a gobeithiol at y dyfodol mae'n si诺r.
Cefnogaeth ffurfiol Wedi dweud hynny mae Arfon Gwilym yn gresynu na fyddai mwy o gefnogaeth ffurfiol i gerddoriaeth werin yng Nghymru trwy'r cwricwlwm cenedlaethol a nawdd cyhoeddus, er bod trac bellach yn hyrwyddo datblygiad yn y maes.
Mae'n tynnu cymhariaeth 芒'r Alban lle mae brwdfrydedd newydd o blaid cerddoriaeth draddodiadol a'r iaith Aeleg, a llawer o arian cyhoeddus ar gael i gynnal dosbarthiadau ac ysgolion haf - her i ni yng Nghymru i ddeffro.
Yn anwastad
Mae'r gyfrol ychydig yn anwastad, yn gymysgedd o drafodaeth a chyfeirlyfr, ond fel arweiniad i'r maes mae'n amserol iawn.
Trueni na nodir ffynonellau'r dyfyniadau, ac mae awdur Llyfr Cerdd Dannau yn cael ei enwi'n Robert Griffiths sawl gwaith er mai Griffith yw'r ffurf ar y llyfr ei hun.
Ailadroddir geiriau Thomas Charles ar dudalennau 28 a 88, efallai er mwyn pwysleisio dicter yr awdur tuag ato am ei ddylanwad dif盲ol ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru!
Llyfryddiaeth Ceir llyfryddiaeth ddefnyddiol, ond byddwn yn disgwyl gweld cyfeiriad yno at olygiad Daniel Huws o gyfrol Maria Jane Williams, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg, ac at Hen Alawon: carolau a cherddi, golygiad Meredydd Evans a Phyllis Kinney o lawysgrif John Owen, Dwyran, o garolau.
Cyfrol ddifyr a defnyddiol yw hon, a fydd yn help i lanw bwlch ac yn gymorth, gobeithio, i oleuo'r Cymry am eu traddodiad cyfoethog o gerddoriaeth werin.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|