|
Cestyll yn y Cymylau Rhyfeddod J Howard Beynon a'i gestyll mewn cymylau
Adolygiad Meg Elis o Cestyll yn y Cymylau gan Mihangel Morgan. Y Lolfa. 拢6.95.
Tynged artistiaid o Gymry yn rhy aml yw naill ai cael eu corlannu i fyd y cw锚nt a'r Celtaidd, eu dwyn gan Loegr, neu eu hanwybyddu'n llwyr.
Dyrchafu i'r entrychion Eu tynged yn eu gwlad eu hunain, wrth gwrs, yw cael eu dyrchafu i'r entrychion (neu, fel y dylai rhywun ddweud yng nghyd-destun y campwaith beirniadol hwn, y cymylau) a'u canmol fel artistiaid o safon byd (neu pa bynnag gyfieithiad carbwl a ddefnyddir ar y pryd i gyfleu "world clas").
Nid oes ac ni fu gan Gymru artistiaid y gellir eu disgrifio felly, a gorau po gyntaf i'w beirniaid celf hunan apwyntiedig gyfaddef hynny.
Y drafferth, wrth gwrs, yw nad oes gennym chwaith feirniaid celf o safon - tan yn ddiweddar, o leiaf.
Gwyleidd-dra a dinodedd Eironi o'r mwyaf yw i'r cyfryw feirniad ymddangos - neu yn hytrach, beidio ag ymddangos - yn y llyfryn bychan hwn. Mae gwyleidd-dra a dinodedd yr awdur dienw yn adlewyrchu'n berffaith fywyd a gyrfa wylaidd a di-nod ei wrthrych, J. Howard Beynon.
Ond wrth greu ei gofiant, adlewyrchodd hefyd grefft anfesur gain Beynon ei hun, pan greodd yntau ei ddarluniau dihafal o'i gestyll a'i dyrrau dychmygol.
Mewn brawddeg nodweddiadol wylaidd yn ei ragair, esbonia'r awdur mai am ei fod "yn frodor o'r un dref 芒 J Howard Beynon..." y teimla'n gymwys i ysgrifennu amdano. Mor ddisylw y gollynga hynny ar lwybr y darllenydd, fel petai!
Brawddeg arwyddocaol Yn wir, fe ddadleuwn i mai dyma un o frawddegau arwyddocaol y cofiant-draethawd oll: mae'n ddernyn mor hanfodol o adeiladwaith y gwaith a'r manylion cywrain a welir yng ngweithiau J Howard Beynon ei hun.
Yr artist a'r cofiannydd ill dau yn hanu o Aberdyddgu. Onid oes rhywbeth yn naws a gwead y dref honno sy'n peri i'w thrigolion fod yn neilltuol ddawnus o ran llunio cestyll yn y cymylau?
Ysgubo'n fawreddog A'r fath gestyll! Os treiddiodd gweithiau J Howard Beynon i mewn i'r ymwybyddiaeth ddynol gyda'i fanylder cain, y mae ei gofiannydd yn ysgubo'n fawreddog dros y byd, yn cwmpasu beirniaid craffaf ei ddydd megis Mazillius, Garvey, Martinez a Czerwonobroda (Pwyles, gyda llaw, nid o'r Weriniaeth Siec fel sydd yn y llyfr), ac yn dangos ei wybodaeth eang a'i farn gytbwys am eu holl theor茂au.
Gyda'r holl ehangder gwybodaeth hwn, hawdd y gellir maddau iddo am ambell i frawddeg ddi-ferf, neu hyd yn oed gyffyrddiad chwareus, pan geisia sleifio enw "arbenigwr" dychmygol i mewn i'w waith.
Ond gallasai fod wedi bod fymryn yn fwy crefftus yn hyn o beth - pwy, wedi'r cwbl, fyddai'n cael ei argyhoeddi gan feirniad o'r enw "Mihangel Morgan"?
Gellir maddau Ond gallwn faddau iddo am ambell i dric plentynnaidd, pan ystyriwn ehangder y cofiant, y modd y dygodd artist o fri gwir ryngwladol yn fyw o'n blaenau, a'r ffordd y datgelodd wir arwyddoc芒d gwaith dyddiol di-nod (ond angenrheidiol) ei wrthrych.
Ni ddylem anghofio chwaith fod yn y cofiant hwn yr ychydig enghreifftiau prin o dystiolaeth un a welodd J Howard Beynon ac yn bwysicach na dim (Pennod 9), eiriau a lefarwyd gan y gwrthrych ei hun.
Mae'r perlau hyn ynddynt eu hunain yn gwneud y gwaith yn werth ei gael, ac oherwydd hynny, ni allwn ond gobeithio y gwireddir y bwriad o gyhoeddi cyfieithiad o'r gwaith gan y Dr. T. Robin Chapman (a chymryd nad ffrwyth dychymyg yw'r brawd hwnnw hefyd).
Mae J Howard Beynon a'i waith yn haeddu cynulleidfa ehangach, a gwerthfawrogiad deallus gan y sawl sydd yn gwybod am beth maen nhw'n s么n.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|