'Nofel sy'n haeddu dilyniant'
Adolygiad Llinos Dafydd o Hogan Horni gan Menna Medi. Gomer. 拢7.99.
Dyma stori sy'n gawl potsh o gymhlethdodau teuluol, trachwantau rhywiol ac obsesiynau bis芒r - ond yn llawn hiwmor hefyd.
Ond un nodyn siomedig, cyn cychwyn; mae'n drueni bod y rhan fwyaf o'r chat ups yn gyfieithiadau cawslyd o'r Saesneg - gan gynnwys brawddeg agoriadol y nofel:
"...mae gen i barti yn fy nhrowsus, a ti newydd gael dy wadd!"
Ond, chwarae teg, dyw'r rheini ddim yn amharu ryw lawer ar y stori, diolch byth, a buan iawn y cefais fy sugno i mewn i fywydau Tina Thomas, Bryn y Boncyn, Dic, Gwenan ac Ann.
Yr 'hogan horni' yw Tina Thomas, newyddiadurwraig gyda phapur lleol sydd a thuedd i gysgu gydag unrhyw un mewn trowsus.
Ond yr hyn sydd yn ei chadw hi'n gyffro i gyd yw ei ffling gyda meddyg priod, Dic, a hynny ers blynyddoedd.
Gwyddai o'r dechrau y byddai'n anodd cadw'r berthynas odinebus yn gyfrinach, gan ei bod hi eisiau datgan ei chariad tuag ato i'r byd. Ond perthynas odinebus oedd hi, "...yn union fel chwarae g锚m o b锚l-droed, a theimlai Tina mai eilydd oedd hi mewn g锚m galed, ddi-g么l..."
Mae yna hiwmor heb ei ail ac yn sicr mae Menna Medi yn nofelydd ffraeth.
Dyma Ann, ffrind Tina, yn meddwl am eiriau emynau nad ydynt yn gweddu i'r rhan fwyaf o'r dynion ar drip rygbi:
'Euogrwydd fel mynyddoedd du...' - pryd wnaeth dyn deimlo'n euog ar 么l cael jwmp efo dynes ddiarth?
'Arglwydd, gad im dawel orffwys...' - ar 么l gwneud s诺n uffernol yn caru drwy'r nos?
Mae hefyd yn gallu darlunio yn gelfydd ac amrwd iawn y weithred o gael rhyw gyda chyffelybiaethau graffig - ond weithiau mae peryg mynd dros ben llestri fel y dengys un darlun afiach braidd.
Nifer o straeon
Yr hyn sy'n gwneud i mi ddotio at y nofel yw'r ffaith bod yna nifer o straeon i'w dilyn. Nid rhyw, rhyw, rhyw, yn unig yw hi.
Mae cymhlethdodau teulu Gwenan, ffrind crefyddol Tina; aff锚r gwraig y doctor gyda Boncyn yr ardal; trefniadau priodas Ann a Tomi; ysfa Golygydd y papur lleol i neidio i wely Tina Thomas - i grybwyll ond rhai.
Mae'r diweddglo yn bloeddio am ddilyniant er mwyn gweld beth sy'n digwydd i Dic a'i deulu.
A fydd Ann a Tomi'n hapus yn eu priodas?
A fydd Marie yn byw'n hapus am byth gyda'r babi newydd a Bryn y Boncyn?
Cymaint o gwestiynau i'w hateb ... RHAID cael dilyniant!