大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Geiriau Gorfoledd a Galar
Dwy gyfrol o eiriau pobl eraill

Adolygiad Glyn Evans o Geiriau Gorfoledd a Galar gan D Geraint Lewis a Mil a Mwy o Ddyfyniadau gan Edwin C Lewis. Gwasg Gomer. 拢9.99 a 拢19.99.


Mae casgliadau o ddyfyniadau Cymraeg fel bysus.

Am hydoedd welwch chi'r un ac yna, mwyaf sydyn, wele ddau yn cyrraedd efo'i gilydd.

A than amgylchiadau felly nid yw ond yn naturiol fod croeso mawr iddyn nhw.

O law ddiwyd D Geraint Lewis y daw un gyfrol; Geiriau Gorfoledd a Galar gyda'r bwriad o roi inni y "peth iawn i'w ddweud" ar achlysuron arbennig.

Clawr y llyfr

"Bydd pobl yn gofyn yn fynych am ddarnau addas i'w darllen mewn priodas ac angladd, darnau nad ydynt o reidrwydd yn benodol Gristnogol. Er chwilota dros gyfnod, methais 芒 dod o hyd i unrhyw ffynhonnell amlwg yn y Gymraeg," meddai.

Felly dyma lenwi'r bwlch ei hun gyda'r dyfyniadau yn amrywio o gwpledi neu frawddegau bachog fel; "Mae cariad yn dragwyddol; gorwel yn unig yw marwolaeth, ac nid yw gorwel yn ddim ond terfyn eithaf llygad dyn," i gerddi cyfain fel 驰尘飞补肠芒诲 gan T H Parry-Williams.

O ran chwaeth bersonol y darnau cryno - y bon mots crefftus sy'n apelio fwyaf ataf i - mae llawer i'w ddweud dros wasgu llawer i ychydig o le. O roi potel chwart mewn gwniadur.

Achlysuron amrywiol
Ond o gofio bwriad y gyfrol ni fyddai gormodedd o'r rheini yn gweithio gan i'r casglwr roi nod iddo'i hun o gasglu ynghyd ddeunydd y gellid ei ddefnyddio ar achlysuron mor amrywiol ac angladdau a phriodasau.

Er mor fendithiol y cywair byr, y catiau cwta yr oedd Sarnicol yn gymaint meistr arnynt; mae'r disgwyl gan amlaf am i rywun draethu'n helaethach mewn angladd na dim ond dweud, "Nid diffodd y goleuni y mae marwolaeth, ond diffodd llusern ar doriad gwawr" (Rabindranath Tagore) - er mor feichus y gallai hynny fod i'r traethydd a'r gwrand盲wr ar adegau!

Felly, mae'r rhan fwyaf o'r dyfyniadau yn rhai 'parchus' eu maint gyda rhai ohonynt yn adnabyddus eisoes - megis geiriau y Pastor Niemoeller "I ddechrau daethant am yr Iddewon ac ni chodais fy llais - achos doeddwn i ddim yn Iddew" a droswyd i'r Gymraeg gan Aled Lewis Evans.

Mae trosiad hefyd o eiriau trawiadol William Blake "Gweld nef ym mhlygion blodyn" wedi eu trosi gan T Gwynn Jones.

Penderfyniad doeth
Yr oedd yn benderfyniad doeth ar ran D Geraint Lewis i daflu'r rhwyd yn eangach na'r crefyddol a'r Christnogol yn unig ond yr oedd yn si诺r o fod yn anodd weithiau penderfynu cynnwys y tra chyfarwydd a fyddai mewn peryg o ymylu cymaint ar fod yn ystrydebol ag i fod yn ddiystyr wrth inni fod wedi clywed y geiriau gystal ein bod wedi anghofio'u hystyr.

Geiriau fel rhai tra chyfarwydd Henry Scott Holland, am yr ymadawedig ond yn disgwyl mewn ystafell arall er enghraifft.

Yn gwthio'n erbyn hynny mae pethau fel cerdd hyfryd John Gwilym Jones am ganllawiau Duw wrth fesur dyn:

Pan gaiff dyn ei fesur, gofynnir gan Dduw
Nid sut y gwnaeth farw, ond sut y gwnaeth fyw.

Nid faint a wnaeth ennill, ond faint fyddai'n rhoi,
Ac a fyddai'n aros pan oedd eraill yn ffoi.

Hyd at
Ac y bu yn oleuni mewn ambell i nos,
A throchi ei hun i ddwyn cyfaill o ffos.

Cyfrol fechan 134 tudalen yw hon ac yn cynnwys 117 o ddyfyniadau i gyd. Aeth Gwasg Gomer i rywfaint o drafferth gyda'r diwyg a'r rhwymiad ac oherwydd hynny, a rhuban tudalen porffor, mae gwedd ddefosiynol i'r llyfr.

Gallaf ddychmygu rhai'n troi ati yn aml wrth iddi gymryd ei lle ochr yn ochr 芒 hoff flodeugerddi ar silffoedd llyfrau.

Y bws arall o'r ddau yr oeddwn yn cyfeirio atynt yw Mil a Mwy o Ddyfyniadau gan Edwin C Lewis.

  • Cliciwch YMA I ddarllen am Mil a Mwy o Ddyfyniadau



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy