Cynghorion sgrifennu Bod yn llenor - cynghorion buddiol i sgrifenwyr
Darllen bob dydd yw un o'r cynghorion i ddarpar sgrifenwyr gan gyfarwyddwr cynorthwyol Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol.
Yr oedd Sian Northey yn cynnig ei "chynghorion sgrifennu" ar raglen Si芒n Thomas ar 大象传媒 Radio Cymru ddydd Mawrth 11 Medi 2007 ar drothwy cynnal cwrs i sgrifenwyr newydd yn y ganolfan yn Nh欧 Newydd, Llanystumdwy:
Darllenwch hynny allwch chi - yn y Gymraeg, Saesneg neu unrhyw iaith yr ydych yn ei deall. Darllenwch bob math o bethau.
Darllenwch gerdd y diwrnod hyd yn oed os nad ydych chi'n barddoni. Wrth ochr y lle chwech ydi un o'r lleoedd gorau i gadw llyfr o gerddi.
Tr茂wch ddarllen stwff na fyddech chi'n ei ddarllen fel arfer. Cymryd llyfr o lyfrgell ar hap a damwain neu brynu llyfr am hanner can ceiniog o siop lyfrau ail law neu siop elusen.
Sgwennwch bob dydd. Dywedodd bod ganddi hi lun gartref o gwydryn efo beiro ynddo fo i'w hatgoffa y dylai sgrifennu fod mor naturiol a rheolaidd a brwsio dannedd!
Gyrrwch waith i eisteddfodau. "Da ni'n eithriadol o lwcus o steddfodau yng Nghymru gyda chyfle i anfon gwaith i mewn a chael barn rhywun fel Mei Mac, Annes Glynn neu Myrddin ap Dafydd yn rhad ac am ddim - heblaw am y Genedlaethol, ac mae honno'n rhad. Cysylltwch efo Cymdeithas Eisteddfodau Cymru am fanylion a rhestr testunau.
Peidio poeni am sillfau - "Nid dyblu'r 'N' ydi'r peth pwysig ond dychymyg a'r gallu i ddweud stori ac i glywed s诺n iaith.
Ond tr茂wch ffeindio rhyw ffordd o gywiro gwallau cyn gyrru'r stwff allan i'r byd mawr.
Dwi'n lwcus fod gen i ffrind sy'n fodlon darllen pethau a chywiro sillafu heb fusnesu gormod yn y cynnwys. [Fel arall] rhaid defnyddio geiriadur ac mae angen ei wneud o ran parch at iaith a hefyd, pan ydych chi'n dechrau sgrifennu, dydych chi ddim eisiau pobl yn difetha'ch hyder chi trwy feirniadu sillafu a gramadeg.
Awgrymodd hefyd, yn naturiol, gwrs yn Nh欧 Newydd.
Mae Sian Northey yn olygydd casgliad o straeon meicro, Corachod Digartref ac yn awdur casgliad o 13 o straeon byr; Ar y Daith.