大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Bardd y Brws Paent
Dawn heb ymffrost

  • Adolygiad Lois Eckley o Bardd y Brws Paent gan William Selwyn. Gwasg Carreg Gwalch. 拢24.
  • Mae'r llyfr newydd hwn sy'n gasgliad o eiriau gan ffrindiau a lluniau a gwaith amlgyfrwng gan William Selwyn ei hun yn un gwerth ei gadw.

    Mae'n arlunydd uchel ei barch ymhlith ei gyfoedion fel y dengys geiriau y diweddar Kyffin Williams am ei gamp.

    Yn gyn athro am flynyddoedd yn ardal Caernarfon, daeth i fri ers ymddeol a mynd ati o ddifri i beintio.

    Llun o'r gyfrol

    Defnyddia sawl cyfrwng ac mae'n feistr mewn dyfrlliw.

    Yn gyn ddisgybl fy hunan yn nosbarthiadau celf Anthony Evans a Gwyn Roberts mae'n gwneud imi feddwl sut athro oedd William Selwyn ac os oedd blynyddoedd o ddysgu wedi bod yn ysgogiad iddo i fynd ati ei hunan yn y pen draw.

    Yn y llyfr mae'n cael ei ddisgrifio sawl gwaith fel dyn diymhongar gan Kyffin Williams a Daloni Metcalfe.

    Dim 'ego'
    Mae'r nodwedd honno yn amlwg yn ei waith gan nad oes dim 'ego' ynddyn nhw ac yntau'n arlunydd digon mawr i adael i'r gwaith siarad drosto'i hunan ac i argraff neu deimlad neu gymeriad gymryd y lle blaenaf.
    Dim ond y gwaith sy'n cael llwyfan.

    Mae'n gwisgo ei waith yn raddol ac yn ofalus heb orlwytho'r llun 芒 llinellau neu liw neu gysgod a golau. Mae'n waith syml o gymhleth ac yntau'n gwybod yn iawn pryd mae ymatal.
    Mae honno'n grefft ynddi ei hun.

    Daw teimlad o berthyn ac o adnabod dros y gwyliwr wrth edrych ar luniau William Selwyn. Mae modd gweld yn union ymhle y bu ei frwsh paent ac adnabod ar amrantiad yr olygfa fel petaech chi yno.

    Mae'n amhosib, er enghraifft, methu ag adnabod unigrwydd Enlli a'r golau'n torri trwy gymylau tywyll Porth Dinllaen.

    Adlais
    Mae adlais o Turner yn Morglawdd yng Nghricieth a Bore Cynnar, Foryd ac o dywyllwch Peter Prendergast yn Haf Nant Peris.

    Mae'n adnabod y tir a'r cymeriadau sydd yn byw arno ac yn eu defnyddio nhw yn ei luniau fel ag yn Trafodaeth ym Mryncir.

    Llun o'r gyfrol

    Mae'r tir a'r hyn sydd arno yn gelf ynddo'i hyn iddo ac mae'n real ac yn onest.

    Ond dydi William Selwyn ddim wedi chwarae'n gwbwl saff yn y gyfrol hon ac wedi mentro o hafan ei filltir sgw芒r a chynnwys gweithiau hudolus a wnaeth dramor yn Fflorens ac ym Mharis.

    Mae'r golau yn felys o binc ac euraidd ar Ponte Vecchio ac yn dawnsio wrth iddi nosi yn Gyda'r nos, Paris gan fynd 芒 ni i gyfnod arall trwy gyfrwng lluniau sy'n gyffrous ac yn brydferth ac yn ffres.
    Dwi'n amau iddo yntau fwynhau yr her o olygfeydd mor wahanol i'r arfer.

    Wynebau difyr
    Mae yna wynebau difyr yma hefyd megis Dick Evans, cocsyn cwch achub Moelfre, yn llinellau mewn pensil i gyd; pob llinell, dybiwn i, yn cyfri'r blynyddoedd a adawodd eu h么l arno.

    Llun sy'n denu'r gwyliwr i mewn unwaith eto. Llun sy'n gorfodi'r cwestiynau; Pwy yw hwn?
    Beth yw ei hanes?

    Llwyddodd y gyfrol i gyflwyno trawsdoriad o olygfeydd a lleoliadau a chymeriadau inni yn ogystal 芒 dangos cryfder yr arlunydd mewn sawl cyfrwng a chyda sawl testun.

    Ceffyl

    Mae'n arlunydd sydd yn dilyn ei reddf ac nid yn unig yn dal sefyllfa ond yn dal y mood a'r teimlad sydd yn ychwanegu at rym ei luniau.

    Mae aeddfedrwydd ei ymdriniaeth yn brawf o'i feistrolaeth ar ei faes - er mae'n si诺r na fyddai oherwydd ei natur yn cyfaddef hynny.

    Mae'n ein cyflwyno ni i weithiau arbennig yn dawel bach. Mae'n werth cymryd eich amser wrth edrych ar ei waith.
    Mae hyder yn y brwsh a'r llinellau ar ei gynfas a dawn ddi-os ar y tudalennau hyn.



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy