Llyfr am 'Gymro enwocaf America'
Mae Cymro a dreuliodd ddeugain mlynedd yn ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau yn cael ei gofio mewn llyfr newydd gan Jerry Hunter.
Dywed fod Robert Everett ym narn llawer yn "Gymro enwocaf America".
"Llafuriai dros nifer syfrdanol o achosion," meddai.
Ond yn fwyaf arbennig mae'n cael ei gofio am ei ymgyrch ddi-baid yn erbyn caethwasanaeth Americanaidd.
Traddodwyd darlith ar y pwnc gan Jerry Hunter dan nawdd Undeb Cymru a'r Byd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn ol.
"Am dros 40 mlynedd bu Robert Everett yn taflu'i bwysau moesol a deallus y tu 么l i'r ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth gan ddefnyddio'r pulpud, yr ysgrifbin, y wasg argraffu a'r blaid wleidyddol er mwyn radicaleiddio Cymry America a'u byddino yn erbyn y drefn anfoesol honno," meddai.
Dyma ail gyfrol Jerry Hunter yn ymwneud 芒 hanes yr Unol Daleithiau yn y cyfnod hwn - dewiswyd Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America yn Llyfr y Flwyddyn yn 2004 ac fel ei gyfrol ddiweddaraf, I Ddeffro Ysbryd y Wlad - Robert Everett a'r Ymgyrch yn erbyn Caethwasanaeth Ameicanaidd cyhoeddwyd honno hefyd gan Wasg Carreg Gwalch.
Ond yn ogystal a'i frwydr yn erbyn y drefn oedd yn caniat谩u cadw pedair miliwn o bobl dduon yn eiddo i Americanwyr eraill yr oedd y Cymro hwn yn brwydro hefyd "i greu a chynnal traddodiad llenyddol Cymraeg yn yr Unol Daleithiau; achos crefydd ymysg y Cymry, dirwest a hawliau merched."
Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor ydi Jerry Hunter ac yn Americanwr o dras. Yn ogystal a'i ddau lyfr 'Americanaidd' cyhoeddodd hefyd Soffestri'r Saeson: Hanesyddiaeth a Hunaniaeth yn Oes y Tuduriaid a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ac a ymddangosodd hefyd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn - yn 2001.
Bydd noson i ddathlu cyhoeddi ei gyfrol yn yr Ystafell Gynhadledd, Yr Hen Goleg, Coleg Prifysgol Cymru, Bangor, 10 Hydref 2007 am 7.00 o'r gloch gyda gwrs am Robert Everett gan yr awdur a darlleniadau o gerddi o'i deithiau yn America gan Iwan Llwyd.
Pris y gyfrol yw 拢9.95.