Gofidio am ymgeiswyr na fanteisiodd ar wersi'r beirniaid . . .
Meg Elis yn trafod Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Sir Y Fflint a'r Cyffiniau. Golygydd J Elwyn Hughes. Llys yr Eisteddfod. 拢7.
R诺an ydi'r amser i sb茂o drwy'r Cyfansoddiadau, wedi i'r wythnos fawr fynd heibio, a dwyn gyda hi gyfnod cario'r gyfrol yn ymwybodol ar hyd y Maes i ddangos eich bod chi'n Steddfodwr/wraig Go Iawn.
Ac yn naturiol, medrwch fanteisio ar wybodaeth yfory a drennydd, heb s么n am synnwyr drannoeth: mae gennych well syniad pwy oedd yr anfuddugol, wrth i helwyr clecs, cyhoeddwyr - heb s么n am yr anfuddugol eu hunain - ddatgelu eu cyfrinachau.
Faint, tybed, o garedigion ll锚n sydd ar y funud hon 芒 dwy gyfrol wrth law, yn croesgyfeirio'n wallgo rhwng y Cyfansoddiadau a rhifyn adladd Barddas?
Cymaint o sibrydion
'Toes cymaint o sibrydion a phethau a glywyd yn dod yn fwy eglur? Dod i ddeall pam fod Jason Walford Davies wedi tyngu nad oedd o am drio am y goron, a dau o'i Adran o yn beirniadu. A chwarae teg iddo am beidio 芒 chreu embaras - ond ddywedodd o ddim am ei efaill, naddo?
Wrth gwrs, nid oedd y beirniaid yn unfarn, ac un o bleserau'r gyfrol yw mai Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yw hi - mae mor bwysig peidio ag anghofio'r ail elfen, sydd fymryn yn amlycach eleni, efallai, oherwydd yr holl hw-ha ynghylch "anghytundeb" y beirniaid.
O ddarllen y gyfrol, fe gewch well syniad o lle bu anghytuno, safbwyntiau beirniaid unigol - ac ambell bwt i'n temtio o'r gweithiau anfuddugol.
Rydw i'n reit si诺r mai dyma un o'r prif resymau dros boblogrwydd a gwerthiant y Cyfansoddiadau - mae'n gymaint o gymorth i wneud pawb yn feirniad ac an arbenigwr.
Cyfrol ddelfrydol i'r Cymry......
Deall eu crefft
Ond mae'r rhan fwyaf o feirniaid yr Eisteddfod yn feirniaid am reswm - maen nhw'n gwybod am beth maen nhw'n s么n ac mae ganddynt safbwyntiau.
Does dim rhaid cytuno 芒'r safbwyntiau hynny ond mae eu darllen yn medru bod yn addysg ac yn hyfrydwch, pan welwch fod yma bobl sydd yn deall beth yw hanfod eu crefft, beth sy'n gwneud darn o lenyddiaeth, boed g芒n, stori fer neu awdl.
Y trueni yw bod gweld peth o'r cynnyrch anfuddugol - a buddugol, hefyd, rhaid dweud - yn peri i rywun dybio na fanteisiodd rhai ymgeiswyr ar y gwersi hynny.
Yn wir, mae darllen rhai o'r sylwadau a'r gweithiau yn peri i rywun amau a ddarllenodd rhai ymgeiswyr erioed unrhyw waith llenyddol Cymraeg sydd heb ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant o leiaf.
Ar bwy mae'r bai?
Pwy i'w feio?
Gosodwyr y testunau?
Prin, dybiwn i - esgorodd y Pwyllgor Ll锚n ar restr testunau amrywiol a difyr iawn, yn enwedig o gofio eu bod dan y fath bwysau amser.
Dim pwynt dadlau fod rhyw ffurf yn gynhenid hen-ffasiwn - gall sgwennwr da wneud gwyrthiau gydag unrhyw ffurf neu destun. Nid mod i'n credu i hyn ddigwydd bob tro eleni - nid oes i'r Ysgrif Bortread, er enghraifft, er mor gaboledig, unrhyw naws gyfoes.
Beio'r beirniaid, efallai?
Wnawn i mo hynny, chwaith. Creaduriaid digon amrywiol ydynt, wrth reswm - ond gall y goreuon roi gwers meistr yn y grefft.
Campwaith am garol
Yr esiampl orau yng Nghyfansoddiadau'r Fflint yw beirniadaeth Rhiannon Ifans ar y Garol Plygain - campwaith, a ddylai fod yn ddarllen gorfodol i'r rheini sy'n diffinio crefydd fel y rwtsh ffwndamentalaidd neu'r sentimentaleiddiwch Munud i Feddwl-aidd sydd wedi heijacio crefydd yng Nghymru heddiw.
Patrwm o feirniadaeth a gafwyd yma - a phatrwm o gyfansoddiad yw ll锚n meicro buddugol Guto Dafydd. All rhywun ond bod yn ddiolchgar am y cyfle i'w ailddarllen a'i fwynhau, am mai darn felly ydyw, a hynny gan un y bydd ei waith yn sicr yn ymddangos yng Nghyfansoddiadau'r dyfodol.
Mae yna ddyfodol i l锚n greadigol yn ei ystyr ehangach yn 么l tystiolaeth y gyfrol, yn feirniadaethau, cyfansoddiadau buddugol ac anfuddugol.
Y pinacl
Awdl T. James Jones, yn ddiamau, yw'r pinacl, ac y mae bywiogrwydd yn y farddoniaeth a'r rhyddiaith, fel y gwelsom o'r cyfrolau buddugol.
Wrth gwrs, nid yw'r darlun yn hollol obeithiol: siomedig oedd y gystadleuaeth Pennod o Hunangofiant i mi, o ran buddugol, anfuddugol a beirniadaeth.
Nid oherwydd yr ysgrifennu ei hun, sy'n eithaf caboledig, ond am nad oes yma dystiolaeth am sbarc o wreiddioldeb na newydd-deb.
Yn beryglus
Mae hyn yn fwy na gwahaniaeth chwaeth - mae'n beryglus, am ei fod yn atgyfnerthu'r syniad ymhlith pobl ifanc (a rhai canol oed, cofiwch!) mai diflastod gwledig hen-ffasiwn yw nod amgen ysgrifennu Cymraeg.
Ond ar dystiolaeth y Cyfansoddiadau, ac Eisteddfod Sir y Fflint ei hun, diolch byth, tydi hynny ddim yn wir.