Twm Elias yn trafod hen arferion
Cyhoeddi Tro Drwy'r Tymhorau gan twm elias. Gwasg carreg Gwalch. 拢8.50.
Beth yw Sul y Pys?
Beth yw ystyr 'byw tali'?
Pam mai Ebrill yw dechrau'r flwyddyn ariannol?
Dyna'r math o gwestiynau sy'n cael eu hateb yn llyfr newydd Twm Elias, un o haneswyr gwerin a naturiaethwr amlycaf Cymru.
Mae Tro Drwy'r Tymhorau yn dilyn, fis wrth fis, amrywiol wyliau, ofergoelion ac arferion - llawer ohonynt a'u dechreuad yn y cyfnod cyn-hanes
Ac fe welir hefyd bod rhai ohonynt yn amrwyio'n go arw o ardal i ardal.
Dangosir hefyd sut y tanseiliwyd hen wyliau gan rai newydd - neu sut y gwisgodd arferion newydd ddillad yr hen rai.
"Mae nifer o'n gwyliau Cristnogol ni wedi mabwysiadu dyddiadau oedd eisoes wedi'u sefydlu fel dathliadau blynyddol," meddai Twm Elias, sy'n ddarlithydd h欧n yng Nghanolfan Astudiaethau Awyr Agored Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tanybwlch ger Maentwrog yng Ngwynedd.
"Roedd rhai o'r dyddiadau hyn yn ysbrydol eu naws tra roedd eraill wedi'u seilio ar arferion dyn o dymor i dymor," ychwanegodd.
Cyhoeddwyd Tro Drwy'r Tymhorau yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai yng Nghlynnog Fawr ger Caernarfon nos Glangaeaf 2007.
"Mae taith ryfeddol Twm Elias drwy'r tymhorau yn almanac o ffeithiau diddorol am ein prif wyliau yn ogystal ag am draddodiadau sy'n llai amlwg," meddai Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch, y cyhoeddwyr.
"Rydym hefyd wedi neilltuo lle gyda phob mis yn y llyfryn i'r darllenwr ychwanegu dyddiadau sy'n berthnasol i'w deulu neu gymdeithas," meddai.
Mae Twm Elias yn awdur a darlledwr diwyd ac yn un o gyfranwyr cyson Galwad cynnar bob bore Sadwrn ar 大象传媒 Radio Cymru.
Mae'n arbenigwr ar draddodiadau gwerin a bywyd cefn gwlad ac yn olygydd Fferm a Thyddyn - cylchgrawn sy'n ymwneud yn benodol 芒 hen arferion gwledig.