Dychryn a gwae - bendigedig
Adolygiad Llinos Dafydd o Y Moch a Straeon Eraill gan Dyfed Edwards. Gwasg Carreg Gwalch. 拢7.50
Tachwedd 2007
Os ydych chi'n gall, fyddwch chi ddim yn darllen y gyfrol hon gyda'r nos, ar eich pen eich hun, mewn t欧 mawr ar ochr stryd, yn llawn corynnod, cysgodion a Duw a 诺yr beth arall!
Dyna a wnes i.
Darllen y straeon un noson pan oedd y g诺r i ffwrdd yn gweithio a fy merch fach yn cysgu'n braf yn y 'stafell gyferbyn.
Ac difaru fy enaid!
Nid am bod safon y straeon yn wael ond oherwydd i bron bob un fferru fy ngwaed a pheri i mi gael noson anghysurus o gwsg ac amau pob smic yr oedden i'n ei glywed wedyn.
Ai s诺n putain gyda nadroedd yn wallt oedd ar y grisiau?
Na, dim ond y bobol drws nesa'n mynd i'w gwely mae'n si诺r.
Gobeithio!
Ydy'r cwpwl ifanc sydd wedi symud gyferbyn 芒 ni'n mynd i'n lladd ni gyd?
Maen nhw wedi bod draw i gyflwyno'i hunain, a'u cyfenw yw Jones - yn gwmws fel stori arswyd, Mr a Mrs Jones gan Dyfed Edwards!
Ydy fy ffrind yn mynd i gael ei lladd gan ddraig ar 么l cael tatw draig ar ei chefn; ac ydy fy nymuniadau ffwrdd a hi, fel gobeithio bod yr hulpan wirion sy'n gweithio yn y Spar wir yn mynd i gael ei tharo lawr gan fws am beidio 芒 gadael imi brynu lager y noson o'r blaen - er fy mod i'n 22?!
Amau pob dim
Gwnaeth y gyfrol hon i mi amau pob dim mewn bywyd ond ar yr un pryd rwyf innau wedi cymryd y straeon o ddifrif - go iawn.
Ond byd ffantasi sydd fan hyn.
Ond er hynny, mae yna ambell i wirionedd yn llechu - fel y ffaith na allwch chi ymddiried yn neb y dyddiau hyn.
Mae sawl darlun wedi aros yn fy nghof - fel yr olygfa yn y puteindy yn Hon
"Tynhaodd cyhyrau Harris wrth wylio'r seirff yn sleifio i'r tyllau yng nghorff Williamson; i'w geg a'i ffroenau a'i glustiau . . . a gwelodd Williamson yn cydio ym mochau ei din."
Rwy'n edmygu pobol sy'n medru ysgrifennu straeon arswyd gan fod gofyn arnyn nhw i fod yn fanwl iawn yn y dweud, cael llinyn stori a thro yn y gynffon yn aml iawn.
Mae'n ddawn ynddi ei hun.
Gelyn hynafol yn effro wedi canrifoedd yn y pridd yn aflonyddu ar y ddynolryw fu'n gyfrifol am ei drechu; Cymdogion gw锚n deg sydd 芒 bwriadau arswydus;
Byd natur yn dial ar y cnafon a fwrdrodd hen arddwr triw; Dymuniadau dychrynllyd llanc barus yn cael eu gwireddu gan Sion Corn dieflig;
Melltith erchyll sy'n dod 芒 dioddefaint, gwallgofrwydd a marwolaeth i unrhyw un sy'n pechu'r hen dduwiau ...
A sawl chwedl arall o fraw a dychryn gan Dyfed Edwards sy'n mynd 芒'r darllenydd ar daith i'r mannau tywyll lle mae yna bethau anghynnes ar y naw yn trigo.
Mae'r cyfan yma'n gasgliad o erchyllterau sy'n gwneud y gyfrol hon yn un gwerth chweil ac mae yna ddisgrifiadau wedi aros yn fy nghof fel y ddynes yn Hon yn cael ei disgrifio fel un 芒 chroen fel marmor, a "gwallt yn ddu fel neithiwr" a "blas y fuddugoliaeth yn felys ar wefusau" y cawr.
Rhybudd a gwers
Mae gwers i ambell i stori gyda rhybudd ar ddiwedd Mr a Mrs Jones i wylio mas amdanyn nhw gan fod y cwpwl priod yn symud o le i le yn lladd eu cymdogion!
Lle fyddan nhw mynd nesaf?
Wel i unrhyw le sy'n llawn o gymdogion a fydd yn gwmpeini gwych ar nosweithiau tywyll.
"Ella'ch bod chi'n un ohonyn nhw. Mi fyddai hynny'n werth chweil, yn byddai."
Byddwn yn annog pawb i ddarllen y gyfrol hon gan y newyddiadurwr a'r awdur sy'n wreiddiol o Sir F么n - ond yn y cyfamser, gofalwch beidio 芒 mynd yn agos at foch, puteindai na groto Si么n Corn rhag ofn i'ch bywyd chwithau gael ei ddifetha'n llwyr!