大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Glaw a Hindda
Hunangofiant W锚s W锚s

Adolygiad Gwyn Griffiths o Glaw a Hindda. Hunangofiant Jenny Ogwen. Gomer. 拢7.99.

Teitl yw Glaw a Hindda a ddewiswyd i wneud defnydd o'r ffaith i Jenny Ogwen fod, ar un adeg, yn ddynes tywydd S4C.

Mae'n rhoi hefyd awgrym cyfleus o ddrycin a hindda bywyd.

Y gwir am y llyfr yw ei fod yn un o heulwen ac asbri; yn llyfr sy'n rhoi'r argraff o berson byrlymus yn mwynhau pob munud o fywyd.

Ac fe wnaeth beth dewr, ei sgrifennu bob gair yn y Ddyfedeg, tafodiaith Sir Benfro. Y W锚s W锚s.

Clawr y llyfr

Dewr, oherwydd os nad ydych yn argyhoeddi wrth sgrifennu mewn tafodiaith, yna mae'r cwbl yn cwympo'n fflat. Ac mae'n hawdd i hynny ddigwydd.
Da medru dweud bod Jenny Ogwen yn argyhoeddi. Bob cymal. Bob gair.

A 'does dim cyfaddawdu yngl欧n 芒 rheolau treiglo anarferol Sir Benfro; "W锚n i tamed bach ..."

Fedra i ddim cofio i mi erioed gyfarfod Jenny er fy mod i'n adnabod Euryn, ei g诺r yn bur dda ac wedi holi ei brawd, Jonathan, ar gyfer erthygl bapur newydd flynyddoedd yn 么l.

Miss Norvic
Eto, roeddwn i'n gwybod tipyn amdani. Pan ddeuthum i fyw a gweithio yn Sir Benfro ddechrau'r Chwedegau mi glywais lawer am y ferch o Grymych ddewiswyd yn Miss Norvic Teenager of the Year.

Mae'r darlun a gawn o'i magwraeth gynnar yn y pedwar a'r pum degau yn un pur wahanol i'r un arferol o Gymro neu Gymraes a siaradai Gymraeg.

Mae'r eisteddfodau yma, wrth gwrs, yn arbennig rhai'r Urdd, ond pa ddisgybl yn Ysgol Gynradd Crymych na allai fod yn rhan o'r traddodiad hwnnw 芒 W. D. Williams (Mishtir) yn brifathro?

Clamp o gymeriad yn mynd o gwmpas yn pregethu dirwest a'i bwten fach o wraig, Fflori, yn gwneud y gwin cartref cryfaf yng ngogledd y sir!
Rhag annwyd, wrth gwrs.

Wyau tegan
Roedd pob rhyddid i Jenny ar ffermydd perthnasau tua Blaen-ffos. A rhag ofn y bydd Jenny'n darllen hyn o eiriau, pwynt gadael wy tegan mewn nyth oedd denu'r i芒r i ddodwy yno yn hytrach nag ym m么n unrhyw berth neu d芒s - nid i'w denu i ddodwy mwy.

Yr hyn sy'n anarferol yw'r darlun o fywyd cymdeithasol mwy dosbarth canol gyda Chlwb Golff Trefdraeth a rhan bwysig ym mywyd y teulu - a bu golff yn bwysig ym mywyd Jenny byth wedi hynny.
Yr oedd hi, wedi'r cwbl, yn ferch i ddyn busnes llwyddiannus yng Nghrymych.

Jenny - Miss Norvic

Cawn gip o hanes ffilmio Moby Dick, lawr tua Tyddewi 'rwy'n credu, ond bod yr actorion yn lletya yn y Fishguard Bay Hotel ac yn dod fyny i Glwb Golff Trefdraeth am eu difyrrwch.

Barn mam Jenny, a fynegwyd yn ddiflewyn wrth Gregory Peck, oedd, "Your film will never be a success, you know, it hasn't got a woman in it."

'Does ryfedd yn y byd i'r ferch fach naw oed a fu'n dyst i hyn ac a gafodd lofnod y mega seren, fynd yn dipyn o seren ei hun ym myd y sgr卯n fach. Gyda mam mor hunan-hyderus a hyn'na 'roedd gan Jenny dipyn o'i phlaid.

I Lundain
O Ysgol Ramadeg Aberteifi cafodd fynd i St Godric's yn Llundain i ddysgu bod yn ysgrifenyddes a gwneud Finishing Course - a hithau ond yn 16 oed. Roedd ei hwythnos gyntaf yno'n cyd-ddigwydd 芒'i hymddangosiad - buddugoliaethus - yn rownd derfynol cystadleuaeth Miss Norvic.

Cawn yr argraff i ffawd wenu'n dyner arni. Cafodd waith gyda London Artists, asiantaeth actorion oedd yn gofalu am Laurence Olivier a mawrion eraill y theatr a'r ffilmiau.

Mae'n amlwg i'r ferch o Grymych ymdopi'n gartrefol ymysg cyfoethogion a mawrion Llundain.

Darn arall o ffawd ddaeth a hi'n 么l i Gymru at TWW a rhaglen Y Dydd a hithau heb gyrraedd ei hugain oed.

Dyddiau cynnar teledu Cymraeg
Cawn ganddi ddarlun byrlymus o ddyddiau cynnar teledu Cymraeg a hithau ar wahanol adegau'n ysgrifenyddes a pherfformwraig ar y sgr卯n mewn gwahanol rhaglenni.

Mae ganddi stori dda am Cynan yn cyrraedd derbynfa TWW yn y dyddiau cynnar a rhyw Albanwr yn ei groesawu; "Well, young sir, what do you do? Sing, dance or play the piano?"

Mae yna awgrym na fu ei gyrfa'n hindda ac yn haul i gyd. Beth bynnag am hynny, roedd hi'n barod i roi cynnig ar unrhyw beth - fel gweithio i gwmni oedd yn paratoi te Cymreig mewn cynadleddau twristiaeth ledled Ewrop.

Bu mewn pantomeim gyda Stan Stennet ac wedyn yn 么l at y teledu - yn proffwydo'r tywydd ar S4C.

Mae yma lawer mwy, ei gwaith elusennol, y teulu, Euryn yn gwleidydda ac ati ac ati...

Cyfrol - a bywyd - heintus o frwdfrydig yn cael ei gyfleu yn annwyl, yn ddidwyll ac ar garlam gwyllt.

A mwynhewch y dafodiaith hyfryd o ba le bynnag y dewch yng Nghymru.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy