Llyfr Mawr Wcw a'i Ffrindiau Llyfr lliwgar a bywiog
Golwg ar Llyfr Mawr Wcw a'i Ffrindiau, 2008. Gwasg Carreg Gwalch mewn cydweithrediad 芒 Golwg Cyf. 拢6.95.
Byddai'n anodd dod o hyd i lyfr hosan Nadolig gwell na llyfr mawr Wcw a'i Ffrindiau ar gyfer plant - mewn unrhyw iaith!
Mae'n flwyddlyfr gwerth chweil sy'n gyforiog o bob math o weithgareddau i blant ymgolli ynddyn nhw.
Ac fe fydd yn apelio at rai nad ydynt yn ddarllenwyr cyson y comic yn ogystal 芒'r ffyddloniaid.
Yn 么l y disgwyl mae'r ffrindiau arferol yn britho'r dalennau lliwgar a bywiog: Twmff y Gath, yn cynnal syrcas; Sali Mali; Dewi'r Ddraig; Rwdlan; Mr Men; Taran a Fflach ar drywydd y Twrch Trwyth ac yn cyfarfod dyn sy'n baglu dros ei farf ei hun; Mabon a Mabli a hefyd mae yna Stori Fawr Wcw a stori stribed Planed Ribidiriwbob.
Ond yr hyn sy'n gwneud y blwyddlyfr yn gymaint o bleser, yn ychwanegol at ei fywiogrwydd a'i liwiau, yw y nifer fawr o bosau a gemau - ambell un ohonyn nhw yn rhai y gall mwy nag un eu cyflawni ar yr un pryd ac yn destun hwyl ar yr aelwyd.
Yn eu plith mae: Darganfod cymeriadau mewn llun poblog; Lluniau i'w lliwio; Creu lluniau trwy gysylltu dotiau; Darganfod darnau sydd ar goll o lun; Drysfeydd a phosau geiriau.
Ac yn nhraddodiad gorau Blue Peter mae yna hefyd bethau i'w gwneud a resipi gwneud crempog yng nghegin Twts gyda Martyn Geraint.
Yn y cefn mae dalennau Saesneg i hwyluso'r ffordd i ddysgwyr.
Mewn llyfr prysur mae'r diwyg a'r cyflwyniad yn rhagorol ac yn cymharu'r ffafriol a'r goreuon o lyfrau o'r fath sydd ar gael.
Ydi. Mae Llyfr Mawr Wcw yn un y bydd croeso mawr iddo. Glyn Evans