|
Blas Cas Nofel ar frig y llanw yng Ngwent
Adolygiad Grahame Davies o Blas Cas gan Ion Thomas. Cyfres Whap. Gwasg Gomer. 拢4.99
Wrth ymweld 芒 Chasnewydd, fe ddaw rhywun yn ymwybodol o effeithiau llanw a thrai.
Weithiau mae Afon Wysg yn llawn at ei glannau, ac yn gydymaith ariannaidd i ganolfan gelfyddydau newydd sgleiniog Glanyrafon.
Ar adegau o drai, aceri o laid sydd yn yr un lle, hagr i'r llygaid dynol efallai, ond hyfrydwch pur i'r adar arfordirol sy'n pigo'u cynhaliaeth o'r glannau budron.
Llanw a thrai Hanes o lanw a thrai a fu yn hanes y Gymraeg yn yr ardal hefyd. Rai blynyddoedd yn 么l, cefais y pleser o adolygu llyfr Glyn Tegai Hughes ar y bardd Islwyn a fu'n ysgrifennu yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a synnais o ddarllen am gyd-destun cymdeithasol y bardd a darganfod sut y bu Gwent y cyfnod, gan gynnwys Casnewydd, yn ferw o weithgaredd ddiwylliannol Gymraeg.
Ond buan y ciliodd llanw'r iaith. Ganrif yn ddiweddarach, a'r trai wedi cyrraedd ei isafbwynt, roedd cyngor sir Gwent yn gwahardd y Brifwyl o'i thiriogaeth oherwydd ei rheol Gymraeg ac nid oedd addysg Gymraeg yn yr ardal yn fawr fwy na breuddwyd.
Wel, fe drodd y llanw eto, gyda phrifwyl Casnewydd 1988 yn symbol o'r modd y bu tro ar fyd. Bellach fe geir ysgolion Cymraeg ledled yr hen sir. Yn y diwedd, yr elyniaeth, nid yr iaith, a dreiodd.
Gwelais dystiolaeth o'r adfywiad hwn a'm llygaid fy hun wrth imi fynychu lansiad nofel gyntaf Ion Thomas, Blas Cas, yn Rodney Parade, cartref Clwb Rygbi Dreigiau Casnewydd.
Roedd y lle dan ei sang: dau fachgen ifanc yn chwarae cerddoriaeth fyw Gymraeg yn y cefndir, criw ffilmio a cherbyd lloeren yn gwneud eitem fyw i Wedi Saith ar S4C, a llond y lle o bobl ifanc o Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypwl, lle mae'r awdur yn bennaeth adran y Gymraeg.
Rhoi gobaith Roedd y cyfan yn rhoi gobaith y byddai pobl ifanc yr ardal yn ailfeddiannu'r hen ddiwylliant.
Y gobaith hwnnw, mae'n amlwg, sydd y tu 么l i'r nofel, a luniwyd ar gyfer pobl yn eu harddegau, ac sydd wedi ei lleoli yng Nghasnewydd.
Nid Casnewydd y byddai Islwyn wedi adnabod llawer arni yw hon ychwaith: un cyfeiriad wrth fynd heibio sydd at gapel - un cadarnhaol serch hynny - ac os oes 'na unrhyw beth sy'n ysgogi angerdd i'r bachgen yn ei arddegau sy'n brif gymeriad, yna rygbi yw hwnnw.
O - a merched wrth gwrs, rhywbeth, erbyn meddwl, y buasai bardd Y Storom efallai wedi cydymdeimlo ag ef.
Casnewydd gyda phwyslais ar y 'newydd' yw hon. A chyda rhywfaint o'r 'cas' hefyd. Gyda stori yn ymwneud 芒 chynllwyn i ddwyn cyffur meddygol, a chyda chriw o hoodies yn gymeriadau cyson, ceir digon a glatsio a chwffio, dianc a dwyn. Digon, yn wir i fodloni'r union farchnad yr anelir y llyfr ati.
Wrth ei darllen, gan droi o un digwyddiad carlamus i'r llall a chael fy hyn yn cydymdeimlo 芒'r prif gymeriad, Dafydd, ac yn dymuno iddo lwyddo i ddianc rhag crafangau giangiau troseddol rhyngwladol a phrifathrawon dicllon ill dau, cefais fy hun yn diolch nad oedd yr awdur wedi oedi gormod wrth ddisgrifio awyrgylch a chynefin.
Pleser Cefais fy atgoffa o'r pleser, a'r teimlad o ymlacio, a brofais yn yr ysgol ers talwm, yn darllen llyfr antur o'r enw Dychweliad y Swastika. O'r diwedd, meddyliais, llyfr Cymraeg lle mae pobl yn gwneud pethau go iawn, fel saethu at ei gilydd a darganfod cynlluniau rhyngwladol cudd yn digwydd yn eu hardal leol.
Hynny yn lle cuddio mewn tas gwair neu ddwyn capiau stabal eu gilydd neu beth bynnag oedd yn cyfri fel cyffro yn y cefn gwlad lle roedd cynifer o nofelau Cymraeg fel petaent wedi eu gosod.
Dwyn cyfrinachau Nid neo-Nats茂aid yw'r gelynion yn stori afaelgar Ion Thomas. Yn hytrach, rhai o ddwyrain Ewrop yw'r dihirod y tro hwn ac nid adfer y swastika yw'r nod, ond dwyn cyfrinachau cemegol a fuasai'n golygu ffortiwn ar y farchnad ddu.
'Dydy'r digwyddiadau ddim yn gredadwy, wrth gwrs, dim mwy nag yw digwyddiadau rhai o'r stor茂au gorau. Ond mae'n ddarllenadwy, mae hynny'n sicr. A rhywbeth perffaith gredadwy y dyddiau hyn yw bod y Gasnewydd yn gallu bod yn genfdir naturiol i nofel ifanc, hwyliog, a Chymraeg.
Ie, mae'r nofel hon yn profi bod y llanw'n dod i mewn eto hyd glannau'r Wysg. A'r tro hyn, y mae gobaith y bydd Casnewydd, fel ei chwaer fawr o brifddinas ychydig i'r gorllewin, yn llwyddo i gadw'r dyfroedd y tu 么l i forglawdd, yn benllanw bythol.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|