|
Dauwynebog Cerddi 'meistr cyfoes'
Adolygiad Grahame Davies o Dauwynebog gan Ceri Wyn Jones. (Gomer, 拢7.99. 78 tt.
Feddyliais i 'rioed am Ceri Wyn Jones fel rhywun dauwynebog.
Ond nid dauwynebog yn ystyr 'twyllodrus' a olygir gan deitl yn y llyfr hwn, sef y gyfrol gyntaf i oedolion gan y bardd a ddaeth i amlygrwydd pan enillodd Gadair Prifwyl Y Bala yn 1997, ac a fu ers hynny am gyfnod yn Fardd Plant Cymru.
Yr hyn a olygir, yn 么l broliant y clawr cefn, yw: "deuoliaeth, yn dathlu a diawlio cymhlethdod byw a bod ar ymyl sawl dibyn - yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, ac yn ysbrydol."
Feddyliais i 'rioed am Ceri Wyn Jones fel bardd amwysder a gwrthgyferbyniadau ychwaith. Ac a bod yn onest, er gwaetha'r hyn a ddywed y broliant, ar 么l imi ddarllen y gyfrol gref hon, credaf nad dyna ei brif nodwedd.
Mae'n wir yr ymdrinnir 芒 sefyllfaoedd o dyndra mewn nifer o ffyrdd - byw a darfod, geni a marw, ac yn y blaen ond nid yw gwrthgyferbyniad yr un peth 芒 deuoliaeth.
Yn wir, unoliaeth yn hytrach na deuoliaeth sy agosaf at ddisgrifio cywair y llyfr ar y cyfan.
Eithriadau yw enghreifftiau lle yr ymddengys bod y bardd ei hun yn ansicr o ble y safai, lle mae rhwng dau feddwl, neu lle mae'n amheus pa wyneb i'w wisgo. Ceir hyn, efallai, yn yr englyn gwych Rhwng Dau Olau ar Lan yr Aber:
Lle bo'r 'Paham?', lle bo'r 'Pwy?' 'n tybio bod ateb uwch na mympwy, oedi'n anwahanadwy y mae'r Duw mawr a'r Dim mwy.
Dweud sy'n dwyn i gof ymsonau amheugar T.H.Parry-Williams neu R.Williams Parry. Ac mae'r llinell olaf iasol yn enghraifft o un o'r cymwynasau gorau y gall bardd wneud 芒'i gymdeithas, sef bathu syniad gwreiddiol a'i drefnu mewn geiriau cofiadwy, a thrwy hynny ehangu rhychwant deall a chydymdeimlad y darllenydd.
Ni fydd fy syniadau am ddirgeleddau bodolaeth byth yr un fath ar 么l darllen y geiriau.
Angen mwy o hyn Mwy o'r meddwl gwreiddiol yna sy' eisiau gan feirdd Cymraeg. Ofnaf fod gormod ohonynt, yn enwedig y rhai sydd ag agwedd gymdeithasol fawr i'w canu, yn bodloni ar gymryd syniadau cyffredin eu cymuned, eu gwisgo mewn ceinder geiriol, ac yna eu cynnig yn 么l i'w cynulleidfa gefnogol. Cylch cyfyng cadarnhad.
Wrth ddarllen hanner cyntaf Dauwynebog, dyna a ofnais oedd yn digwydd, o weld testunau'r mwyafrif llethol o'r cerddi: brwydr yr iaith; dirywiad iaith; adfywiad iaith; cadw'r mur; dosbarthu taflenni'r Blaid; ymgroesi rhag gweld Jac yr Undeb; dychanu Tony Blair; ceryddu George W. Bush; gresynu at fewnfudwyr anwybodus o Saeson; dathlu Owain Glynd诺r; mawrygu gwrthryfelwyr Gwyddelig, ac yn y blaen.
On message Nid nad yw'r cerddi yma'n rhai celfydd. Maen nhw, a chan mai ymdrin 芒 deunyddiau diwylliannol y mae cynifer o feirdd Cymraeg yn eu gwaith bob dydd fel athrawon, darlithwyr, cyhoeddwyr neu olygyddion, ni ddylid edliw gormod iddynt ddefnyddio pynciau gwleidyddol a chymdeithasol fel testun cerddi, dim mwy nag y dylid edliw i Dic Jones ddefnyddio delweddaeth byd amaeth.
A go brin y medrwn osgoi'r her ddiwylliannol sy'n ein hwynebu ar bob ochr. Ac ni ddylem wneud hynny ychwaith.
Ond 芒 llenorion Cymraeg fel petaent oll ac un on message yngl欧n 芒'r materion hyn ni theimlais fod deuoliaeth gweledigaeth ar waith yma fel y cyfryw. Mewn cerddi fel y rhain, mae'r bardd i'w weld yn gwisgo agweddau ei gymuned yn gyfforddus fel hen siaced.
Felly nid newydd-deb syniadol, nac amwyster pryfoclyd, yw rhagoriaethau'r llyfr hwn. Yn lle bod y broliant a'r teitl yn hawlio nodwedd nad yw mor amlwg 芒 hynny yn y llyfr, hwyrach mai gwell fuasai fod wedi tynnu sylw at wir ragoriaethau'r llyfr, sef rhai digon uniongyrchol: llwyrfrydedd, angerdd a chariad.
Mae'r nodweddion hyn yn taro'r darllenydd mor galed 芒 thacl gan y chwaraewr rygbi a folir yn un o gywyddau godidocaf y gyfrol. John Cilrhue sydd 芒:
Bodiau fel byllt y beudy
a chefen fel talcen t欧.
Heb sefyll yn 么l Nid rhywun i sefyll yn 么l a sylwebu'n ddiduedd ac yn eironig o'r ystlys yw Ceri Wyn Jones ac fel sy'n addas iawn i rywun a chwaraeodd rygbi dros Gymru yn fachgen, mynd ar ei ben i wres y drin a wna gan anelu nid yn ddauwynebog ond yn ddi-dderbyn-wyneb, am linell llwyddiant.
Yn ymroddiad tanbaid ei gymhellion, a chyhyrau cryfion ei gynghanedd, mae hwn yn hyrddiad rheng-flaen o lyfr.
...lle caiff chwe gwar ddynwared s诺n crynu sinc rhyw hen sied, neu eto 'Clatsh!' iet y clos nes gweld s锚r eger agos.
Yr ail hanner Yn ail hanner y llyfr, cymeriadau a throeon bywyd yw testun y rhan fwyaf o'r cerddi: englynion, cywyddau ac ambell i gerdd rydd.
Mae trysorau lawer iawn yma, fel y gerdd wych Y Bioden, lle mae'r bardd, fel athro, yn ceisio ysgogi disgybl i weld yr aderyn hwnnw mewn rhyw ffordd heblaw'r amlwg ddu-a-gwyn.
Yn y modd y cyplysir deialog 芒'r gynghanedd, mae'n glasur.
Bywyd cefn gwlad Ceir yma hefyd awdl arobryn Y Bala, Gwaddol, cerdd sy'n nodedig am ei gonestrwydd yn cydnabod nad closni cymunedol cefnogol yw bywyd cefn gwlad bob amser, ac sy'n dinoethi'r unigrwydd llethol a geir ar ffermydd ynysig.
Ond os oes cyfyngiadau i fywyd cefn gwlad, mae cryfder hefyd. O agosrwydd perthynas y bardd gyda'r gymdeithas leol y daw llawer o'r cerddi hyn: yn alarnadau, yn gyfarchion ac yn ddathliadau dwys a digri.
Os mai "dyn nabod-neb" oedd testun Gwaddod, ymddengys mai "dyn nabod-pawb" y mae'r bardd.
Ac adnabod nes bod adnabod: sef y cyflwr hwnnw nad oes modd ei gyrraedd drwy unrhyw lwybr cyflym, dim ond drwy hir ymwneud a hir ymroi.
Mae cerddi Dauwynebog yn dangos traddodiad y canu caeth cymdeithasol ar ei gryfaf.
Y clawr
Ychydig o eiriau am y clawr chwaethus:
mae'n llwyd a gwyn gyda rhyw wedd ariannaidd, a dyluniad syml, diymdrech, diffwdan sy'n fy atgoffa o fersiwn mwy graenus o'r math o gyfrolau Gymraeg ddiaddurn ond urddasol a gyhoeddwyd yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd.
Maen nhw'n edrych yn awdurdodol ac yn safonol o hyd gan arddangos y math o hunanhyder tawel nad yw angen trimins afrwydd allanol.
Am gefn y clawr, rwyf wedi s么n yn barod, gan nodi nad oedd y ddeuoliaeth y sonnir amdani yno yn amlwg imi yn y gyfrol ei hun.
Bid a bo hynny. Ceir yno un dyfyniad hefyd, a hwnnw gan Alan Llwyd. Un byr a phwrpasol:
"Dyma feistr cyfoes."
Ac o feddwl am grefft y gyfrol hon, ni allaf ond cydsynio'n llwyr.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|