|
Natur y Flwyddyn Lluniau ysblennydd a ffeithiau difyr
Adolygiad o Natur y Flwyddyn gan Bethan Wyn Jones. Lluniau gan Jim Saunders. Gomer 拢19.99.
Ar gyfer mis Medi yn y gyfrol hon mae Bethan Wyn Jones yn dyfynnu cwpled R Williams Parry:
"Ond cefais gan yr hon a'm dug Fy ngeni'n frawd i flodau'r grug."
Mor hawdd y gallai newid y gair 'brawd' yna yn 'chwaer' i ddisgrifio'i hun - achos os yw'r gyfrol hon yn arwydd o unrhyw beth mae'n arwydd o'r cytgord a'r cariad rhwng Bethan Wyn Jones a'r byd naturiol o'i chwmpas.
Wrth gwrs, gall y rhan fwyaf ohonom uniaethu 芒 hynny ond lle mae Bethan Wyn Jones - un o gyfranwyr rheolaidd Galwad Cynnar ar 大象传媒 Radio Cymru - yn rhagori yw gyda'i gwybodaeth am y byd mae'n ymhyfrydu cymaint ynddo a sylwi cymaint arno.
Brithir y gyfrol hon 芒 m芒n ffeithiau difyr. Enw arall ar y blodyn neidr, er enghraifft, yw blodyn tyrfe neu flodyn taranau oherwydd y gred fod storm o fellt a tharanau yn si诺r o ddilyn pe byddai'r blodau'n cael eu torri.
Mae hi'n awgrymu:
"Mae'n bosib fod hyn yn mynd yn 么l i gyfnod pan nad oedd y cloddiau a'r gwrychoedd yn cael eu torri mor rheolaidd ag y maen nhw heddiw. Mi fyddai hynny'n golygu na fyddai'r dyn torri ochrau'r ffyrdd," - a dyna ichi greadur diddan a hen ddiflannodd - "yn dod heibio ambell l么n anghysbell nes iddi fod yn ddiwedd Gorffennaf neu ddechrau Awst hyd yn oed. Doedd hi ddim yn annisgwyl, felly, i chi gael storm o fellt a tharanau 'run pryd ag y byddai'r blodyn neidr yn cael ei dorri ac mae'n ddigon posib mai fel hynny cychwynnodd yr ofergoel," meddai
Dydi hi ddim, fodd bynnag, yn cynnig eglurhad dros yr enw mwy cyfarwydd "blodyn neidr". Yn blant, ein cred ni, heb sail o gwbl, oedd ei fod yn arogli fel neidr gan fod i'r planhigyn arogl gref a digon annifyr.
Pennod bob mis Patrwm Natur y Flwyddyn yw pennod ar gyfer pob mis yn cychwyn gydag un o luniau ysblennydd Jim Saunders - sy'n dod o Dref-y-clawdd ym Mhowys - yn mwy na llenwi'r ddalen ochr chwith ac wedyn draethawd - o'i gymharu ag ysgrif - gan Bethan Wyn Jones yn disgrifio'r mis gyda rhagor o luniau rhwng y testun.
Y caead ar biser pob mis yw dyfyniadau o gerddi perthnasol ochr yn ochr a rhagor o luniau mawr a bach.
Yn anffodus, ac mae hwn yn fai ar y gyfrol, nid oes dim gwybodaeth am y lluniau o ran lleoliad er bod y cyfan oll mor wych ag i fod yn crefu am ymweliad, megis y goedwig ar ddalen 106, y llyn ar 101 neu'r llwybr grugog ar ddalen 83 ac, ymhlith y lluniau llai, un trawiadol o d欧 yn llechu dan rimyn o goed yng ngwasgod mynydd ar ddalen 94.
Diau, y byddai'r rhai sy'n ymddiddori mewn ffotograffiaeth wedi croesawu hefyd rywfaint o wybodaeth dechnegol, nid bod yr absenoldeb hwnnw yn fy mlino i'n arbennig - ond rhaid cyfaddef mai moeth y lluniau sy'n gwneud y llyfr hwn yr hyn ydyw ac yn gwireddu'r teitl atodol, "Cyfoeth y misoedd mewn gair a llun".
Golygfeydd a phlanhigion O ran lluniau, ni ellir peidio 芒 sylwi i'r awduron ganolbwyntio ar rai o olygfeydd ac o blanhigion - llun gwych o fysedd c诺n ar ddalen 71.
Prin iawn yw'r lluniau o anifeiliaid. Un o ddefaid yn pori, un o geffylau ar weirglodd ac un o aderyn du neu "Garuso'r haf" ys dywed T Llew Jones yn y pennill o'i eiddo a ddyfynnir.
Mae sawl llun y gellir hir syllu arno megis yr un o wenyn yn cusanu gwyddfid ar ddalen 75 ac yn adlewyrchiad o gwpled Myrddin ap Dafydd gyferbyn:
Mae gwyddfid Gellidara Yn cau eu dyrna'n ara'
Caiff ffawna a fflora sylw cyfartal yn y traethodau misol sydd a thuedd i fod braidd yn gatalogaidd eu harddull ond dydw i ddim yn rhy hoff o'r arddull 'dewch am dro' a ddefnyddir weithiau - "Ond, dowch, mi awn ni yn ein blaenau ar hyd y llwybr bach . . ."
Ond mae digon o wybodaeth i beri inni synnu at ddewiniaeth ryfeddol ein cread a'r 'cynllunio' sy'n peri fod si芒p wyau y gwylogod sy'n byw ac yn magu ar greigiau Ynys Lawd yn wahanol i si芒p wyau cyffredin.
"Bydd yr i芒r yn dodwy un wy mawr [ar silff yn y graig yn hytrach nag mewn nyth] tua thair modfedd o hyd. Dydi o ddim 'run si芒p ag wy i芒r gyffredin; mae'n hwy, yn feinach hefo ochrau sythach a'r pen blaen ychydig yn llai crwn nag wy cyffredin - yn debycach i gellygen mewn gwirioned.
"Y rheswm ymarferol iawn am y si芒p gwahanol ydi bod yr wy yn troi yn ei unfan os caiff ei daro yn hytrach na rowlio a disgyn dros ochr y dibyn i'r m么r mawr," meddai.
Celyn a iorwg Y llun gwych ar gyfer Rhagfyr yw rhan o goeden gelyn yn llawn aeron cochion "yn gwrthgyferbynnu'n odidog 芒 glasgroen tywyll y dail" yng ngeiriau Bethan Wyn Jones sy'n s么n hefyd am hen goel yn yr Almaen:
"Os oedd y dorch Nadoligaidd wedi'i gwneud o gelyn gwyrdd, mai'r dyn fyddai'n rheoli'r t欧 am y flwyddyn i ddod, ond os oedd yna aeron coch ar y celyn yna'r wraig fyddai'n rheoli'r t欧."
Addurn Nadoligaidd arall, llai cyffredin erbyn heddiw am ryw reswm, yw'r eiddew neu iorwg ac "os ydi merch yn cario'r eiddew mae i fod i roi lwc dda iddi hi, ac mae priodasferch yn cario eiddew fel rhan o'i thusw priodasol am yr un rheswm yn union," meddir.
Ychwanegir ei bod yn gred hefyd fod eiddew "yn gwarchod rhag i ddim byd drwg ddigwydd i'r rhai sy'n byw yn ymyl y fan ble mae'r planhigyn yn tyfu."
Ychwanegiad sy'n gweithio i'r dim yw'r penillion a chwpledi ar ddiwedd pob mis ac mae'r detholiad yn un difai - er yr oeddwn yn synnu na wnaed lle i "Oll yn eu gynau gwynion" Cynan ymhlith y dyfyniadau am eirlysiau.
Ond gan amlaf mae'r geiriau disgwyledig wedi eu cynnwys fel "Gwn ei ddyfod, fis y m锚l" Eifion Wyn ym mis Mai.
Wedi ei gyhoeddi ar drothwy'r Nadolig mae Natur y Flwyddyn yn amlwg gynnig ei hun yn anrheg Nadolig a go brin y byddai'n siomi neb sydd ag unrhyw fath o ddiddordeb yn y byd naturiol o'n cwmpas ac mewn lluniau trawiadol. Glyn Evans.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|