| |
|
|
|
|
|
|
|
Gareth Edwards - Y Crwt o'r Waun Y cawr tu 么l i'r cerflun
Adolygiad Ion Thomas o Gareth Edwards - Y Crwt o'r Waun. Hunangofiant Gareth Edwards wedi ei sgrifennu ar y cyd Alun Wyn Bevan. Cyfres y Cewri. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.
Yng Nghaerdydd mewn canolfan siopa brysur y mae yna gerflun mawr ac urddasol o'r mewnwr Gareth Edwards. Y mae'n gryf a phwerus ei olwg ac yn mynnu sylw y siopwyr.
Does yna'r un chwaraewr rygbi arall y gwn i amdano sydd wedi cael ei anrhydeddu fel hyn. A go brin y bydd yna yn y dyfodol chwaith oherwydd dyma berson a feddai holl nodweddion y chwaraewr cyflawn.
A dyma chwaraewr a gipiodd sylw a pharch dilynwyr rygbi'r Saithdegau gan sbarduno'r t卯m cenedlaethol i dair camp lawn a phum coron driphlyg.
Yn hynod gryf a chyflym, byddai'n hunllef i bob ail reng wrth iddo hyrddio a bylchu o f么n y sgrym neu'r ryc. Llwyddai i gicio'n ddeallus a llwyddai i sgorio cais ar 么l cais.
Capten yn ugain Chwaraeodd Edwards gyntaf dros ei wlad yn 1967 yn ddim ond 19 oed. Dewiswyd ef yn gapten pan oedd yn ugain oed. Gorffennodd ei yrfa yn 1978 gyda 53 o gapiau wedi eu hennill.
Bu'n gapten 13 o weithiau. Yr hyn sy'n syfrdanol yw iddo ennill ei gapiau yn ddi-dor. Ni lwyddodd neb i'w ddisodli ac ni chafodd ei rwystro gan anafiadau.
Mae'n hen bryd felly i lyfr ymddangos gan Gareth Edwards yn y Gymraeg. Wedi'r cyfan bu'n ddisgybl i'r athro Cymraeg a'r sylwebydd, Eic Davies, a'r mab, Huw Llywelyn Davies, yn cyd chwarae ag e ar ga' Archie a Coelbren Square.
Ni lwydda ffeithiau moel ddweud stori'n gyflawn. Cyfrol ddarllenadwy yw hon i gyflwyno'r bobl fu ym mywyd Gareth.
Ceir darlun o gyfnod ei fagwraeth a'i gymuned, ei addysg, y profiadau arhosol, y gemau mawr a'r perfformiadau arwrol.
Y dylanwadau Cawn glywed am y dylanwadau mawr a ffurfiannol ar ddatblygiad yr Edwards ifanc fel Bill Samuell, ei rieni a'i gyfoedion; yna, Millfield, Cyncoed a Chaerdydd.
Mae'n amlwg o'r gyfrol i Gareth fod yn ddyn teulu gyda'i wraig Maureen ar ochr y llwyfan yn ddylanwad cadarn.
Mae'r gyfrol hefyd yn ddathliad a chofnod o gyfnod euraid a hyderus yn hanes rygbi Cymru. Cyfnod pan oedd rygbi yn rhan o wneuthuriad pentrefi de Cymru ac enwau cyn chwaraewyr yn cael eu crybwyll gyda pharch a balchder.
Ceir y penodau blasus ar derfyn y llyfr wrth i ni glywed barn Edwards am gyflwr y g锚m heddiw a'i dyfodol. Fodd bynnag, byr yw'r darnau yma a cheir y teimlad cryf fod yr oes broffesiynol hon yn siom iddo.
Ochneidio Gwn am un neu ddau a fu'n cydoesi 芒 Gareth yn y coleg. Bob tro byddai g锚m mewn gwers neu ymarfer yn cael ei gynnal byddai rhai yn gwingo ac ochneidio o weld bod Gareth yn eu gwrthwynebu.
G锚m arall yn y coleg oedd ceisio dal Gareth lawr ar y llawr neu yn ei wely. Er y byddai criw o fechgyn cryf ac heini wrthi, ofer fyddai pob ymdrech gyda phawb yn gleisiau.
Oes mae gan bobl straeon am y mewnwr ond ei stori ef ei hun yw hon gyda llaw brofiadol a brwdfrydig Alun Wyn Bevan yn cefnogi ac yn llywio'r gyfrol.
Un feirniadaeth sydd gennyf o'r llyfr. Byddwn wedi mwynhau ychydig mwy o luniau o un o'r arwyr mwyaf ein g锚m genedlaethol.
Cysylltiadau Perthnasol
Gwerthu orau yn Nhachwedd
Gareth Edwards - oriel enwogion
Gwefan Chwaraeon
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|