| |
|
|
|
|
|
|
|
Hyd yn Hyn Un o'r merched prin hynny . . .
Adolygiad Lowri Roberts o Hyd yn Hyn. Cofiant Gillian Elisa. Cyfres y Cewri 32. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.
Darllenais mewn erthygl bapur newydd yn ddiweddar cyn lleied o hunangofiannau i ferched sydd wedi gwerthu yn yr iaith Saesneg dros y misoedd diwethaf.
Miloedd yn hytrach na'r miliynau disgwyliedig! Ar wah芒n i Katie Price aka. Jordan, siomedig iawn fu'r ymateb i'r genre ar y cyfan yn 么l pob s么n.
Yn yr iaith Gymraeg ar y llaw arall, prin iawn yw'r merched sy'n ddigon dewr i roi pin ar bapur yn y lle cyntaf a rhannu eu bywyd personol gyda ni'r darllenwyr.
Yn hynny o beth, roedd darllen hunangofiant Gillian Elisa - y diweddara yng nghyfres y Cewri - yn chwa o awyr iach.
Enw adnabyddus Nes imi ddechrau darllen y gyfrol dim ond enw adnabyddus oedd Gillian Elisa - neu Gillian Thomas i roi ei henw cywir - i mi.
Fel actores, perfformwraig a chantores amryddawn yn unig yr oeddwn i'n ei hadnabod a wyddwn i ddim, er enghraifft, bod ganddi gysylltiadau clos iawn 芒'r ardal lle ces i nghodi - yn Nyffryn Aman.
Yn Llambed, fodd bynnag, y cafodd ei magu ac mae'r cysylltiadau teuluol a'r gymdogaeth yno yn amlwg yn bwysig iawn iddi ac wedi bod yn ddylanwad aruthrol arni fel perfformwraig ac fel unigolyn.
Mae hynny hefyd yn amlygu ei hun yn arddull y gyfrol - y dafodiaith naturiol sy'n llifo'n rhwydd o un dudalen i'r llall.
Llu cymeriadau Yn naturiol mae na le amlwg yn y gyfrol i'w phrifiant yn actores - y bobl a'r cyfleon a'i mowldiodd.
Cawn ein hatgoffa o'r llu cymeriadau y mae hi wedi eu chwarae ar hyd y blynyddoedd - o Sabrina ifanc Pobl y Cwm i Dorinda yn The Magnificent Evans gyda Ronnie Barker a chyfres Yr Heliwr gyda Philip Madoc.
Prin ro'n i'n sylweddoli gymaint y mae hi wedi ei gyflawni hyd yn hyn!
Yn ogystal
芒'r uchafbwyntiau mae hi hefyd yn cyfeirio n么l at gyfnodau llai disglair yn ei gyrfa - adegau lle bu hi o bosib yn ei gorwneud hi!
Gyda'r gonestrwydd hwnnw y mae dyn yn cynhesu fwyfwy tuag ati.
Dylanwad rhieni Ond yr hyn sy'n pefrio drwy'r gyfrol yw'r dylanwad mawr a gafodd ei rhieni arni. Collodd ei mam yn ifanc iawn ac mae hi ei hun yn cyfaddef mai yn gymharol ddiweddar y ceisiodd ddod i delerau 芒'r gwacter mawr a ddaeth yn sgil y golled anferthol honno.
Yn gymysg 芒'r hiwmor a'r ffraethineb felly sydd i'w ddisgwyl gan alter ego Mrs OTT mae na dristwch, sensitifrwydd ac ansicrwydd. Ac yn hynny o beth mae'r darllenydd yn gweld ochr dra gwahanol i'r persona cyhoeddus hwyliog a hyderus.
Yn beth dewr Fel y soniais eisoes mae rhannu profiadau personol ac ingol gyda chynulleidfa ehangach - yn fy nhyb i beth bynnag - yn gam dewr.
I Gillian, fodd bynnag, "Mae wedi bod yn rhyw fath o ryddhad i ...gael 'gweud yr hanes'."
Hyderaf y bydd Gwasg Gwynedd yn darbwyllo merched eraill i ddilyn yn 么l ei thraed.
Cysylltiadau Perthnasol
Gwefan Pobol y Cwm
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|