|
O Barc y Wern i Barc y Faenol Atgofion hogyn drwg ddaeth yn Archdderwydd
Adolygiad Glyn Evans o O Barc y Wern i Barc y Faenol gan Selwyn Iolen. Bwthyn. 拢7.99.
Mae'n ymddangos bod Selwyn Iolen, ein Harchdderwydd o 2005 tan 2007, yn 'winar' o'r cychwyn cyntaf un.
Ag yntau'n dal yn ei glytiau enillodd wobr gyntaf am fod "the best baby fed on Nestle's milk" mewn sioe fabanod yn y Felinheli heb fod nepell o'i gartref ym mhentref Bethel, Arfon.
Ac mae ganddo o hyd, meddai, y bocs o lwyau te arian a enillodd ar y dydd - a thoriad o'r papur lleol "sy'n profi i mi gael y wobr gynta"!
Er nad yw, yn naturiol, yn cofio'r diwrnod y mae'n rhyw amau mai yma y plannwyd ynddo ysfa i gystadlu a fu gydag ef gydol ei oes.
Nid yn unig bu'n gystadleuydd brwd, bu hefyd yn feirniad adrodd a ll锚n mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd ac yn awdur nifer fawr o adroddiadau y bu eraill yn cystadlu arnyn nhw.
Eisteddfodwr cyflawn Ac os oes rhywbeth i'w bwysleisio yn fwy na dim arall am Selwyn Iolen y ffaith ei fod yn eisteddfodwr pybyr yw hynny. Mae'n eisteddfodwr cyflawn - o'r gwraidd i'r brig - a gwelai ei ddyrchafiad yn Archdderwydd Cymru yn glod hefyd i'r eisteddfodau hynny.
Mynnodd, meddai, mai rhai oedd yn gysylltiedig 芒'r eisteddfodau hyn oedd pob un o'i enwebwyr yn etholiad yr Orsedd.
"Dw i wedi cyfadde' eisoes na fu gen i erioed unrhyw uchelgais i fod yn Archdderwydd, a bum yn pendroni cryn dipyn cyn cydsynio a'r cais," meddai gan ychwanegu;
"Roeddwn yn holi fy hun pa gymwysterau oedd gen i ar gyfer swydd mor bwysig."
Yn y diwedd, meddai:
"Mi gytunais ar yr amod mai ffyddloniaid a chefnogwyr eisteddfodau bach ein pentrefi gwledig fyddai'n arwyddo fy mhapur enwebu," meddai.
Steddfod y Marblis Ond mae'n ymddangos i rhyw ysfa archdderwyddol fod ynddo o'i febyd.
Mae'n disgrifio ei hun gartref yn unig blentyn yn;
"Tywallt llond bocs sgidiau o'r marblis ar lawr y gegin a'u gosod nhw'n drefnus, yn rhesi o eisteddfodwyr pybyr ym mhafiliwn y Genedlaethol i ddisgwyl awr fawr y cadeirio.
"Yna, fe dd么i'r Orsedd yn urddasol i'r llwyfan, sef y marblis lliwgar, fel arfer i gyfeiliant organ geg. Yna y Togo mwya' oedd gen i yn cymryd ei le ar flaen y llwyfan. Fo oedd yr archdderwydd.
"Marblan wen a offrymai Weddi'r Orsedd. Cafwyd beirniadaeth a theilyngdod, ac fe gyrchwyd y bardd buddugol (marblan lwyd gyffredin) i'r llwyfan gan ddwy o'r Togos bach lliwgar. Fe'i cadeiriwyd yn Brifardd Eisteddfod y Marblis," meddai.
Osgoi gwleidyddiaeth
Ar yr eildro y'i hetholwyd ef yn Archdderwydd go iawn gyda Robyn Ll欧n yn fuddugol yn yr etholiad cyntaf erioed i'w gynnal i'w olynu yn Eisteddfod Eryri gan Selwyn Iolen.
"Mi benderfynais o'r cychwyn i osgoi trafod gwleidyddiaeth oddi ar y maen llog. Dydw i ddim yn wleidydd, a dw i ddim yn credu fod pobol yn mynd i'r Eisteddfod i glywed rhywun yn s么n am wleidyddiaeth. Dod i'r Eisteddfod maen nhw i fwynhau'r amrywiol gystadlaethau ac i ymweld 芒'r gwahanol bebyll ac i fwynhau diwylliant yn gyffredinol," meddai.
Felly, teyrnasiad digynnwrf heb sathru unrhyw gyrn rhwng meini'r Orsedd fu un Selwyn Iolen ac yn llwyddiant mewn cynnal urddas y sereomiau.
A'r un naws sydd i'r gyfrol hon o'i atgofion ar wahanol lwybrau bywyd digon amrywiol.
笔锚濒-诲谤辞别诲飞测谤
Ond yn Archdderwydd fe fanteisiodd ar ei gyfle i gystwyo p锚l-droedwyr cenedlaethol Cymru am eu amharodrwydd i ganu Hen Wlad fy Nhadau yn ddigon harti cyn gemau rhyngwladol.
A hynny yn adlewyrchu ei ddiddordeb mawr arall, mewn p锚l-droed ac yntau wedi bod yn chwaraewr brwd ei hun yn ei ieuenctid yn ogystal ag edmygedd cewri fel Stanley Matthews.
Bydd ei ddisgrifiad o'r cyrchu i un o'r tai prin yn y pentref gyda theledu i wylio Cyp Ffeinal 1953 yn dwyn atgofion o brofiad cwbl gyffelyb i sawl un ohonom.
"Tri prif ddiddordeb fu gen i erioed, sef p锚l-droed, crwydro'r byd a steddfota," meddai ac mae'r tri diddordeb yn cael eu hadlewyrchu yn y gadwyn ddifyr ac ysgafn hon o atgofion o fywyd lle cafodd yr awdur flasu gwasanaeth milwrol gyda'r RAF, gwaith llywodraeth leol, bod yn fyfyriwr mewn oed a byd teledu gyda HTV yn ogystal a bod yn athro ac yn brifathro.
Niferoedd mawr Datgelir ambell i ystadegyn difyr megis mewn sawl eisteddfod y bu'n feirniaid dros y blynyddoedd:
"Os byw ac iach, fe fydd yr eisteddfod nesa' i mi feirniadu ynddi yn rhif 430," meddai.
Ac o dreiddio i'r ffigwr hwnnw mae'n tybio i 43,000 o gystadleuwyr ddod o'i flaen dros y blynyddoedd.
"Faint ohonyn nhw gafodd gam gen i, ys gwn i?" synia.
Hogyn drwg Mae llawer o'r gyfrol yn ymwneud 芒 dyddiau plentyndod a'r darlun a gawn yw un o fachgen direidus a digon stimddrwg ar weithiau ar adeg pan oedd cnocio drysau, reidio beic heb olau a dwyn afalau ymhlith y troseddau difrifol yr oedd galw ar blismon pentref ddelio 芒 hwy.
"Ond roeddwn i'n droseddwr bach eitha slei . . . Pan fydden ni'n mynd yn un giang ar berwyl cnocio drysau, mi fyddwn i'n rhoi coblyn o gnoc ar ddrws t欧 ni hefyd wrth basio.
"Pan ddoi J么s y Plisman ar ei hald drannoeth . . . byddai Mam yn ei diniweidrwydd yn fwy na pharod i achub cam ei Mab Afradlon gan ymateb, 'Na, Mistar J么s bach, doedd Selwyn ddim efo nhw neithiwr oherwydd mi fuo'r cnafon bach yn cnocio'r drws yma hefyd . . ."
O barc y bobl i barc y plas Mae teitl y gyfrol yn cyfeirio at y ffaith i'r awdur gael ei godi yn fab i chwarelwr ar Barc y Wern ac iddo wasanaethu fel Archdderwydd gyntaf ar Barc y Faenol - cartref y meistr tir lleol a pherchen y chwarel lle gweithiai ei dad ac fe gyfeiriodd at arwyddoc芒d hynny mewn anerchiad yn ystod wythnos yr Eisteddfod:
"Dw i'n berffaith sicr hefyd y byddai'r miloedd o gyn-chwarelwyr a fu'n naddu eu bara beunyddiol o grombil y graig, am gardod o gyflog, yn ymfalch茂o ac yn llawenhau ein bod ni, fel cenedl, yn cynnal G诺yl Genedlaethol yma ar lawnt y plas, ar dir y meistr a fu'n berchennog y chwarel. A fedra'i ddim llai na meddwl rhywsut y byddan nhw yma hefyd gyda ni, yn cydlawenhau drwy gydol yr wythnos."
Do, daeth tro ar fyd.
Gweler hefyd
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Selwyn Iolen
Eisteddfod gyntaf yn Archdderwydd
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|