|
Cawr i'w Genedl Erthyglau amrywiol er clod Y Teifi
Hywel Teifi
Adolygiad Vaughan Hughes o Cawr i'w Genedl: Cyfrol i Gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards. Golygyddion - Tegwyn Jones a Huw Walters, tt 304.Gomer. 拢14.99.
"Mae o'n gwneud yr union beth mae o'n ei ddweud ar y tun" yw addewid Ronseal, gwneuthurwyr y staen hwnnw sy'n ymestyn oes ffensys pren.
Yn anffodus wnes i ddim darllen tun/clawr y gyfrol hon yn ddigon manwl. Er mai "cyfrol gyfarch" yw'r disgrifiad ohoni ar y clawr, fe gymerais i yn fy mhen mai cyfrol deyrnged oedd hon i Hywel Teifi Edwards.
Afraid dweud mai Hywel Teifi, wrth gwrs, yw'r storom wybodus o Gymreictod ymosodol y bydd llawer ohonom yn cyfeirio ato fel y Teifi.
Mae'r defnydd o'r fannod i ragflaenu enw yn drymlwythog o arwyddoc芒d. Yr Erfyl oedd Gwyn Erfyl. Y Stevens yw Meic Stevens. Y Llwyd yw Alan Llwyd.
Neu, yn achos Llew Llwyfo, Cymro o "gyfnod" Hywel, digon , yma ac yn America, oedd dweud y Llew.
Cerddi mawl
Rhag ofn - rhag ofn - nad fi yw'r unig un ddaru gamddeall natur a bwriad y gyfrol hon, caniatewch imi wneud un peth yn gwbl glir ar y cychwyn fel hyn.
Yn y b么n, nid cyfrol yw hon sy'n trafod cymeriad ac anian a diddordebau amlochrog yr hynod Hywel Teifi.
Mae'n wir fod gan T. James Jones, Meirion Evans a Pheredur Lynch gerddi mawl iddo. Yr orau gen i o'r cerddi hynny yw cywydd Peredur Lynch sy'n llwyddo'n rhyfeddol, o ran cynnwys a chrefft, i fynegi hanfod cyfraniad Hywel Teifi i'n hadnabyddiaeth o'r 19g - a'n hadnabyddiaeth ohonom ni ein hunain.
Ceir hefyd ysgrif bortread ardderchog ohono gan Tegwyn Jones, a bu Huw Walters wrthi'n drylwyr ddeheuig yn cywain gweithiau cyhoeddedig Hywel Teifi at ei gilydd yn 22 tudalen o lyfryddiaeth.
Cenedl werthfawrogol Ysgrif yn Y Ddraig, cylchgrawn coleg prifysgol Aberystwyth, ar y testun Pysgod ym 1955 oedd ei ymddangosiad cyntaf mewn print.
Dwi ddim yn ymwybodol ei fod wedi sgwennu rhyw lawer am bysgod ers hynny ond yn sicr bu'n bysgotwr a rwydodd berlau. Diolch i'r nefoedd, nid gerbron y moch ( ar wah芒n i'w ymweliadau 芒 M么n!) y taflodd Hywel y perlau hynny eithr yn hytrach gerbron cenedl werthfawrogol dros ben.
A dyna hi... Does 'na ddim rhagor sy'n ymwneud yn uniongyrchol 芒 Hywel, ac eithrio 16 o ffotograffau, un cart诺n, a'r llun trawiadol gan Brian Davies ar y clawr o Hywel - yn ei sedd yng nghapel Bryn Seion, Llangennech, fe dybiaf.
Erthyglau swmpus Cwta hanner cant o dudalennau ac un clawr a lenwir gan y penodol Deifi-aidd bethau hyn. Mae gweddill y gyfrol, rhyw 250 o dudalennau, yn rhoi lle i ddeuddeg o erthyglau swmpus ar bynciau amrywiol.
Mae llawer ohonyn nhw'n naturiol yn ymwneud
芒'r ganrif a gafodd y fath afael ar Hywel. A s么n am y ganrif honno, ydach chi wedi sylwi nad yr un yw ystyr y Chwedegau i Hywel Teifi ag i bawb arall?
Nid degawd y Beatles a'r Bilsen a Vietnam sydd gan Hywel dan sylw pan fydd o'n cyfeirio at y Chwedegau. Y Mil Wyth Chwedegau yw Chwedegau Hywel.
Dyna, si诺r iawn , pryd y cychwynnodd yr Eisteddfod Genedlaethol. Pa ots am unrhyw chwedegau eraill!
Yr erthyglau Ond yn 么l a ni at yr erthyglau y cyfeiriais atynt. Dyma nhw yn y drefn y maen nhw'n ymddangos yn y gyfrol: Cywion Edward Lhwyd gan Brinley F. Roberts; Si么n Rhydderch a'r Eisteddfod gan A.Cynfael Lake; Iolo Morganwg a Chaethwasiaeth gan Geraint H. Jenkins; Lingen, Arnold a Palgrave - Tri Sais a'u Hagweddau at Gymru gan Prys Morgan; John Jones, Llangollen a'i Gyfnod gan Huw Walters; Y Fforman Grasol gan Rhidian Griffiths; Beirdd y M么r yn Oes Victoria gan E.G Millward; Thomas Henry Thomas ( Arlunydd Penygarn) gan Allan James; Cwm Rhondda a Cheinewydd: Croth a Chrud Diwygiad 1904-05 gan E. Wyn James; Tirluniau Dychymyg Gwenallt gan Christine James; R.S. Thomas: Claf Abercuawg? gan M. Wynn Thomas; a Paham y Meddyliwn Heddiw yn y Ffordd a Wnawn? gan Walford Gealey.
Un rhybudd Fynnwn i ddim dilorni, ar unrhyw gyfrif, yr un o'r cyfranwyr. Rydw i'n dawel iawn fy meddwl bod eu herthyglau, un ac oll, yn safonol ac ysgolheigaidd.
Seiniaf un rhybudd, fodd bynnag. Nid yw'r ffaith eich bod wrth eich bodd yn gwrando ar Hywel Teifi'n darlithio yn golygu o angenrheidrwydd y bydd y gyfrol hon yn ei chrynswth at eich dant. Dydi pawb ddim yn gallu ei dweud hi fel y gall y Teifi. Dyna'i ogoniant.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|