|
Angel Pen Ffordd Troi Madam Wen yn sioe gerdd
Adolygiad Linda Edwards o Angel Pen Ffordd gan Sonia Edwards. Cyfres Whap. Gwasg Gomer. 拢4.99
Mae Sonia Edwards yn Brif Lenor yr Eisteddfod Genedlaethol - wedi cipio Medal Ryddiaith1999 yn Llanbedrgoch, Ynys M么n, ac wedi ysgrifennu nifer o nofelau, ynghyd a chyfrannu at y gyfrol liwgar o farddoniaeth i blant Byd Llawn Hud a enillodd wobr Tir Na n-Og.
Nofel ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau yw ei nofel ddiweddaraf ac mae'r clawr deniadol gyda phedair o ddisgyblion Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi yn serennu arno yn tystio i hyn.
Ysgol berfformio Hanes Ysgol Berfformio Newydd yn cael ei sefydlu ar Ynys M么n sydd yma; yn 'Gwynfa', hen gartref actores enwog o'r ardal, Sephora Wyn, sydd newydd farw.
A helyntion pedair ffrind, Meleri, Anwen, Linda Jen, ac Arwyn wrth iddyn nhwt fynychu'r clyweliadau yn gyntaf ac yna'r ymarferion ar gyfer llwyfannu sioe gerdd yn seiliedig ar Madam Wen, lleidr pen ffordd enwog ar Ynys M么n yn nofel W D Owen, Madam Wen.
Meleri sy'n dweud yr hanes a hi yw prif gymeriad nofel Sonia Edwards. Mae ei rhieni newydd wahanu a hithau yn treulio'r wythnos gyda'i mam a'r penwythnosau gyda'i thad.
Mae ei mam erbyn hyn 芒 chariad newydd ac yn disgwyl babi, ac mae hyn yn cael ei drin yn hollol realistig yn y nofel.
Prynu ci A'i thad yn penderfynu prynu ci iddi mae hanes trip i Fae Colwyn i'r lloches i ddewis ci yn ddoniol iawn a chwerddais lawer wrth ddarllen am helyntion Wilff, y bullmastiff a ddewiswyd ganddynt.
Fel mae'r stori'n datblygu, mae'n ymddangos fod mwy nag ymarferion yn mynd ymlaen yn 'Gwynfa'. Mae t芒n yn cael ei gynnau'n fwriadol a daw yn amlwg fod rhywun am ddistrywio'r cyfan ac yn benderfynol na fydd y Sioe Gerdd. Ond pwy???
Ac wrth fynychu'r ymarferion mae Meleri hithau yn syrthio mewn cariad am y tro cyntaf . . .
Sensitif a doniol Mae Sonia Edwards yn deall iaith a byd pobl ifanc i'r dim ac mae cynhwysion wnaiff apelio at bob carfan o bobl ifanc yn y llyfr yma: hiwmor, rhamant, antur, yn ogystal a sefyllfa mae llawer yn cael eu hunan ynddi,tor priodas - y cyfan yn cael ei drin yn sensitif, realistig a chyda doniolwch ar brydiau.
Y cyfan mewn iaith mae pobl ifanc yn ei deall a'i harfer.
Rhof 10 allan o 10 i'r nofel hon gan ei chymell yn gryf iawn i bobl ifainc yn eu harddegau .
Ac mae'n rhaid imi gyfaddef i mi minnau yn fy chwedegau, ei mwynhau'n fawr iawn hefyd!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|