|
Pentigily Darganfod trysorau sir hynotaf Cymru
Adolygiad Gwyn Griffiths o Pentigily gan Hefin Wyn. Y Lolfa. 拢14.95.
Mae Sir Benfro'n ryfeddod. Dyma, goelia i, y gyfoethocaf o'n holl siroedd mewn hanes, archaeoleg, tirwedd, harddwch - ac am dafodiaith y dylid rhoi iddi statws iaith ar wah芒n gan mor wahanol yw hi i Gymraeg pob rhan arall o Gymru!
Rwy'n eiddigeddus o gamp Hefin Wyn yn cerdded llwybr arfordir y sir o Landudoch - wel, Pentigily, o Landudoch i Lanrhath.
Cychwynnais innau y daith un bore Llun braf ym Mehefin, 1962, yng nghwmni dau o weinidogion y Bedyddwyr - y Parchedig D Carl Williams, Cipyn a Threwyddel, a'r Parchedig Dafydd Henry Edwards, Abercuch a Chilfowyr.
Pob un ohonom 芒'i sgrepan a phabell ysgafn ar ei gefn a chyflenwad o fwyd i'n cynnal bob cam o'r ffordd.
Roeddem wedi darllen yn y papurau lleol fod y llwybr wedi'i agor yn swyddogol - ond doedd e ddim, a brwydro drwy'r drysni a'r anialwch a thresmasu ar diroedd fferm fuom ni gan roi'r gorau iddi un prynhawn wythnos yn ddiweddarach ar 么l coginio clamp o ginio gyda'r hyn oedd weddill o'n darpariaeth yng nghartws Dolg芒r, ger Pwllderi, gyda'r glaw yn dechrau disgyn.
Dim sebon Rwy'n cofio imi gofnodi rhywfaint o hanes ein helyntion yn y Western Telegraph Hwlffordd, ac o bosib yn Echo Abergwaun, hefyd.
Roedd mwy o raen ar ysgrif Dafydd yn y Seren, er iddo dynnu digofaint y saint am ei ben pan ddwedodd iddo "roi heibio seboni wyneb a seboni pobol am wythnos".
Y flwyddyn wedyn buom yn cerdded ardal Marloes a phenrhyn Santes Ann a dychwelais dros y blynyddoedd i gerdded a chrwydro, gyda fy ngwraig, y darn mwyaf hudolus o'r cyfan - Abergwaun i Dyddewi a lawr i Aberbach neu Little Haven yn Saesneg.
Y darn o'r daith y cafodd Hefin Wyn, hefyd, yr hwyl orau arni yw hwnnw rhwng Abergwaun lawr i Dyddewi, drwy Solfach, a'r pentrefi tu hwnt i Niwgwl.
Aml ei eiriau Cydymaith ar gyfer ymweliad ag unrhyw ran o arfordir Sir Benfro yw'r gyfrol hon ac ar yr un pryd yn gyflwyniad gwerthfawr i'r sir gyfan.
Mae'n cychwyn yn Llandudoch a chawn hanes y pentref yn ei holl fanylder - y T H Evans chwedlonol, y pysgota s芒n heb s么n am y cysylltiadau mynachaidd grefyddol.
Nid g诺r prin o eiriau yw Hefin Wyn ac ar adegau mae'n anodd dilyn ble mae e wrth ddilyn y llwybr swyddogol gyda'i gyd gerddwyr, y bws sy'n mynd 芒 nhw i'r man cychwyn dyddiol a'i ysfa i godi a dilyn ysgyfarnogod.
Dro arall, lle nad oes ganddo adnabyddiaeth uniongyrchol o le neu berson mae'n synfyfyrio'n rhamantus dros beint yn un o'r tafarnau gan beri i mi boeni am ei gyd gerddwyr.
Gwelwn ei fod yn llawer mwy cyfarwydd 芒 gweithiau Waldo a D J Williams na chyda dau o drigolion enwocaf Abergwaun a Wdig.
Ystwytho Wedi mynd heibio Abergwaun mae'n 'stwytho ei sgrifennu a'i gerddediad ac o hynny 'mlaen mae ar ei orau nes colli peth o'i frwdfrydedd rywle yng nghyffiniau Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod.
Mor felys cwrdd 芒 hen ffrindiau a chydnabod fel yr arlunydd Alun Davies ym Mhorthgain a chodi chwant pryd o bysgod 芒 blas heli'r bore hwnnw arnyn nhw yn y Shed - neu beint yn y Sloop.
Ai y Grace Davies a gofiaf innau yn brifathrawes Ysgol Llanrhian yw'r Grace Davies y mae'n ei chyfarfod yn Solfach? Os mai e, gallaf glywed byth yn fy nghof barti unsain dan ddeuddeg a hyfforddodd un flwyddyn ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Roedd yr holl ddisgyblion, ond y rhai bach, bach, yn y parti. Pymtheg oedd yn yr ysgol i .gyd!
Ac yna Gerald ac Ann Miles, Caerhys, y lladmeryddion ffermio organig a gwrthwynebwyr ffyrnig y cynhyrchion GM.
B没m yn lletya gyda nhw droeon ar eu fferm uwch Abereiddi ac wedi'r brecwast mawr sgwrsio'n hir am ffermio 'slawer dydd.
Dim s么n Gyda chyfrol mor gynhwysfawr mae'n demtasiwn i ddarllenydd gyfeirio at ambell beth neu berson na cheir s么n amdano. Prin, er enghraifft, yw'r cyfeiriad at yr Esgob Asser o Bencaer a dreuliai hanner y flwyddyn yn llys Alfred Fawr a'r hanner arall adref yn ei henfro.
Ef, gyda chymorth dau fynach o Wyddelod, ddysgodd Alfred i sgrifennu er na welwch chi ddweud hynny yn llyfrau hanes Lloegr.
Asser, hefyd, luniodd gofiant i Alfred sydd ar gael yn hawdd yng nghyfres clasuron Penguin.
Lucy yn haeddu sylw Ceir cyfeiriad at Gastell y Garn - ond heb gyfeirio at Lucy Walter a aned yno er ei bod yn haeddu, ac yn cael, mwy na throednodyn yn hanes brenhinoedd Lloegr.
Mae lle cryf i gredu iddi briodi Siarl yr Ail ond gydag ail orseddu'r frenhiniaeth wedi teyrnasiad Cromwell penderfynwyd nad oedd yn briodol i Siarl fod yn briod 芒 merch o safle Liwsi.
Tyngodd tri esgob lw ar y Beibl na fu iddynt briodi'r ddau a bu farw Liwsi yn y gwter ym Mharis.
Yn gynharach eleni, bu farw disgynnydd o'r uniad hwnnw rhwng Siarl a Liwsi, yn un o w欧r cyfoethocaf Prydain.
Straeon Mae peth wmbreth o straeon difyr a diddorol yn y gyfrol.
Rhai'n deillio o gyfnod yr awdur yn ohebydd newyddion y 大象传媒 yn y sir megis llofruddiaethau a thrychinebau fel helynt y Sea Empress.
Ac os oedd rhamant ynghlwm 芒 smyglo yr hen amser bu smyglo cyffuriau yn ein hoes ni yn bur gyfrous hefyd a chawn hanes Operation Seal Bay y bu'r awdur yn dyst i'r digwyddiadau.
Mae Hefin Wyn yn poeni llawer am sefyllfa fregus y Gymraeg ar hyd yr arfordir; ac nid heb achos. Ond cawn fod y Gymraeg yn ennill tir yn neheubarth Seisnig y sir gydag unedau Cymraeg mewn ysgolion yn Ninbych-y-pysgod a Doc Penfro
Gofidia o weld yr enw Skyfog am Ysgeifiog ar ambell arwyddbost ac y mae'n tybio bod hyn oherwydd y Seisnigo diweddar ond nid felly y mae.
Pan ddeuthum i fyw i Wdig ym 1961 nid oedd enwau Cymraeg i'w gweld yn unman - dim ond Newport, Fishguard, Moylegrove a'r rhyfeddod mwyaf, Trevine!
A phan 芒f i Dyddewi yn y gaeaf y dyddiau hyn, clywaf fwy o Gymraeg yn y siopau na phan oeddwn i'n byw yn yr ardal.
Arlunwyr Gan i'r awdur gyfeirio at amryw arlunwyr sy'n byw ger y glannau carwn ei annog i ymweld 芒'r unigryw Chris Neale sydd 芒'i stiwdio rhwng Y Sgw芒r (Square and Compass) a'r m么r.
Hefyd, hoffwn wybod beth ddigwyddodd i'r casgliad lluniau a gyflwynodd Graham Sutherland i'r sir ar yr amod fod y lluniau'n aros yno.
Buont yng Nghastell Pictwn am gyfnod ond wedi i'r Amgueddfa Genedlaethol yn ei doethineb gau'r oriel honno, i ble'r aethon nhw wedyn? Mae gen i syniad go lew.
Ymddiheuraf am grwydro cymaint ond mae'n anodd peidio gyda chyfrol a ysgogodd gynifer o atgofion. Mae'n ysbrydoliaeth yn wir ac ymhen yr wythnos rwy'n addo y byddaf unwaith eto'n 么l yn crwydro'r glannau rywle rhwng Tyddewi a Phorthgain.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|