|
Pwll, P锚l a Phulpud . . . a'r mwyaf o'r rhai hyn
Adolygiad Glyn Evans o Pwll, P锚l a Phulpud gan Elwyn Jenkins. Gwasg Gomer. 拢7.99
Ar un wedd mae'r syniad o weinidog sy'n chwarae rygbi yn un annisgwyl.
Ond does dim rheswm pam y dylai fod. Onid offeiriad oedd William Webb Ellis y g诺r a gododd y b锚l a rhedeg efo hi yn Ysgol Rugby a rhoi bodolaeth i'r g锚m sy'n cael ei hystyried gan lawer yn g锚m genedlaethol Cymru.
Ac fe ddaeth W J Havard a ddaeth yn esgob Llanelwy a Thyddewi yn un o nifer o glerigwyr a chwaraeodd i Lanelli!
Offeiriad hefyd ddaeth a'r g锚m i Gymru gyntaf yn 1850, Y Parchedig Rowland Williams.
Yn wyneb hyn efallai mai'r syndod yw fod cyn lleied o weinidogion yn chwarae'r g锚m ac nad oes dwsinau ohonynt ymhlith rhengoedd ei hanfarwolion - yn enwedig yng Nghymru a'i thraddodiadau crefyddol cyfoethog hefyd.
Y Parchedig Phillip Bennett, Y Tra Barchedig Robert Bobby Windsor; Y Canon Gareth Price a'r Drindod Gareth Edwards, Barry John a Shane Williams . . .
Ta waeth am rhyw ddwli fel'na y tair rhan o fywyd Elwyn Jenkins yw'r pwll glo, y cae rygbi a chynteddau'r saint ac yntau wedi bod yn l枚wr, yn chwaraewr rygbi ac yn weinidog ar wahanol adegau yn ei fywyd.
Hunangofiannau
Cofio'r bywyd hwnnw a hel meddyliau amdano y mae yn Pwll, P锚l a Phulpud - y diweddaraf o'r niferus hunangofiannau a gyhoeddir yng Nghymru.
Fe ddywed y rhai sydd fod i wybod y pethau hyn fod bri mawr ar hunangofiannau ymhlith darllenwyr - er mae'n anodd deall pam weithiau gan mai'n hynod anaml y mae'r hunangofiannau yn datgelu pethau trawiadol ysgytwol am y cofiwr.
Yn hytrach, dilynir llwybr digon cyfarwydd o fagwraeth dda a phlentyndod diwylliedig, ysgol dipyn bach yn bethma ac wedyn cv yn canu clodydd gyrfaol o wahanol raddau - gan gofio s么n hefyd pa mor dda wnaeth y plant - mewn swyddi cyfryngol yn aml iawn.
Gellid maddau i ddarllenydd am feddwl, fod gan y gweisg demplad hunangofiant sylfaenol gyda'r awduron yn llenwi'r bylchau gyda'u manylion personol - ond gwell peidio ag ymhelaethu rhag rhoi syniadau yn eu pennau!
Ta beth, y llwybr cyfarwydd hwnnw a ddilynir gan Elwyn Jenkins yntau gyda'r bennod gyntaf yn dwyn y teitl, 'Dyddiau Bore Oes'.
Dechrau'r daith
"Ym Mhen-twyn Sir G芒r y bu dechrau'r daith," meddai gan fynd rhagddo i ddarlunio magwraeth fel yr hynaf o wyth o blant yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
"Roedd popeth yn brin bryd hynny a dogni ar y bwyd," meddai gan gofio hefyd pa mor "frawychus o agos" oedd y rhyfel wrth i awyrennau'r Almaen ymosod ar Abertawe.
"Laddwyd cannoedd o bobl a niweidiwyd llawer mwy. Pan oedd Abertawe yn cael ei bomio gwelem yr awyr yn olau oherwydd y t芒n ac roedd ffenestri ein t欧 ni yn crynu . . .," meddai. Y cof sydd wedi aros gydag ef hyd heddiw.
Yr oedd cyfnod ei blentyndod yn un pan oedd bri ar grefydd hefyd.
"Pinaclau y flwyddyn oedd yr uchel wyliau, sef y Cyrddau Mawr ar y Sul a'r Cyrddau Diolchgarwch yn ystod yr wythnos. Byddai'r capel yn llawn a phobl yn cerdded o bell," meddai.
Hwn yn gyfnod pan allai pregethwyr fod yn llawdrwm ar ddawns a sinema ac yntau'n dwyn i gof y pennill hwn sy'n newydd sbon i mi:
O cadw fachgennyn o'r sinema ddu,
Mae rhwyd gan y gelyn
Dan flodyn a phlu
Athrofa drygioni yw'r sinema i ni."
Ond hyd yn oed dan ddylanwad crefyddol o'r fath dyn oedd dyn yr adeg honno hefyd fel mae'r stori fach am ffermwr yn ceisio gwerthu ceffyl i weinidog yn dangos:
"Mae'n geffyl arbennig, mae'n medru tynnu o'r ochr chwith i'r siafft neu o'r ochr dde, ac mae'n arbennig am gydweithio 芒 cheffylau eraill mewn t卯m," meddai'r ffermwr. A'r gweinidog yn ateb:
"Gyfaill alla i ddim fforddio prynu eich ceffyl ond hoffwn yn fawr petawn yn medru ei gael yn aelod yn fy Eglwys!"
Yn y pwll Bydd yn rhaid ichi ddarllen y llyfr i weld ai dyna brofiad yr awdur pan ddaeth yntau'n weinidog - ond cyn hynny bu wrth ei waith yn y pwll glo:
"Cofiaf yn dda mai'r cyfan oedd ar fy meddwl wrth fynd ar y sb锚c i grombil y ddaear am y tro cyntaf, a cherdded ymlaen tuag at y talcen glo, oedd sut yn y byd y gallwn fynd lan o'r fan honno petai'r top yn dod i lawr? Seriwyd hyn ar fy meddwl, mae'n rhaid, gan i mi gael breuddwydion cas ar 么l dechrau gweithio dan-ddaear," meddai.
Tua'r un adeg, yn 16 oed, y mentrodd i fyd rygbi gan gyrraedd dau o dimau amlycaf Cymru, Llanelli ac Abertawe yn gefnwr ac yn asgellwr .
Yn wir, bu yna brawf terfynol dros Gymru ac er na chafodd ei ddewis i chwarae mewn g锚m brawf fe gafodd chwarae i Gymru mewn g锚m ddathlu yn erbyn y Llewod Prydeinig ar Barc yr Arfau.
Ond un siom fawr yn ystod ei yrfa rygbi oedd cael ei adael allan o d卯m Llanelli a chwaraeodd y Crysau Duon yn 1953.
"Ond er 'mod i'n chwarae yn gyon i'r t卯m cefais fy ngollwng ar gyfer y diwrbnod mawr ac fe aeth nifer o bobl y Tymbl yn wallgof oherwydd yr anghyfiawnder. Y g锚m fawr honno oedd yr unig un i mi golli drwy'r tymor," meddai.
Cariad at y gwaith Mae'r awdur yn ateb mewn brawddeg paham mai yn y weinidogaeth y gwnaeth alwedigaeth iddo'i hun.
"Yr ateb yn syml yw oherwydd bod yna angen gweinidogion a bod gennyf gariad at y gwaith," meddai - gan ychwanegu mai rhywbeth a "dyfodd ynof yn raddol" oedd y sylweddoliad hwn yn hytrach na thr枚edigaeth drawiadol ar y ffordd i rhyw Ddamascus.
Ac er cymaint o bleser a roddodd rygbi iddo mae'n cyfaddef: "Er cymaint fy malchder o fod wedi chwaraeba chynrychioli Cymru yn y gamp hon, cymaint mwy y fraint o gael sefyll yn y pulpud a chlywed y gweddill ffyddlon yn canu emynau Seion . . ." meddai.
O Foriah, Brynaman a Brynllynfell y daeth yr alwad gyntaf wedi coleg ac yno, yng Nghwmllynfell, y dechreuodd yn haf 1964.
Bu cyfnod yn Aberystwyth hefyd ac wedyn yn Llambed ac yntau'n dyst o newidiadau mawr dros y blynyddoedd:
"Rwy'n hoff iawn o eiriau John Wesley gynt a ddywedodd wrth frawd o enwad arall, 'Os yw dy galon di yn curo fel fy nghalon i, mewn cariad a pharch at yr Arglwydd Iesu Grist, yna dyro i mi dy law ac fe gerddwn ymlaen gyda'n gilydd i'r dyfodol'.
"Ond arall yw'r arwyddion yn aml, ac un o sgil effeithiau trist ein sefyllfa grefyddol ni heddiw yw gorfod datgorffori capeli," meddai.
Ond serch hynny dywed: "Wrth edrych yn 么l diolchaf am y farint o gael bod yn y weinidogaeth, a diolchaf am yr ardaloedd hynny lle bu^m yn gwasanaethu."
Yr adnod i gloi y pwt o adolygiad hwn yw, felly; 'Y tri hyn; Pwll, P锚l a Phulpud - a'r mwyaf o'r rhai hyn yw'r pulpud . . ."
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|