|
Salmau C芒n Newydd Camp yn nhraddodiad Edmwnd Prys
Adolygiad Gwilym H Jones o Salmau C芒n Newydd gan Gwynn ap Gwilym. Gwasg Gomer. 2008. 252 tudalen, 拢9.90.
Y n 1621 y cyhoeddodd Edmwnd Prys, Rheithor Maentwrog ac Archddiacon Meirionnydd ei Salmau C芒n, sef Salmau Beibl William Morgan wedi eu mydryddu.
Fe gyflawnodd gampwaith diamheuol a deil cynulleidfaoedd hyd heddiw i ganu rhai ohonynt.
Ac eithrio tair Salm, yr un mesur a ddefnyddiodd Edmwnd Prys i'r cyfan ohonynt, a daethpwyd i adnabod hwnnw fel Mesur Salm.
Ei gamp fawr oedd iddo fydryddu'r Salmau mor llithrig a swynol nes eu bod yn wir yn canu cyn eu gosod ar donau. Dyma ddwy enghraifft o'n llyfr emynau diweddaraf, Caneuon Ffydd:
I'r Arglwydd cenwch lafar glod
a gwnewch ufudd-dod lIawen fryd;
dowch o flaen Duw a pheraidd d么n,
drigolion daear fawr i gyd.
Ac eto:
Yr I么n a'th geidw rhag pob drwg
A rhag pob cilwg anfad;
Cei fynd a dyfod byth yn rhwydd:
Yr Arglwydd fydd dy Geidwad.
Eleni dyma gyhoeddi Salmau C芒n Newydd gan Gwynn ap Gwilym a fu am rai blynyddoedd yn Rheithor plwyfi Bro Ddyfi Uchaf ac yn byw ym Mallwyd.
Y mae hefyd yn un o'n Prifeirdd ac y mae yntau wedi mydryddu'r Salmau - ond y tro hwn yn cadw at y cyfieithiad sydd yn y Beibl Cymraeg Newydd.
Penderfyniad doeth, mi gredaf, oedd peidio a'i gyfyngu ei hun i'r Mesur Salm; yn hytrach fe geir amrywiaeth mawr o donau ac fe awgrymir t么n boblogaidd i bob un o'r Salmau.
Fe lwyddodd Gwynn ap Gwilym yn rhyfeddol, fel ei ragflaenydd, i lunio Emynau sy'n rhedeg yn esmwyth, a hwythau hefyd yn canu cyn eu gosod ar d么n.
Dyma ran o Salm 100:
o rhowch wrogaeth yr holl fyd
Ynghyd i'r Arglwydd gl芒n,
Ei foliant rhowch yn llon ar daen,
A dewch o'i flaen a ch芒n.
Cadwodd yn ffyddlon i'r Beibl Cymraeg Newydd lle mae hwnnw'n wahanol i Feibl William Morgan, fel yn Salm 23;
Y r Arglwydd yw fy mugail i,
Ac ni bydd eisiau amaf;
Mewn porfa fras gorffwys a gaf;
Ger dyfroedd braf gorweddaf.
Mewn dyffryn tywyll du ni chaf
Nac anaf byth na dolur;
A thi o'm blaen, fe rydd dy ffon
A'th wialen dirion gysur.
Gorchest, yn wir, yw cadw mor agos at gyfieithiad y Beibl Cymraeg Newydd a'r un pryd llwyddo i gael cyfieithiad esmwyth a rhwydd. Y mae Gwynn ap Gwilym wedi llwyddo'n rhyfeddol.
Yma ac acw, fodd bynnag, teimlir bod ei ffyddlondeb i gyfieithiad y Beibl Cymraeg Newydd wedi mynd yn gloffrwym arno a'i orfodi i dorri ar linellau, a gwneud ambell i bennill yn anesmwyth.
Nid yw'r pennill hwn yn Salm 40 yn gwbl foddhaol:
Bydd fodlon i'm gwaredu,
o Arglwydd, brysia di
I'm helpu. Cywilyddia
Bawb a wn芒i ddrwg i mi.
Nid yw hwn ychwaith yn Salm 119 cystal ag y disgwylid:
Na ddwg air y gwir o'm genau;
Yn dy farnau di, fy Nuw,
Y gobeithiais; am dy gyfraith:
Cadwaf hi tra byddaf byw.
Nid oes llawer o enghreifftiau o'r math hwn yn y gyfrol.
Tasg amhosibl yw rhoi holl Salmau'r Beibl Cymraeg Newydd ar fydr heb orfod dewis weithiau rhwng ffyddlondeb i 'r gwreiddiol a chreu cyfieithiad sy'n rhedeg yn ddi卢dramgwydd esmwyth.
Ar y cyfan llwyddodd Gwynn ap Gwilym, ac y mae i'w longyfarch ar gyfrol mor l芒n a defnyddiol.
Y wobr fwyaf iddo am ei lafur o rai blynyddoedd fydd gweld ei waith yn cael ei ddefnyddio.
Gobeithiaf yn fawr y bydd hynny'n digwydd ac na chaiff ei waith ei drin mor ddibris ac y cafodd rhai gweithiau eraill diweddar.
Profiad trist a rhwystredig, wrth ymweld ag eglwysi plwyf ledled Cymru, ac edrych yn fanwl ar y ddarllenfa gyhoeddus, ar ddarllenfa'r offeiriad ac ar yr organ, yw gweld mai eithriadau digon prin a geir bod y Beibl Cymraeg Newydd a Caneuon Ffydd yn cael eu defnyddio yn y gwasanaethau.
Gobeithiaf yn fawr nad dyna fydd tynged y Salmau C芒n Newydd.
Cysylltiadau Perthnasol
Gwynn ap Gwilym yn siarad gyda Dei Tomos ar 大象传媒 Radio Cymru
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|