|
Y Llwyd o'r Bryn Hanes cystadleuaeth Dyn y Pethe
Adolygiad Glyn Evans o Y Llwyd o'r Bryn gan r Alun Evans. Cyhoeddir gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. 拢6.99. Gellir archebu drwy Swyddfa'r Eisteddfod.
Rhwng adrodd a llefaru
Mae Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn yn un o brif gystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol er dechrau'r Chwedegau. Tros y blynyddoedd bu bri mawr ar ei hennill.
Ond tybed faint o'r rhai sy'n cystadlu amdani heddiw sy'n ymwybodol pwy oedd y g诺r a roddodd ei enw i'r gystadleuaeth.
Yr oedd Llwyd o'r Bryn yn ddyn a'i droed mewn dwy ganrif, wedi ei eni yn 1888 yr oedd yn un o gymeriadau hynod ei gyfnod a chollwyd teip arbennig iawn o Gymro pan fu farw yn 1961.
Toc wedyn, yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno yn 1963 y daeth y wobr goffa i fodolaeth - yn cael ei hennill gan Stewart Jones.
Y mae Stewart yn un o ddim ond tri a enillodd y wobr eilwaith, yn Abertawe yn 1964.
Y ddau enillydd lluosog arall yw Brian Owen ('65 a '68) a Si芒n Teifi ('78 ac '82).
Ymddengys mai camp unwaith mewn oes yw hon i'r rhan fwyaf o adroddwyr - fel oedden nhw - a llefarwyr - fel ydyn nhw; pob un ohonynt a'i hanes a'i lun yn y gyfrol hon.
Yn y fro Manteisiwyd ar y ffaith fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld 芒 bro Penllyn y flwyddyn nesaf - cymdogaeth Llwyd o'r Bryn - ar gyfer cyhoeddi'r casgliad hwn o enillwyr.
Yn ogystal 芒 bod yn gofnod o enillwyr mae'r llyfr hefyd yn olrhain hanes y gystadleuaeth ac, yn fwyaf arbennig, yn ein hatgoffa o'r cymeriad eisteddfodol chwedlonol bron, Robert Lloyd, a fynychodd ei Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn 1910 ac na chollodd ond dwy wedyn - Bangor 1915 "oherwydd helbul 'dechrau byw'" meddai R Alun Evans a Chaergybi 1927 oherwydd "hen gynhaeaf gwair diweddar".
Dilyn steddfodau Doedd o ddim yn ddilynwr eisteddfodau yn y dull modern:
"O ganol y 1930au ymlaen, ac am rai blynyddoedd, bu ef a chriw bychan o'i ffrindiau yn trafod telerau efo ffermwyr lleol yn ardal y Brifwyl, i gael lletya mewn sguboriau cyfagos . . . Bedyddiwyd y gymdeithas deithiol, ddethol hon yn Gymdeithas y Porfeydd Gwelltog," eglura R Alun Evans.
Fel cystadleuydd Adrodd oed ei faes gan gystadlu gyntaf yn eisteddfod enwog Y Gadair Ddu yn 1917 - a methu cael llwyfan!
Cofio ewythr Mae nai iddo hefyd yn un o'r eisteddfodwyr mwyaf pybyr, y Dr Aled Lloyd Davies, ac ef yn y gyfrol hon sydd wedi llunio ysgrif gofiant sydd, o fewn pedair tudalen, yn rhoi blas rhyfeddol o'r dyn a'i gyfnod.
"Meddai ar y ddawn o fynd i fyd plentyn," meddai wrth gofio'r gwmn茂aeth pan ymwelai'n blentyn a chartref ei ewythr.
Adfer adrodd Yn y gyfrol adlewyrchir sut y daeth yr arfer o Adrodd yn rhywfaint o gyff gwawd dros y blynyddoedd - yn gymaint felly, nes newidiwyd yr enw yn "Llefaru" - gair mwy derbyniol, a c诺l si诺r o fod, yng ngolwg pobl c诺l y dyddiau c诺l presennol.
Ond un na chafodd ei hudo gan yr enw newydd yw'r cyn Archdderwydd, Y Parchedig John Gwilym Jones, y mae ei ddau frawd - T James Jones ac Aled Gwyn - ymhlith buddugwyr y gystadleuaeth.
Yn ei ysgrif, Dawn Adrodd mae o'n mynnu nid yn unig fod i adrodd ei rinweddau ond hefyd nad yw adrodd a llefaru yr un peth.
"Hyderaf yr adferir y gair 'adrodd' i'w briod ddefnydd yn adrannau'r eisteddfodau yn fuan, a da gweld fod nifer helaeth o eisteddfodau lleol yn ddigon doeth i wrthod defnyddio'r term amwys 'llefaru'," meddai.
"Nid llefaru yw adrodd," ychwanega. "Wrth adrodd rhaid cael meistrolaeth lwyr ar holl agweddau'r gelfyddyd i'r fath raddau nes y bydd y perfformiad celfydd a disgybledig ar lwyfan yn ymddangos yn naturiol i'r gwrandawyr yn y seddau," meddai.
Yn felltith Fodd bynnag y mae yna eraill, wrth gwrs, sydd o'r farn i 'adrodd' fod yn felltith Cymreig a ddifethodd ac a lesteiriodd leng o actorion gyda'i rwysg a'i swae.
Dydi John Gwilym Jones ddim yn un o'r rheini. Yn wir:
"Mewn oes pan fo darllen ar drai, a'r iaith lafar ar radio a theledu yn ennill tir, fe wn芒i disgyblaeth adrodd fyd o les i ynganiad y Gymraeg ac arddull ein llefaru," meddai.
Na dydi dadl yr Adrodd / Llefaru ddim yn un y clywsom ei diwedd.
Wedi'r rhagarweiniad dull y gyfrol yw cyflwyno pob enillydd fesul un gyda llun ac wedyn nodiadau amdanynt - weithiau wedi eu cyfansoddi gan yr enillwyr eu hunain wrth iddyn nhw ddwyn i gof eu buddugoliaethau a datgelu ambell i gyfrinach hefyd.
Anghofio yn gamp T James Jones, er enghraifft, ar y llwyfan yn methu 芒 chofio'r gair nesaf wedi iddo ddweud y teittl; "Detholiad o S诺n y Gwynt sy'n Chwythu gan Kitchener Davies.
"Doedd dim amdani ond cerdded o'r llwyfan," meddai. "Roeddwn ar orchymyn fy nhroed dde i symud pan gofiais y llinell agoriadol ac fe lifodd y gweddill . . ."
A chael canmoliaeth wedyn gan y beirniad am y "saib dramatig, huawdl, hynod effeithiol" ar y dechrau!
A ydych yn caru ynteu'n cas谩u adrodd bydd y gyfrol fach hon o ddiddordeb beth bynnag - a'i helw i gyd yn mynd at gronfa Eisteddfod Y Bala.
Byddai'r Llwyd wrth ei fodd, si诺r o fod.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|