|
Buchedd Garmon Sant Hanes Sant y glendid a fu
Buchedd Garmon Sant gan Howard Huws. Llyfrau Llafar Gwlad 71.. Gwasg Carreg Gwlach. 拢5.50
Er yn enw cyfarwydd ar hyd a lled Cymru dydi Garmon Sant ddim yn un y gallai'r rhan fwyaf ohonom draethu'n hir amdano.
Mae hynny'n destun rhywfaint o ryfeddod gan ei fod yn "un o w欧r enwocaf a mwyaf dylanwadol" ei gyfnod ac wedi creu "argraff aruthrol" ar ei gyfoeswyr a'r s么n amdano wedi "ymdreiddio i hanes a chwedlau'r Cymry a chenhedloedd eraill".
Drama Saunders Lewis Sbardunwyd Saunders Lewis i gyfansoddi drama radio Buchedd Garmon lle mae Garmon yn cael ei bortreadu fel amddiffynydd y gwareiddiad Cristnogol gan awgrymu bod yn ei fywyd ef wersi i Gymru'r Tridegau.
Cynnwys y ddrama un o ddyfyniadau mwyaf cyfarwydd llenyddiaeth Gymraeg - "Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad" a'r her i gadw i'r oesoedd a ddel y glendid a fu.
Dyna, i Lewis, y gwerthoedd a gynrychiolai Garmon.
Ond er i eglwysi a ffynhonnau lawer gael eu cysegru iddo yng Nghymru prin yw'r Cymry hynny sy'n gwybod fawr mwy na'i enw amdano!
Bydd llyfr newydd gan Howard Huws yn unioni'r cam hwnnw, Buchedd Garmon Sant yn y gyfres Llyfrau Llafar Gwlad.
Llyfr sy'n rhoi hanes y sant a fu'n swyddog milwrol ac wedyn yn Esgob Auxerre pryd yr ymwelodd ag Ynys Prydain.
Cyhoeddir nifer o luniau sy'n cynnwys Cofeb Maes Garmon, Eglwys Betws Garmon, Eglwys Capel Garmon, Eglwys Llanarmon ac yn y blaen - oll mewn lliw.
Lleoedd yng Nghymru Mae pennod sy'n rhestru pob un o'r safleoedd Cymreig sydd 芒 chysylltiad 芒'r sant yn ogystal a lleoedd yn Llydaw, Cernyw, Manaw, Iwerddon, Lloegr a thir mawr Ewrop.
Eglwys a ffynnon sanctaidd ym Metws Garmon, Arfon; safle brwydr ym Maes Garmon ger Yr wyddgrug; Eglwys a thomen yn Llanarmon dyffryn Ceiriog; Craig Llwyn Garmon yn Llangynog, Powys; tomen gladdu gynhanesyddol Bedd Garmon yn Abaty Cwm Hir, Powys ac yn y blaen.
Mae'n rhestru hefyd nifer o gyfeiriadau ato yng ngweithiau'r hen feirdd.
Magwraeth dda Dywed mai yn ninas Auxerre yng Ngh芒l, yn nyddiau dihoeni'r Ymerodraeth Rufeinig y ganed Garmon Sant tua'r flwyddyn 378.
"Cafodd fagwraeth dda; rhoddwyd iddo'r addysg orau, ac ymhen amser fe'i gyrrwyd i Rufain i astudio'r gyfraith," meddai
Ar ei ddychweliad daeth yn gyfreithiwr llwyddiannus a phriodi gwraig o deulu cefnog.
"I goroni'r cyfan, enillodd barch ei gyd-ddinasyddion i'r fath raddau fel y'i penodwyd yn ddug."
Ond toc wedyn daeth tro "sydyn ac annisgwyl" wrth iddo ymateb i alwad y bobl, yn fonedd a gwreng, i fod yn esgob.
Ni wyddom, meddai Howard Hughes, pam yn union .
"Efallai oherwydd i'w ymddygiad a'i lwyddiant fel dug amlygu doniau trefnu ac arwain anghyffredin a chymeriad hynod loyw. Ond mae'n rhaid ei fod yntau hefyd wedi ei argyhoeddi hyd waelod ei fod nad oedd ei fywyd cyffyrddus a'i lwyddiant bydol yn ddim o'u cymharu 芒'r cyfle i wasanaethu duw a'i gyd-ddyn gerbron yr allorau sanctaidd," meddai.
Arteithio ei hun Beth bynnag y rheswm, "llwyr newidiodd" ei fywyd wrth iddo arteithio ei gorff o fwriad ac ymprydio.
"Hyd ddiwedd ei oes ni fwytai na bara gwenith nac olew na ffa, na hyd yn oed halen, ac ni chymerai na gwin na finag.
"Dechreuai pob pryd bwyd trwy fwyta ychydig ludw, yna bara haidd o flawd yr oedd ef ei hun wedi ei falu.
"Haf a gaeaf ni wisgai ond mantell a thiwnig . . . nes iddynt syrthio'n ddarnau, neu iddo eu rhoi i'r anghenus.
"Yn nesaf at ei groen gwisgai grys coslyd o rawn ceffyl a chysgai ar wely ystyllod pren a lludw . . . gyda darn o sachliain oddi tano, un hen fantell filwrol drosto a heb obennydd," meddai Howard Huws gan ychwanegu mai trwy benyd a gweddi y gloywyd ei sancteiddrwydd "megis gan ferthyrdod hir ac araf".
Mae'r straeon am ei weithredoedd yn niferus ac yn adlewyrchu ei dduwioldeb. Olew a fendithiodd yn gwella'r trigolion pan drawyd y ddinas 芒 haint marwol.
Ei anfon i Brydain Ef hefyd anfonwyd i Brydain gan arweinwyr yr Eglwys Gatholig, gyda Bleiddian o Tryes, i bregethu yn erbyn y Pelagiaid - dilynwyr Pelagius a oedd yn ymwrthod ag athrawiaeth y pechod gwreiddiol ac yn mynnu'r hawl i unigolion ymarfer da neu ddrwg yn 么l eu dymuniad.
Siarsiwyd y ddau i adfer undod Cristnogol ond cyn cyrraedd pen eu taith bu'n rhaid iddynt drechu drycin ofnadwy a drefnwyd i'w rhwystro gan "gythreuliaid".
"Cafodd y ddau esgob y fath hwyl ar y pregethu a'r dadlau yn erbyn y Pelagiaid fel yr aeth y s么n amdanynt a'u gwyrthiau o naill ben i'r ynys i'r llall. >br>
"Gyda thorfeydd enfawr yn cau amdanynt, pregethodd y ddau yn yr eglwysi ac ar y croesffyrdd, yn y caeau a'r lonydd, gan galonogi'r ffyddloniaid a dwyn y rhai ar gyfeiliorn yn 么l i'r gorlan," meddai.
"Adferwyd ardaloedd cyfain i'r Wir Ffydd," meddai gyda'r adferiad yn cyrraedd ei anterth pan roddodd Garmon ei golwg yn 么l i ferch ddall..
Yn dilyn 'gwyrth' arall, pan losgodd pob t欧 ar wah芒n i'r un y gorweddai Garmon ynddo, bu'r bobl yn tyrru ato i geisio iach芒d.
Rhagweld ei ddiwedd A'i boblogrwydd ar ein anterth a'i weithredoedd yn chwedl rhagwelodd ei ddiwedd ei hun mewn breuddwyd.
Yn 么l yr hanes, derbyniodd mewn breuddwyd anghenion teithio gan Dduw a dywedodd Garmon wrth ei gyd esgobion:
"Mi wn o'r gorau pa famwlad y mae Duw yn ei haddo i'w weision" ac mai yno y byddai yn teithio.
"Ymhen ychydig ddyddiau wedyn clafychodd," a mynegi dymuniad i'w weddillion gael eu cludo i'w fro ei hun.
"A'r lle yn llawn pobl yn gwedd茂o ac yn llafarganu salmau, bu Garmon yn wael am saith diwrnod. Yna, yn unol 芒'i freuddwyd, ymadawodd ei enaid ffyddlon a bendigedig am y nef," meddai Howard Huws.
Dan yr elor "Yn Piacenza, rhoddwyd y corff i orffwys dros nos mewn eglwys. Gofynnodd gwraig glaf o'r parlys am gael ei gosod o dan yr elor, a phan godwyd yr elor y bore canlynol, safodd hithau ar ei thraed a'i dilyn.
"Yng Ng芒l, yr oedd pawb am y gorau i anrhydeddu'r corff, ac i sicrhau taith ddirwystr i'r sant trwy drwsio'r ffyrdd, adfer pontydd, canu salmau, cynnau ffaglau, a dwyn y baich ar eu hysgwyddau eu hunain.
"Felly y daethpwyd 芒 gweddillion daearol Garmon Sant yn 么l i'w gynefin . . .," meddai.
Glyn Evans
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|