|
Llais Cenedl Cyfrol Deyrnged John Roberts Williams
'Sefydliad nad oedd yn rhan o'r sefydliad!' Adolygiad Glyn Evans o Llais Cenedl Cyfrol Deyrnged John Roberts Williams. Golygyddion: Nan Elis a Gwenno Ffrancon. Gwasg Gwynedd. 拢8.95. Tud:222 + 24 tudalen o luniau.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Mae 'amryw byd ohono', John Roberts Williams, yn y gyfrol hon - gan ddibynnu pwy sy'n sgrifennu amdano.
Mae yma, er enghraifft, John Roberts Williams y golygydd papur cenedlaethol, John Roberts Williams y dyn ffilmiau, John Roberts Williams y dyn teledu, John Roberts Williams y darlledwr 芒'r llais pruddglwyfus; John Roberts Williams y tad a'r taid; John Roberts Williams y myfyriwr; John Roberts Williams y cyfaill cywir, John Roberts Williams y gyrrwr anystywallt - a John Roberts Williams y dyn drws nesaf.
"Fe'i cofiwn o fel dyn distaw, diymhongar, na fyddai byth yn codi ei lais, ac fel dyn 芒 chalon fawr a oedd bob amser yn barod i helpu unrhyw un a fyddai mewn trybini . . . Dyn direidus [fyddai'n] hoffi cael cwmpeini ambell noson . . . i weld g锚m b锚l-droed dros baned o de a bisged," meddai Mair Humphreys y bu hi a'i g诺r Gwynfor yn gymdogion iddo yn Llanrug am bron i 29 o flynyddoedd.
Bu'r golygyddion yn cribo'n f芒n ac yn fanwl am gyfraniadau i'r gyfrol hon ac ni ellir beio'r rhychwant o gyfranwyr o gyfeillion bore oes fel y diweddar Ioan Mai Evans i gydweithwyr mwy diweddar.
Yr hyn sy'n taro rhywun yn syth yw i John Roberts Williams wneud argraff ar gymaint 芒'i cyfarfu ac yn 么l tystiolaeth y gyfrol hon yr oedd honno bob amser yn argraff ffafriol.
Ac, wrth gwrs, fyddech chi ddim yn disgwyl dim gwahanol mewn cyfrol deyrnged - a chyfrol deyrnged yn ngwir ystyr y gair yw hon. Cyfrol i edmygwyr rannu eu hedmygedd. Cyfrol fawl.
I gyd yma John Roberts Williams, John Aelod Jones, Mr Williams, J么s, John - maen nhw i gyd yma.
Hyd yn oed John Bun i gyfeillion cynnar gydag Eirwen Gwynn - yr wyddones a ddenodd i ddalennau'r Cymro - yn egluro i'r llysenw hwnnw gychwyn fel Bunny yn yr ysgol oherwydd ei glustiau mawrion.
"Ond ni welais i un dim yn anghyffredin yn ei glustiau," ychwanega.
At y "dau lygaid yn dweud mwy na'i dafod" y cyfeiria ei gyfaill oes a'i edmygydd mawr, Ioan Mai Evans, fodd bynnag.
"Ein nod wrth lunio'r gyfrol oedd casglu a chywain - trwy gyfrwng teyrngedau ac anectodau - atgofion cydweithwyr, cyfeillion a theulu am y g诺r hwn a edmygid gan gynifer," eglura'r golygyddion.
Bob yn gyfnod Ar gyfer hynny maen nhw wedi rhannu ei fywyd yn gyfnodau gyda'r cyfraniadau yn amrywio o benodau cyfain i bytiau o ychydig linellau gan nifer helaeth o gyfranwyr gan gynnwys pwt am ddigwyddiad y bu'r adolygydd hwn yn dyst iddo.
Atalnodir y cyfraniadau hyn gan ddetholiadau perthnasol o waith John Roberts Williams ei hun.
Er nad cyfrol i'w chymryd o'i chwr yw hon y mae modd tyfu gyda John Roberts Williams ynddi hi gan gychwyn gyda'i blentyndod yn Eifionydd a diwedd y daith yn edrych ar y byd dros ei sbectol yn Llanrug. Y ddau lygad yna yn cyfeiriodd Ioan Mai atyn nhw, a'r ddwy glust fawr yna, yn gweld a chlywed cymaint i'r meddwl miniog ei dreulio ar gyfer ei ysgrif radio wythnosol 芒'i gwnaeth yn sefydliad cenedlaethol flynyddoedd olaf ei oes.
Ys dywed R Alun Evans, olynydd John Roberts Williams yn bennaeth y 大象传媒 yn y gogledd - mor daclus:
"Fuodd o erioed yn rhan o'r Sefydliad," meddai. "Fe dyfodd i fod yn sefydliad."
Lleferydd cliriaf O bosib mai cyfraniad mwyaf treiddgar y gyfrol yw un Gwilym Prys Davies. Mae ei ysgrif, Llais Cenedl, y defnyddiwyd ei theitl yn deitl y gyfrol hefyd, yn glasur o bwyso a mesur wrth iddo osod John Roberts Williams yn "lleferydd cliriaf y genedl Gymreig ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf".
Mae'n cloi ei ddadansoddiad gyda dyfyniad o filfed sgwrs dros ei sbectol John Roberts Williams:
"Os holwch beth wnes i yn y chwyldro, mi roddaf ateb hen abad yn Ffrainc pan holwyd hwnnw beth wnaeth o yn y chwyldro mawr, ac a orfodwyd i ateb - 'Goroesi'," meddai.
Ac meddai Gwilym Prys Davies:
"'Goroesi'. Atebiad trawiadol yn dangos bod ei feddwl mor siarp ag erioed. Dyma enghraifft berffaith o'i hiwmor."
Ac fe oroesodd dros 90 o flynyddoedd gan ddarlledu i'w wythnosau olaf ac un o'r triciau trist yna y mae bywyd mor ffond ohonyn nhw yw; mai gwendid yn y llais unigryw yna 芒'i gorfododd i dawelu yn hytrach nag unrhyw ball ar y meddwl.
Ond os disgrifiwyd y llais fel un pruddglwyfus mae'r gyfrol hon ymhell o fod yn un brudd wrth drafod dyn yr oedd ei synnwyr digrifwch a'i ffraethineb yn gyneddfau mor werthfawr iddo fel newyddiadurwr ac yn llenor.
Wrth y llyw Mae mwy nag un o'r cyfranwyr yn cyfeirio at John Roberts Williams y dreifar hefyd.
Y s么n yw ei fod yn yrrwr anystywallt iawn a chlywais ddweud 'na fyddai John byth yn parcio ar 么l cyrraedd pen ei daith - dim ond stopio'r car a'i adael o!'.
Y mae hanesyn hefyd - nad yw yn y gyfrol hon - am y tynnwr lluniau Geoff Charles, a oedd yn ddyn ceir o hil gerdd, yn rhoi ei wers yrru gyntaf i John Roberts Williams ddyddiau'r Cymro.
Nid aeth pethau'n dda ac wrth gloi'r car ar 么l gorffen geiriau Geoff oedd; "Yr ydw i eisiau ichi addo un peth imi - na wnewch chi byth gyffwrdd mewn car byth eto."
Yn un o'i gyfraniadau ef mae'r diddan Ddyfed Evans hefyd yn cyfeirio at ymwneud John Roberts Williams 芒 cheir:
"Gwnaeth adduned unwaith na fyddai byth yn gyrru car, ond aeth ef a Gwilym R Jones ati i ddysgu tua'r un adeg, a bu ras - o fath - rhwng Golygydd Y Cymro (dan yr enw Stirling Moss) a Golygydd Y Faner (Mike Hawthorn) ar ryw faes awyr yn ochrau Wrecsam.
"Cyn hyn, bu gan John erthygl yn y Saturday express . . . yn dechrau 芒'r geiriau: Any fool can drive a car. Many do."
Yr enw Fel 'John Aelod Jones' yr oedd llawer yn adnabod John Roberts Williams - yr enw sgrifennu a dynnodd o waith Daniel Owen. Yn wir, yn ystod fy nghyfnod i gyda'r Cymro, flynyddoedd wedi iddo ef adael, wrth yr enw hwnnw y cyfeiriai sawl un o'r argraffwyr ato gan dybio mai 'John Aelod' oedd ei enw iawn.
Mae sylw gan Meredydd Evans sydd ymhlith un o gyfraniadau olaf y gyfrol hon sy'n cyfleu naws y gyfrol i'r dim:
"Gan gofio mai at Daniel Owen y troes John am ei enw newyddiadurol cynnar, cystal i mi gloi trwy ddyfynnu pwt o gyngor a roes Wil Bryan i Rhys Lewis: 'Mae nhw yn deyd fod y students run fath 芒'i gilydd - fel lot o postage stamps. Treia fod yn exception to the rule.'
"Doedd dim rhaid i'n hen gyfaill ymdrechu i fod yn wahanol. Dichon y gwelir ei debyg: ni ddaw neb i lanw ei le," meddai.
Dyna grynhoi ysbryd cyfrol y bydd yr edmygwyr wrth eu boddau 芒 hi ac fe gaiff y rhai nad oeddynt yn ei adnabod eu difyrru hefyd.
Bu R Alun Evans a Gwyn Llewelyn yn hel atgofion am John Roberts Williams ar Raglen Dei Tomos, 大象传媒 Radio Cymru, nos Sul, Hydref 12, 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Cyfarfod teyrnged John Roberts Williams
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|