|
Stori Edith Plant yr Iddewon ar ffo rhag dwrn dur Natsiaeth
Adolygiad Glyn Evans o addasiad Eigra Lewis Roberts o Stori Edith - gan Kathy Kacer. Gwasg Gomer 拢5.99. Yn cynnwys nifer o luniau.
Myn y geiriau hynny, "Yn wir meddaf i chwi, yn gymaint a'i wneuthur ohonoch i un o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch" ddod i feddwl rhywun dro ar 么l tro wrth ddarllen y llyfr hwn.
Yn enwedig o ddarllen am y caredigrwydd a'r tosturi dewr a ddangoswyd gan rai pobl - pentref cyfan ohonynt ar un achlysur - tuag at ddiniweition yn cael eu herlyn.
Caredigrwydd a oedd yn llythrennol beryg bywyd.
Mae Stori Edith yn un o'r llyfrau prin hynny y mae rhywun yn falch o fod wedi ei ddarllen.
Mae'n stori ddirdynnol. Yn ddrych o ddynoliaeth ar ei gorau ac ar ei gwaethaf ar ei dewraf ac ar ei mwyaf milain.
Yn ddyrchafol ac yn gywilydd bob yn ail.
Ac mae stori Edith yn stori wir.
Iddewes fechan yn Vienna oedd Edith adeg yr Ail Ryfel Byd ac ymunwn 芒'i hanes ddeufis wedi i'r Natsiaid oresgyn y ddinas a'u dwrn dur eisoes wedi dechrau chwynnu'r Iddewon.
Yr oedd yn gychwyn cyfnod o ffoi a dianc parhaus i Edith a'i theulu.
Yn gyfnod o fyw mewn ofn. O guddio ac o wadu eu hil er mwyn cadw'n fyw.
Peryg bywyd Mae'r cyfan yn cael ei adrodd yn syml, yn ddiaddurn ac yn effeithiol gan Eigra Lewis Roberts gyda lluniau o brif gymeriadau'r hanes yn rhan o'r testun - i'n hatgoffa mai stori wir am ddigwyddiadau go iawn yw hon.
A hithau'n beryg bywyd bod yn Iddew gorfodir teulu Edith i ffoi o Vienna - i Wlad Belg yn gyntaf ac oddi yno wedyn i seintwar ryfeddol ym Moissac, deheudir Ffrainc, lle mae Edith yn rhyfeddu:
"Nid oedd unrhyw beth yn gwneud synnwyr yma yn Moissac. Roedd yr athrawon yn gl锚n, y plant yn garedig, ac nid oedd dim o'i le ar fod yn Iddew yn 么l pob golwg."
Ac yn wir, yr oedd hwn yn lle cwbl anghyffredin a'i holl drigolion yn byw celwydd beunyddiol er mwyn diogelu'r ffoaduriaid Iddewig.
Erbyn heddiw mae cofeb ar fur yno i gofnodi'r ffaith ac mae'n destun rhyfeddodd gyda chymaint yn rhannu'r un gyfrinach fawr - o'r dinesydd mwyaf distadl i bennaeth y gymuned, y Maer - na fu unrhyw fradychu.
Yn gymaint a'i wneuthur . . .
Lle'n byd yn ddiogel Ond daeth hyd yn oed Moissac yn lle y bu'n rhaid dianc ohono i Edith a hithau'n gorfod wynebu'r caswir creulon:
"Nid oedd y fath beth yn y byd 芒 lle diogel, dim ond mannau lle gellid osgoi perygl dros dro . . . Teimlai fel petai eisoes wedi cael ei dal mewn gwe. Ac nid oedd ganddi unman i fynd. Nid oedd dim y gallai ei wneud ond aros i weld be fyddai'n digwydd."
A hanes yr hyn a ddigwyddodd a gawn yn y gyfrol drawiadol ac ysgytwol hon am fyd lle'r oedd tadau a mamau yn cael eu cipio gan filwyr oddi ar eu haelwydydd a phlant bychain yn gorfod wynebu'r ffaith ei bod yn "amhosibl i ni fyw'n agored fel Iddewon bellach".
Ac er mwyn osgoi erledigaeth yn gorfod smalio "mai rhywun arall" ydyn nhw er mwyn cadw'n fyw.
Dim rhyfedd i Edith a'i chwaer Therese gael y sgwrs hon:
"Mi wyt ti mor ddiflas, Therese. Mi fydda i wastad yn meddwl be ydw i am fod pan fydd y rhyfel drosodd." "Dwyt ti ddim o ddifri, Edith? Fydd y rhyfel byth drosodd." "Sut medri di ddeud hynny?" "Am 'i fod o'n wir. Am nad oes dim byd da wedi digwydd i ni, nac yn mynd i ddigwydd ychwaith."
Cuddio'u hil Mae'n destun rhyfeddod i blant fel Edith a Therese gael eu gorfodi drwy'r fath hunllefau annynol.
Mewn cyflwyniad i'r gyfrol disgrifir y math o guddio rhag y Natsiaid oedd yn bodoli gyda phlant Iddewig yn mabwysiadu enwau newydd a chreu gorffennol ffug aniddewig iddynt eu hunain.
"Cafodd plant Iddewig eu cuddio mewn lleiandai, ffermdai unig, ysgolion preswyl a chartrefi plant amddifad. Bu sawl teulu o Gristnogion yn ddigon dewr i roi cartref iddynt, er eu bod yn mentro'u bywydau wrth wneud hynny.
"Roedd gofyn iddynt fod ar eu gwyliadwriaeth bob eiliad, bod yn ofalus wrth wneud ffrindiau a hyd yn oed wrth ateb cwestiynau oedd yn ymddangos yn gwbl ddiniwed.
"Byddai amryw ohonynt yn mynychu capel ac eglwys, gan gadw'u ffydd Iddewig yn gudd, a dysgu arferion a defodau dieithr. Bob amser yn ofnus, bob amser yn barod i symud ymlaen pan fyddai perygl yn bygwth, dyma'u hunig obaith i gadw'n fyw."
Dyma fyd Edith ddiniwed. Ac mae ei bywyd yn wers inni gyd a'i hanes hi a miloedd o rai tebyg iddi yn staen, ar y naill law, ar ddynoliaeth ond yn ysbrydoliaeth ar y llall.
Lledaenu gwybodaeth Trosiad o lyfr Saesneg, Hiding Edith gan Kathy Kacer yw hwn ac wedi ei gyhoeddi yn rhan o gyfres o lyfrau sy'n lledaenu gwybodaeth am hunllef yr Holocost gan Second Story Press yn Toronto, Canada.
Y mae yr ail lyfr yn y gyfres honno i'w drosi i'r Gymraeg gan Eigra Lewis Roberts a'i gyhoeddi gan Wasg Gomer.
Ymddangosodd C锚s Hana dair blynedd yn 么l:
"Mae'n bwysig i ni gofio'r hyn ddigwyddodd oherwydd, yn anffodus, does dim diwedd ar ryfela," meddai Eigra Lewis Roberts gan ein hatgoffa fod y profiad o fyw mewn rhyfel yn parhau yn un cyfarwydd hyd yn oed heddiw i gymaint o blant ar draws y byd.
Ac yn hynny o beth nid stori sy'n perthyn i rhyw ddoe pell na ddaw byth yn 么l yw Stori Edith ond stori sy'n rhan o heddiw pawb ohonom.
Yn gymaint 芒'i wneuthur . . . yn wir.
Cysylltiadau Perthnasol
C锚s Hana gan Eigra Lewis Roberts
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|