| |
|
|
|
|
|
|
|
Fi sy' 'ma ... Myfyrdodau ar gyfer sawl achlysur
Adolygiad Gwilym H Jones o Fi sy' 'ma... gan Gareth Maelor. Gwasg y Bwthyn, tt.109, 拢6.95.
Cymar yw'r gyfrol hon i Helo, Pwy sy' 'na? a gyhoeddwyd o'r blaen gan Gareth Maelor.
Cyflwyna'r llyfr hwnnw o fyfyrdodau a gwedd茂au ein hofnau a'n pryderon i'n Tad nefol, gan wybod ei fod yn gwrando.
Yn yr ail gyfrol hon atebir y cwestiwn trwy fyfyrdod a gweddi sy'n cadarnhau fo Duw yn gwrando cri.
Y mae'r myfyrdodau wedi eu clystyru o dan wahanol benawdau:
Duw drwy'r dydd; Duw drwy'r flwyddyn; G诺yl Calan; G诺yl y Pasg; Y Pentecost; Diolchgarwch; G诺yl y Geni; Bedydd;Priodas; Derbyn cyflawn aelodau; Y Cymun.
Y mae'r defnyddiau yn amrywiol: ceir yma fyfyrdodau, gwedd茂au, emynau, a myfyrdodau sydd heb fod mewn ffurfiau barddonol, ond sy'n brawf amlwg fod gan yr awdur lygaid a gweledigaeth bardd.
Preifat neu gyhoeddus Fel y dywedir yn y broliant, gellir defnyddio cynnwys y gyfrol ar gyfer pob math o achlysuron defosiynol, yn breifat neu yn gyhoeddus, mewn defosiwn personol neu mewn oedfa.
Yr oedd Gareth yn wael pan oedd yn paratoi'r gyfrol hon; cael a chael a wnaeth i'w gorffen cyn iddo farw ac y mae cysgod ei waeledd a chryfder ei ffydd i'w gweld ar rai o'r myfyrdodau, yn enwedig ar yr un sy'n s么n am siwrneiau gwahanol rai i ganolfan caplaniaeth yr Ysbyty:
"Efallai eich bod yno, fel fi, yn ymbaratoi ar gyfer siwrne ysbrydol newydd. Chwi yn unig a 诺yr beth yw diben eich siwrne. Chefais i ddim siwrne wag."
Ffydd sicr Trwy'r myfyrdodau i gyd down yn ymwybodol o ffydd sicr yr awdur yn Nuw; y mae mor sicr fel ei fod yn medru sgwrsio'n gwbl naturiol gyda Duw.
Fe deimlir trwy'r cyfan fod hynny'n dod mor naturiol iddo fel bod y sgwrs rhyngddo ef a Duw yn gwbl ystwyth a naturiol, a hynny'n rhoi i'r awdur arddull ddi-ffwdan a di-ystrydeb.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|