|
Tir Newydd a Cherddi Eraill Cyfrol sy'n canu drwyddi
Adolygiad John Gruffydd Jones o Tir Newydd a Cherddi Eraill gan Hilma Lloyd Edwards. Gwasg y Bwthyn. 拢6. 70tud.
Er iddi gyhoeddi o leiaf ddeuddeg o nofelau ar gyfer plant, fel bardd yr ydwyf fi wedi meddwl am Hilma Lloyd Edwards erioed a hynny'n deillio o'r ffaith iddi ennill dros hanner cant o gadeiriau a sawl coron mewn eisteddfodau ar draws Cymru.
Ond merch sydd wrth ei bodd yn trin geiriau yw Hilma, merch sydd wedi cefnogi eisteddfodau bach a mawr a dod i'r brig ym M么n, Powys a Phontrhydfendigaid cyn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng Nghaerdydd. Dyna brawf o'i chariad at 'Y Pethe.'
'Cystal ag unrhyw awdl'
Yn 2008 fe gafodd y Prifardd Einir Jones a minnau'r fraint o ddyfarnu Cadair Eisteddfod M么n i Hilma, a hynny am awdl sydd cystal ag unrhyw awdl ddaeth i'r brig yn ein G诺yl Genedlaethol yn ddiweddar - ac mae sawl llinell o'r awdl hynod bersonol honno'n aros yn y cof.
Nid ar chwarae bach mae creu nac anghofio englyn fel hwn;-
Am mai mynd wnaeth sicrwydd fy mod - a'r w锚n
Ar wyneb plentyndod,
Fy nghaer i, a'r dylni'n dod,
Wywodd fel castell tywod.
Mae'r awdl dreiddgar yma yn ei chyfanrwydd yn un o berlau amlwg y gyfrol yma, nid yn unig am y grefft sydd ynddi ond am y cynnwys a ddaeth a deigryn i'm llygaid.
Amrywiaeth y mesurau yn y gyfrol sy'n profi dawn y bardd, gan fod yma sonedau, englynion, cywyddau a cherddi yn y wers rydd, ac er bod yna dinc lleddf i sawl un, mae yma hefyd gyffyrddiadau cyfoes sy'n fwrlwm o hiwmor.
Nid pawb sy'n gallu cyfannu deufyd mor wahanol 芒 jogio a Chaer Arianrhod a rhoi i ni ddau ddarlun mewn lliwiau a geiriau sy'n gweddu i'r dim.
Dyma Hilda'n jogio:
' Cha'i ddim ond joch o dd诺r
I'w lyncu a mi'n lonciwr.'
Ac yna'n gweld olion Caer Arianrhod yn Ninas Dinlle:
'Olion caer ar lan y co',
A'm hanes yn drwm yno.'
O gofio iddi raddio mewn Hen Hanes, ac yna derbyn MA mewn Eifftoleg, does ryfedd yn y byd bod yma gerddi sy'n llawn o naws 'y dyddiau gynt' ac mae teitlau fel Tre'r Ceiri, Adfail ac Abaty Llandudoch yn eilio'i dawn a'i diddordeb yn ei 'hen hanes.'
Dyma'r englyn i Abaty Llandudoch:
Na, nid muriau ond mawredd-a welaf,
Nid olion ond gloywedd,
Fe erys hen gyfaredd,
Y fan hon yn nwfn ei hedd.
Diddorol felly oedd iddi ddewis cystadlu yng Nghaerdydd ar y testun Tir Newydd sy'n rhoi teitl i'r gyfrol yma.
Cerddi amserol
Fel y dywedodd Yr Athro Gwyn Thomas yn ei feirniadaeth "cerddi amserol a geir yma", cerddi sy'n adleisio cyflwr bregus byd fel y mae heddiw, ac mae'r ymwybyddiaeth o'r hen a'r newydd yn clymu'r casgliad yn gelfydd iawn.
Cyfoethogir y dweud yn y newid mesurau sydd yma, gyda'r defnydd o'r vers libre cynganeddol yn cysylltu ddoe a heddiw.
Syndod i mi wedi'r Eisteddfod oedd clywed rhai yn collfarnu'r casgliad ar sail ambell gamgymeriad bach sydd yma - ond y gwirionedd yw bod y casgliad yn canu drwyddo, a'r canu hwnnw'n creu darluniau cofiadwy.
Uchafbwynt yr Awen
Er nad oes thema 'trasiedi' fel y ceir yn y cerddi eraill yn y casgliad yn y gerdd olaf, Lleuad, hon i mi yw uchafbwynt yr Awen, gyda sawl brawddeg sy'n rhoi ias o bleser ac ofn hefyd.
Diolch i Ifor Baines am hybu bardd mor ddawnus, ac i Wasg y Bwthyn am gyfrol a ddaeth i'n dwylo'n fuan iawn wedi i Hilma ddod yn Brifardd, hefyd i Tanwen Haf am glawr trawiadol iawn.
O gofio mor gynhyrchiol yw Hilma, edrychaf ymlaen at y gyfrol nesaf.
Cysylltiadau Perthnasol
Prifardd Prifddinas!
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|