|
Byd o G芒n Artgofion am Jac a Wil
Adolygiad Gwyn Griffiths o Byd o G芒n - Atgofion Melys Jac Davies. Golygydd Eurof Williams. Gwasg Gomer. 拢7.99.
Mae'r ddau'n canu Pwy Fydd Yma 'Mhen Canmlynedd ar Gryno Ddisg a roddir gyda'r llyfr hwn.
Gwaith anodd fyddai diffinio Cymreictod ond os na fedrwn ei ddiffinio mae'n bosib ei 'nabod. Ystyriwch y diweddar Jac Davies - Jac o Jac a Wil a rhoi iddo ei enw Gorseddol - a dyna ichi dalp o Gymreictod.
Un o naw o blant, yn fab i dyddynnwr a gl枚wr yng Nghefneithin, teulu rhyfeddol gerddorol, perfformwyr bob un a chapelwyr selog.
Gair o glod Mae Eurof Williams yn haeddu gair diffuant o glod am ei waith yn golygu cyfrol mor gynnes a deniadol o atgofion. Bron na ellir ei disgrifio'n llyfr lloffion a hithau mor gyfoethog mewn lluniau, cloriau hen recordiau, rhaglenni cyngherddau ac ati.
Ar ben hynny cadwodd Jac Davies ddyddiadur manwl a bu hwnnw'n ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth i'r golygydd.
Mae stori'r ddeuawd a swynodd y genedl dros ddegawdau - a thrwy gyfrwng y recordiau maen nhw'n dal i wneud - yn un ramantus.
Jac, Wil a thri o'u ffrindiau yn mynd allan un nos Wener yn Awst 1957 i Dafarn y Cennen Arms, ger Castell Carreg Cennen, a dechrau canu o gwmpas y piano.
Hefyd yn y dafarn y noson honno 'roedd criw yn cynnwys Alun Talfan Davies (Syr wedi hynny) a gwahoddwyd y pump yn 么l i'r gwesty i barhau 芒'r noson. Chwe mis yn ddiweddarach yr oedd Jac a Wil yn swyno tyrfa o bum mil a hanner yn Neuadd Albert, Llundain.
Tymbl Trwbadors Ond nid dyna wir gychwyn eu stori ychwaith gan fod y ddau yn aelodau o'r Tymbl Trwbadors, parti a fu'n cynnal cyngherddau o gwmpas y wlad - ac ar y radio - yn canu a chyflwyno sgetsus rhwng 1947 a 1982.
Fe fuo nhw'n perfformio gyda Dorothy Squires, hefyd!
Y noson yn Neuadd Albert ddaeth a Jac a Wil i sylw'r genedl ond yr hyn sy'n rhyfeddod yw mai dyna'r tro cyntaf i'r ddau ganu gyda'i gilydd fel deuawd swyddogol.
Cyn pen dim 'roedden nhw wedi gwneud eu record gyntaf, O Dwed Wrth Mam, i gwmni Qualiton, ac roedd y gwahoddiadau'n llifo o bob rhan o Gymru - os rhywbeth yn fwy o'r gogledd na'r de a diddorol darllen bod y ddau yn arbennig o boblogaidd yn Sir F么n!
Cynhyrchwyd y recordiau cynnar yn Neuadd y Glowyr, Creunant, neuadd sinc, ond gydag acwstics ardderchog yn 么l John Edwards, Qualiton.
Fe wnaethon nhw recordiau wedyn i Teldisc, cwmni arall sefydlwyd gan John Edwards, a'r cwmni y bu Dafydd Iwan yn ffyddlon iddo cyn sefydlu Sain. Maes o law aeth Jac a Wil at Sain, hefyd.
Llun diddorol Ceir llun diddorol yn hanes y diwydiant recordio Cymraeg ar dudalen 56 - un sy'n cynnwys Jac, Wil a Tom Hughes trefnydd cerddoriaeth y ddau.
Heblaw'r ffaith fod y golygydd wedi cymysgu rhwng John Edwards a Noel Kendrick mae'r llun yn cynnwys Joe Jones, a sefydlodd gwmni Cambrian wedyn - y prif gwmni recordiau Cymraeg tan ddyfodiad Sain.
Rwy'n synnu na lwyddodd Joe i gael ei fachau ar Jac a Wil wrth i Teldisc fynd at i lawr wedi marw disymwyth John Edwards.
Er mai gl枚wr fu Wil gydol ei oes ni allai Jac ddioddef gweithio tan ddaear ac ym 1943 mynnodd ymuno 芒'r fyddin er nad oedd raid iddo ac yntau mewn reserved occupation - yn wir bu raid iddo fynd i gryn drafferth i ddarbwyllo'r awdurdodau ganiat谩u iddo adael y lofa.
Bu farw Wil ym 1987 ond er mai dyna ddiwedd y ddeuawd, daliodd Jac i ganu gyda Ch么r Mynydd Mawr, C么r Meibion De Cymru, Cantorion y Rhyd ac Y Parti Bach.
Atgofion Jac, a fu farw Chwefror eleni yn 90 oed, yw prif gynhaliaeth y gyfrol hon.
Yn ffodus i ni, roedd Eurof Williams wedi bod yn recordio atgofion y ddau er 1977, felly mae stori'r ddeuawd yn gyflawn.
Cymysgu ag enwogion Dau arbennig iawn, dau golier fu'n cymysgu gyda'r enwogion. Cawn eu hanes yn Neuadd Albert ac yn canu yn Claridges mewn noson i ddathlu dyrchafu David James, Pontrhydfendigaid, yn farchog.
Cawn ymdrechion rhai fu'n rhannu llwyfan 芒 nhw i egluro cyfrinach dau a wnaeth ganu pop o emynau Cymraeg. Diffuantrwydd a melysder sain? Wn i ddim beth oedd e ond 'roedd yn dipyn o gamp ac mae'n dipyn o stori.
'Roedden nhw'n ddau oedd yn gyt没n iawn gyda'i gilydd - am bopeth ond gwleidyddiaeth gyda Wil yn dal yn ffyddlon i'r Blaid Lafur ond Jac wedi troi at Blaid Cymru!
.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|