|
Llyfr Pen-blwydd Dan ddylanwad y s锚r
Adolygiad Glyn Evans o Llyfr Pen-blwydd - Birthday Book gan Eiry Palfrey. Gwasg Gomer. 拢9.99.
Wrth gwrs, lol i gyd, ydi o.
Ond dydi hynny ddim yn rhwystro'r rhan fwyaf ohonom edrych beth mae'r 's锚r' yn ei ddarogan ar ein cyfer ar gyfer y diwrnod, wythnos neu fis nesaf.
Y flwyddyn nesaf, hyd yn oed, yr adeg hon o'r flwyddyn.
Ac, wrth gwrs, does yna ddim synnwyr cyffredin o gwbl mewn credu fod a wnelo dydd eich geni ac ichi gael eich geni dan arwydd sidyddol neu'i gilydd unrhyw beth a chwrs eich bywyd.
Un a fyddai'n dadlau'n daer yn erbyn hynny fyddai Eiry Palfrey sydd newydd gyhoeddi llyfr astroleg dwyieithog newydd y Llyfr Pen-blwydd - Birthday Book.
Mynd mawr Mae o'r math o lyfr y mae mynd mawr arnyn nhw a chyda hwn wedi ei deilwrio'n arbennig ar gyfer y gynulleidfa Gymraeg / Gymreig mae iddo ap锚l ychwanegol.
"Yn ogystal 芒 bod yn llyfr defnyddiol i nodi dyddiadau pen-blwydd pwysig a darganfod pa enwogion sy'n rhannu'r un pen-blwydd 芒 chi mae hefyd yn edrych ar nodweddion pob arwydd yn y Sidydd. Mae hefyd yn cynnig pa anrhegion i brynu i ba arwydd!" meddai'r cyhoeddwyr, Gwag Gomer sydd wedi cynhyrchu llyfr deniadol, sicr ei rwymiad sy'n mynd i ddal traul y blynyddoedd.
Ac meddai Eiry Palfrey sydd wedi bod yn ymh茅l 芒'r maes hwn ers nifer o flynyddoedd:
"Yr hyn rwy' wedi'i wneud yw nodi rhai awgrymiadau i siwtio nodweddion y gwahanol arwyddion."
Ond gan ychwanegu ei fod o hefyd "ychydig yn dafod-yn-y-boch".
Egwyddorion cadarn Serch hynny mae'r cyfan, fe ymddengys wedi ei sylfaenu ar egwyddorion cadarn:
"Er enghraifft, mae Leos wrth eu boddau gyda'r haul, felly dwi wedi dweud mai'r anrheg berffaith ar ei cyfer nhw fyddai ynys yn y Carib卯. Mae Virgo yn leicio cael popeth yn ei le, felly byddai rhywbeth fel desg neu beiriant golchi llestri yn anrheg dda iddyn nhw.
"Mae Scorpios wedyn yn leicio cyflymdra, a'r gorau o bopeth, felly Porsche iddyn nhw yn anrheg. I Sagittarius, dwi wedi awgrymu gwyliau i rywle egsotig gan eu bod wrth eu boddau'n teithio.
"Ond peidiwch 芒 phoeni, mae yna awgrymiadau am anrhegion rhad hefyd!" meddai.
Dywed Eiry Palfrey mai "yn raddol" y daeth hi i sylweddoli gwerth astroleg ond iddi gychwyn yn amheuwraig:
"Fel pob Scorpio, roedd rhaid i mi ymchwilio'r peth hyd y pen eithaf. A dyna be nes i, nes oeddwn i'n gwbl hapus. Does neb yn gwybod pam y mae o'n gweithio allan, ond mae e - mae 'na ryw wirionedd rhyfedd felly i astroleg," meddai.
Eglura mai Mawrth 21 - Alban Eilir neu gyhydnos y gwanwyn - yw cychwyn y flwyddyn astrolegol a dyna fan cychwyn y gyfrol hon, yn naturiol.
I bob arwydd Y patrwm yw, wyneb ddalen i bob arwydd yn nodi ei ddyddiadau a'i arwyddair wedyn disgrifiad o nodweddion y rhai a anwyd 'dan yr arwydd' ac wedyn ofod dyddiadurol ar gyfer pob diwrnod gyda rhestr o enedigaethau nodedig ar gyfer pob un.
Yn amlwg bydd pawb am ruthro gyntaf i'w arwydd ei hun ac wele ddarganfod mai "I'r copa" yw fy arwyddair i; mai'r Sadwrn yw fy niwrnod, wyth fy rhif lwcus, mai llwyd, brown a du yw fy lliwiau, mai bysedd c诺n, eirlys a phansi yw fy mlodau; Biwmares, Penfro, Rhydychen, Keighley, Delhi a Brwsel fy nhrefi.
Y gwaith delfrydol imi fyddai gwas sifil, mathemategydd, meddyg esgyrn, osteopath, gwyddonydd, cyfrifydd, rheolwr banc a deintydd ac mai fy "man gwan" yw fy mhengliniau - nid jyst fy mhen fel y tybiodd cymaint o bobl.
Yn herio Byddai eraill yn herio hefyd y gosodiad hefyd fy mod "yn berson cyfrifol iawn".
Yn wir, heb gymorth unrhyw astroleg, proffwydodd athro yn yr ysgol ers talwm:
"Fe ewch chi'n bell iawn - i'r cyfeiriad anghywir."
Rwy'n amau mai ef oedd agosaf ati hi.
Beth bynnag, cip yn y papur newydd nawr i weld beth fydd gan heddiw i'w gynnig . . .
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Eiry Palfrey
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|