![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Ar D芒n gan Sioned Lleiniau T芒n yn y teitl Helyntion yr ifanc yng nghefn gwlad.
Ar D芒n gan Sioned Lleiniau. Cyhoeddir gan Wasg Gomer. Adolygiad gan Elin Meredith. Comisiwn arbennig gan Wasg Gomer i ysgrifennu nofel am gefn gwlad ydy cefndir y nofel yma. Mae'r awdures, Sioned Lleinau, wedi ei geni a'i magu yng nghefn gwlad ac wedi seilio llawer o Ar D芒n ar ei phrofiad o fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc yn ardal Capel Iwan.
Fel mam i dri o blant sy'n byw yng nghefn gwlad, mae dyfodol y gymdeithas yma yn agos iawn at ei chalon felly, ac mae hi wedi mynd ati yn fwriadol i ddarlunio ei hagosatrwydd a'i bwrlwm.
Caru, priodi, plant siawns Stori am gymuned fechan wledig yn Sir Gaerfyrddin yn canolbwyntio ar deulu'r Gelli ydy hi. Cawn hynt a helynt pobl ifanc yr ardal a hanes caru, priodi, plant siawns, marw a dyfodol ffermio yn yr ardal.
Fel y gellid ei ddisgwyl gan rywun sy'n gwneud ei bywoliaeth o waith cyfieithu, mae'r ysgrifennu yn loyw, cywir a chadarn. Mae'n arwyddocaol, efallai, fod yr awdures wedi ysgrifennu doethuriaeth prifysgol ar y testun, "Delwedd o'r wlad yn y nofel Gymraeg." Mae hi'n ymwybodol iawn o fod eisiau portreadu delwedd ffeithiol-gywir, gyflawn a ffafriol o'r bywyd yma.
Ond yn yr ymgais i wneud hyn, efallai fod y cymeriadau a stori wedi mynd ar goll. Teimlwn fod gormod o bwyslais yn y nofel ar ddisgrifio bywyd cefn gwlad, a hynny ar draul stori afaelgar.
Castiau bechgyn ifainc Mae'r cynhwysion i gyd yma: bywyd y Clwb Ffermwyr Ifanc, castiau bechgyn ifanc cyn noson priodas, anawsterau ffermio, y tensiwn rhwng cenedlaethau, tynnu coes, yr arferiad o 'fynd i deithio' ymhlith meibion - a merched - fferm heddiw a phwysigrwydd y car i bobl ifanc y wlad.
Ond mae'r awdures weithiau yn llafurus o ymwybodol o gynnwys yr holl elfennau yma, a chreu epig o nofel, gan golli golwg ar y pethau bach ac ar gynnal rhediad y stori i'r darllenydd.
Fel y dangosodd y gyfres deledu Darn o Dir mae bywyd pobl ifanc cefn gwlad yn yr oes fodern yn destun sydd angen ei archwilio'n llawnach ac mae Gomer i'w canmol am geisio gwneud hynny.Ond yn anffodus wnaeth y nofel yma ddim taro'r nod i mi, er gwaetha'r addewid yn ei theitl.
Cliciwch i anfon ebost gyda'ch sylwadau chi.
Cysylltiadau Perthnasol
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|