| |
|
|
|
|
|
|
|
Englynion a Cherddi T Arfon Williams. Cyhoeddi Englynion a Cherddi T Arfon Williams. Y casgliad cyflawn. Golygydd, Alan Llwyd. Barddas. 拢12.
Mae'r gyfrol hon yn cynnwys nifer o gerddi ac englynion nad ydyn nhw wedi eu cyhoeddi erioed o'r blaen.
Mae'r adran Cerddi Eraill, yng nghefn y gyfrol, yn cynnwys englynion a cherddi a drosglwyddwyd i Alan Llwyd gan weddw T Arfon Williams.
Cerddi a gyhoeddwyd yn barod yn y cyfrolau Englynion Arfon (1978), Annus Mirabilis a Cherddi Eraill (1984) a Cerddi Arfon (1996) yw gweddill y gyfrol.
Medrus a dylanwadol Mae'n gymwynas arbennig cael gyda'i gilydd gerddi gwr sy'n cael ei gyfrif yn un o feirdd caeth mwyaf medrus a dylanwadol yr ugeinfed ganrif.
Nid yn unig llwyddodd yn ei waith i warchod a diogelu hen werthoedd a safonau y traddodiad barddol Cymraeg ond llwyddodd ar yr un pryd i dorri ei gwys ei hun ac ymestyn y rheolau heb eu torri.
Cymaint fu ei lwyddiant gyda'r ffurf a adnabyddir fel yr "englyn un frawddeg" y dechreuwyd galw'r math hwnnw o englyn yn "englyn Arfonaidd".
Undod oedd un o nodweddion ei englynion a'r undod hwnnw yn cael ei ddiogelu gan yr un syniad a fyddai'n cynnal englyn yn llwyr o'i ddechrau i'w ddiwedd.
'Syfrdanol o ran crefft Mewn cyflwyniad i'r gyfrol hon mae Emyr Lewis yn s么n amdano yn creu sawl englyn "a oedd mor afaelgar neu ddwys o ran synnwyr, ag yr oedd yn syfrdanol o ran crefft."
Heb amheuaeth, y cyfuniad hwn o berffeithrwydd crefft a gwreiddioldeb syniadaeth a'i gwnaeth yn englynwr mor arbennig.
Ond er bod ganddo ei wreiddioldeb ei hun wrth edrych ar bethau o ran syniadau yr oedd ei gred sylfaenol yn un gwbl seml a chlir yn deillio o'i ffydd Gristnogol ac y mae 么l hynny yn llawer o'i gerddi.
Hynny a'i galluogai i fod, yng ngeiriau Emyr Lewis eto, yn fardd optimistaidd er gwaethaf gwaeledd personol.
Yn wir, dywed ef mai y cywair ysgafn yn hytrach na'r lleddf oedd ei gywair naturiol.
"Yr oedd yn Gristion o argyhoeddiad dwfn. Dyma oedd ffynhonnell ei optimistiaeth," meddai gan ychwanegu fod yr ymadrodd "ofer pryder" yn un o'i englynion "yn crisialu agwedd Arfon at y byd. Gwastraff amser yw pryderu mae gwychder amryliw y cread yn beth rheitiach i feddwl amdano," maeddai.
Brodor o Dreherbert yn y Rhondda oedd Arfon Williams ac yn ddeintydd wrth ei alwedigaeth. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes yng Nghaeathro ger Caernarfon.
Yn ystod y saithdegau y dechreuodd farddoni ac yn fuan iawn yr oedd yn un o'r s锚r disgleiriaf yn ffurfafen canu caeth Cymraeg gan wneud argraff yn syth er, mae'n deg dweud, i'w englynion un frawddeg godi gwrychyn sawl un ar y cychwyn ond buan iawn yr argyhoeddwyd y rhan fwyaf o'i feistrolaeth dros y gynghanedd ac fe ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth yr englyn yn y Genedlaethol chwe gwaith i gyd gyda dau englyn ganddo yn gydradd 芒 dau englyn arall yn 1980. Enillodd deirgwaith yn olynol yn 1992/3 a 4.
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|