大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Baner Beca gan Marion Eames
Mae un o brif awduron nofelau hanes Cymru ar fin cyhoeddi nofel am Ferched Beca.





Yr oedd brwydr 'merched Beca' yn erbyn gormes y tollbyrth yn un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous a lliwgar ein hanes ac yn Baner Beca mae Marion Eames yn dilyn hanes gohebydd y Times, Thomas Campbell, am drywydd y stori yn ne orllewin Cymru.

Clawr y llyfrYn ystod y gwrthryfel yr oedd tollbyrth yn cael eu malu yn rheolaidd gan rai wedi eu gwisgo fel benywod ac yn galw'u hunain yn Ferched Beca.

Mae nofel Marian Eames yn s么n hefyd am helynt teulu lleol sy'n cael ei dynnu i'r cythrwfl.

Mae Marion Eames, yn nofelydd hanes o hil gerdd gyda'i nofelau Y Stafell Ddirgel a Rhandir Mwyn am helyntion Crynwyr Cymry yn cael eu hystyried yn glasuron Cymraeg.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Y Stafell ddirgel yn 1969 gyda bonllef o gymeradwyaeth iddi am ei phortread grymus a gofalus o'r erlid a fu ar y Crynwyr cynnar yn ardal Dolgellau lle cafodd ei magu.

Dilyniant iddi ydoedd Y Rhandir Mwyn a'r Crynwyr Cymreig bellach yn ymsefydlu ym Mhensylfania yr Unol Daleithiau.

Ffilmiwyd y ddwy nofel gan y 大象传媒.

Yn dilyn y llwyddiant hwn cyhoeddodd nifer o nofelau eraill gan gynnwys I Hela Cnau, ac Y Gaeaf Sydd Unig i gyd-fynd a saith canmlwyddiant marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yn 1982 a hon eto yn adlewyrchu yr ymchwil manwl a nodweddai ei dwy nofel gyntaf.

Er mai yn Nolgellau y treuliodd ei phlentyndod a chael ei haddysg gynnar ym Mhenbedw y'i ganwyd ac wedi cyfnod yn llyfrgellydd aeth i astudio'r delyn a'r piano yn y Guildghall yn Llundain a thynnodd ar y profiad hwnnw ar gyfer ei nofel Seren Gaeth am ferch dalentog yn astudio cerddoriaeth.

Cyhoeddodd lyfrau i blant hefyd a bwriedir Baner Beca ar gyfer rhai rhwng de a 12 oed.

"Gobaith Marion Eames yw y bydd y darllenwyr yn cael blas ar y nofel ac yn cael eu hysbrydoli i ddarllen rhagor am ymgyrchoedd Merched Beca dros gyfiawnder i ffermwyr tlawd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn erbyn ceidwaid y tollbyrth," meddai Garmon Gruffudd o wasg y Lolfa sy'n cyhoeddi'r llyfr.

"Mae wedi ei anelu at blant sydd, efallai, heb glywed am yr helyntion o'r blaen. Gobeithio y bydd yn llanw bwlch yn y farchnad, gan fod llyfrau Cymraeg am hanes Merched Beca yn brin dros ben.

"Mae'n rhyfedd iawn nad oes yna lond trol o nofelau Cymraeg am helyntion Merched Beca gan fod yna gymaint o gyffro a rhamant i'r stori. Mae dyheadau a gweledigaeth Merched Beca dros gyfiawnder yn erbyn gorthrwm y sustem gyfalafol yn parhau i fod yn berthnasol yng nghefn gwlad y De Orllewin o hyd lle mae bron yn amhosib i deulu ifanc allu fforddio prynu ty."

Baner Beca gan Marion Eames. 拢4.95 Cyhoeddir Awst 16.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy