|
Bedwen Lyfrau Cyffro Barcelona ar lannau'r Fenai
Bydd 12 o lyfrau sydd newydd eu cyhoeddi yn cael sylw mewn g诺yl lyfrau fawr yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, Mai 5.
Mae'r 诺yl yn dilyn llwyddiant g诺yl arall debyg y llynedd, Bedwen Lyfrau, ac fe fydd yn gymysgedd o bob math o weithgareddau yn ymwneud 芒 llyfrau a darllen ar batrwm gwyliau tebyg mewn gwledydd tramor.
Fe'i trefnir gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru a bydd yn cynnwys sesiynau a pherfformiadau gan blant, cystadleuaeth deud j么c i blant, helfa drysor lenyddol, cwis tafarn llenyddol, sesiynau holi a thrafod gydag awduron adnabyddus fel Gwyn Thomas ac Eigra Lewis Roberts.
Bydd y rhan fwyaf o'r digwyddiadau yn Galeri (01286 685222)
Dyma ddetholiad o'r prif ddigwyddiadau ddydd Sadwrn:
10.00 - DJ a Valentine -holi Emyr Hywel ac Arwel Vittle
11.00 - Dylan Iorwerth yn holi Gwyn Thomas ac Eigra Lewis Roberts am bwysigrwydd y syniad o le yn eu gwaith
12.00 - Lansio cyfrol ddiweddaraf Caryl Lewis, - Y Gemydd
1.00 - Holi Dylan Iorwerth am ei hunangofiant, Nabod y Teip
2.00 - Cofio 69 - Lansio Yr Arwisgo -Sonia Edwards
3.00 - 'Tywysogion' - Sgwrs gan Spencer Smith am y gyfrol a'r gyfres deledu
STIWDIO 2:
11.00 - Sesiwn Gemau Atebol
12.00 - Hen Longau Sir Gaernarfon - Sgwrs a sleidiau gan Robin Evans, Moelfre, ar gyfrol David Thomas
1.00 - Llyfrgell Genedlaethol Cymru - 'Cyhoeddi ar y We. - Datblygiadau cyffrous'
2.00 - Twm Elias yn rhoi cyflwyniad powerpoint ar Smyglwyr Cymru.
11.00 - Lansio pedair cyfrol ddefosiynol gan Gyhoeddiadau'r Gair - (Yr Enw Mwyaf Mawr, Emynau Ffydd 2, Geiriau Ffydd, Adlais.
1.00 - 'Morwr Tir Sych' - J. Geraint Jenkins, cyn-guradur Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Sgwrs a sleidiau ar ei hunangofiant
3.00 - Lansio Merched Gwyllt Cymru gan Wasg Gwynedd
7.00 - 8.30 Nos Sadwrn - Dathliad o Lenyddiaeth plant gyda Gwyneth Glyn, Bethan Gwanas, Myrddin ap Dafydd yn cyflwyno nifer o artistiaid amrywiol.
BAR DOC
Y Cymro - dathliad 75 mlynedd
4.00 - Gwobr Cyfraniad Oes Bedwen Lyfrau - Cyflwynir gan Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol
4.30 - Alun Jones yn Holi Llwyd Owen
Helfa Drysor Lenyddol o amgylch tref Caernarfon ar fore Sadwrn -dan ofal Siop Palas Print
Cwis Tafarn Llenyddol (Undeb yr Ysgrifenwyr) 9.00 yn Nhafarn y Prince of Wales - cwisfeistr: Geraint Lovgreen.
I'r plant lleiaf
Plant hy藛n
11.00 - Sach Stori
12.00 - Gweithdy Morgan Tomos (Cyfres Alun yr Arth)
1.00 - Lliwio efo Sam T芒n
2.00 - Sach Stori
3.00 - Gweithdy crefft (Morgan Tomos)
DYDD SADWRN, 10.00-5.00)
Sgwadiau Sgwennu
10.00 - Gwen Lasarus 12.00 - Iwan Llwyd
2.00 - Caryl Lewis
12.00 - Cystadleuaeth Joc y Dydd efo Geraint Lovgreen
3.45 - Darlleniadau'r Sgwadiau Sgwennu
2.00 - 'Cofio 69' - Lansio Yr Arwisgo - Sonia Edwards
11.00 Sesiwn Gemau Cymraeg
Erbyn hyn yn rhan swyddogol o weithgarwch Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru syniad y prifardd a'r cyhoeddwr Myrddin ap Dafydd oedd g诺yl o'r fath yn y lle cyntaf wedi ei ysbrydoli gan 诺yl debyg yn Barcelona.
O'r cychwyn cyntaf bu'n freuddwyd ganddo weld g诺yl lyfrau debyg yng Nghymru
"Yno, roedd stondinau ar y Ramblas, roedd hi fel Steddfod ym mhob sgw芒r, roedd awduron a bandiau, grwpiau canu a chyhoeddwyr wrthi drwy'r dydd a theuluoedd yn mwynhau'r cyfan ac yn prynu llond sachau o lyfrau," meddai.
"Roedd y pwyslais ar adloniant a gwerthu gyda 12.5% o holl lyfrau'r flwyddyn yn cael eu gwerthu ar yr un diwrnod hwnnw yn Barcelona," meddai.
Dan ormes Mae'n ddiddorol sylwi mai g诺yl a sefydlwyd yn dilyn cyfnod pan waharddwyd Catalaneg yn yr ysgolion dan lywodraeth Franco.
"Pan fu farw Franco yng nghanol y Saithdegau, codwyd y gwaharddiadau ar yr iaith. Gyda'u hysbryd ar d芒n, penderfynwyd ailddysgu'r cenedlaethau coll i ddarllen llyfrau yn eu hiaith eu hunain a rhan o'r ymgyrch bwysig honno oedd cael 'diwrnod prynu llyfrau Catalaneg' ar eu diwrnod cenedlaethol, Ebrill 23.
Tyfodd honno i fod yn gyfuniad cyffrous o lyfrau newydd, adloniant torfol a gwerthu a mwynhau mawr.
"Gobaith Cwlwm Cyhoeddwyr yw y bydd Bedwen Lyfrau yn gychwyn ar ddathliadau tebyg yn y byd cyhoeddi Cymraeg y gwanwyn hwn," meddai Myrddin ap Dafydd.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|