| |
|
|
|
|
|
|
|
Bili Boncyrs Nid ar ddamwain y cafodd Bili Boncyrs ei wallt coch.
A hwythau gyda gwalltiau coch eu hunain gwyddai awdur ac arlunydd Bili Boncyrs a'r Pants Hud a Bili Boncyrs a'r Cynllun Hedfan pa mor anodd y gall bywyd fod i blant gwallt coch.
A dyna pam, meddai Caryl Lewis, y penderfynodd hi a'r arlunydd Gary Evans wneud Bili yn gochyn
Neb pengoch "Pan oeddwn i'n tyfu i fyny doeddwn i ddim yn teimlo fod gennyf lawer o gymeriadau pengoch cryf i edrych i fyny atynt," meddai.
Yn amlach na pheidio, meddai, testun sbort yw cymeriad 芒 gwallt coch mewn llenyddiaeth.
"Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth am hynny felly es ati i greu cymeriad positif i blant pengoch a gobeithio y bydd Bili Boncyrs yn medru bod yn arwr i unrhyw plentyn pengoch yng Nghymru," meddai.
Dywed Caryl ei bod hi'n gofidio pa mor hawdd yw hi i blant pengoch fod yn gyff gwawd.
"Dwi'n ymwybodol ohono ers yn blentyn. Gwelais fechgyn yn cael amser caled ofnadwy yn cael eu galw'n cochyn a carrot top a phob math o bethau. Roeddwn i'n teimlo drostyn nhw er na wnaeth y peth erioed beri loes mawr i mi yn bersonol gan fy mod yn gymeriad eithaf cryf," meddai.
Hwyl a difyrrwchOnd ychwanegodd mai hwyl a difyrrwch yw'r rheswm pennaf y tu 么l i lyfrau Bili Boncyrs sy'n cael eu cyhoeddi gan y Lolfa ac i'r syniad am Bili ddod iddi hi a Gary pan oedd y ddau yn gweithio gyda'i gilydd i gwmni cysylltiadau cyhoeddus.
"Ambell i ddiwrnod byddai Gary, pan yn cyrraedd y swyddfa, yn dweud 'Dwi'n teimlo'n Bili Boncyrs heddiw,' ac oddi yno y daeth yr enw," meddai Caryl.
O ran arlunio ac o ran stori a chymeriadau gwnaeth Caryl a Gary ymdrech arbennig i roi gwedd fodern i'r llyfrau.
"Mae'r dylunio a'r sefyllfa yn fodern gyda Mrs Boncyrs yn mynd allan i weithio a Mr Boncyrs yn coginio," meddai.
Yn un o'r straeon Dad, Mr Boncyrs, sy'n cael ffedog newydd drwy'tr post.
Mae gan y gyfres ei gwefan ei hun hefyd lle gellir cysylltu 芒 Charyl a Gary .
Pris Bili Boncyrs a'r Pants Hud a Bili Boncyrs a'r Cynllun Hedfan yw 拢2.95 yr un.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|
|