| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Enwau Adar I adarwyr a chyfieithwyr
Adolygiad Gwenll茂an J Rowlinson o Rhagor o Enwau Adar gan Dewi E. Lewis. Llyfrau Llafar Gwlad, Rhif 66. Gwasg Carreg Gwalch. Clawr medal - 拢4.95.
Mae llyfryn bach 79 tudalen Dewi E. Lewis yn cynnwys dwy brif restr, Enwau Adar - Cymraeg/Lladin/Saesneg, ac ail restr, Enwau Adar - Saesneg/Lladin/Cymraeg.
Fel cyfieithydd fy hun, credaf fod nodi'r enw Lladin yn angenrheidiol a phob clod i Dewi Lewis am wneud hyn.
Mae'r llyfryn hwn yn dilyn ei gyfrol gyntaf, Enwau Adar a gyhoeddwyd yn 1994.
I brofi'r llyfr dewisais enw Cymraeg ar aderyn ac wedyn enw Saesneg gan chwilio'r llyfr am yr enwau cyfatebol.
Yn y Gymraeg dewisais aderyn y bwn ac roedd yr enw Saesneg cyfatebol bitter yno.
Yr enghraifft Saesneg a ddefnyddiais oedd bullfinch gan ganfod sawl dewis yn y Gymraeg; Aderyn Pensidan, Chwibanydd, Aderyn y Berllan, Bwlffin (Bangor) Rhawngoch, Twm Cwinc (Morgannwg), Aderyn Rhongoch, Aderyn Rhawngoch, Gwas y Siri, Aderyn Coch, Aderyn Rhown Goch (Llandysul), Coch y Gors (Nantgarw), gydag amrywiadau tafodieithol yn dibynnu ar ba ardal yr ydych yn byw gan ei gwneud hi'n bosib dewis yr enw cywir ar gyfer eich ardal chi.
Fel y dywedir yn y broliant ar glawr cefn y gyfrol: "Ceir yma gasgliad gwerthfawr o enwau sy'n haeddu'i le wrth benelin pob adarwr - y rhai sydd yn cael blas ar fyd natur ac ar enwau."
Mae yna lun trawiadol o las y dorlan ar y clawr blaen a dynnwyd gan y diweddar E Breeze Jones - llun sy'n sicr o dynnu sylw'r darllenydd at y llyfryn hwn. Cynlluniwyd y clawdd yn gelfydd gan Si芒n Parri.
Gyda'r nifer o lyfrau cyfeirio penodol am adar yn brin iawn croesewir y gyfrol fechan hon a fydd yn sicr yn werthfawr iawn i bob adarwr a chyfieithydd fel ei gilydd.
Edrychwn ymlaen at y gyfrol nesaf gyda rhagor o enwau!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|