Heb unrhyw amheuaeth, y Brenin Arthur yw cyfraniad pwysicaf Cymru i lenyddiaeth y byd.
Bu'n destun cannoedd o gerddi, llyfrau a ffilmiau, ac y mae mwy nag un wlad wedi ceisio ei ddwyn oddi arnom a'i hawlio.
Fodd bynnag, a oes sail hanesyddol i'r holl l锚n Arthuraidd yma, ynteu a yw'n trysor cenedlaethol yn ddim ond straeon celwydd golau?
Mae'r ateb yn niwloedd gorffennol gwych ein gwlad.
Awn yn 么l i ddechrau'r chweched ganrif cyn bo s么n am Loegr a phan oedd yr ynys fawreddog hon yn nwylo'r Brytaniaid a chnocio ar ddrysau trymion llysoedd y wlad i geisio cael cip ar y Brenin balch. Ond och! Nis gwelwn yn unman.
A pham?
Gan nad brenin oedd y Brenin Arthur, dyna pam.
Y traddodiad llafar sy'n gyfrifol am hyn. Roedd pawb yn awyddus i hawlio Arthur iddynt eu hunain a chyda dychymyg byw ychwanegwyd at yr hyn a wyddid amdano.
Mae'n debyg mai'r Cristnogion a ddechreuodd y si iddo gario Croes yr Arglwydd ar ei ysgwyddau am deirnos a thridiau.
Mae'n debyg mai'r Cymry gwlatgar a honnodd iddo ymladd deuddeg brwydyr buddugoliaethus yn erbyn y Saeson.
Culhwch ac Olwen yw'r chwedl Arthuraidd hynaf mewn unrhyw iaith. Fe'i cyfansoddwyd oddeutu 1100.
Cawn wedyn dair chwedl frodorol arall, y tair rhamant - Chwedl Iarlles y Ffynnon, Hanes Peredur fab Efrog, a Geraint fab Erbin.
Dau Arthur gwahanol
Dau Arthur gwahanol iawn yw Arthur y chwedlau hyn.
Yn y Gelli Wig mae llys Arthur Culhwch ac Olwen, a darlun digon cyntefig a gawn ohono. Porthor anghwrtais sy'n cadw'r porth a "Na wnaf" swrth yw ei ateb i Culwch pan yw'n gofyn iddo agor y gi芒t. Ar ffurf deialog ffraeth ac ystwyth, fe'i enfyn ar ei union i westy'r llys, gan sicrhau:
"Ni bydd yn waeth i ti yno nag i Arthur yn ei lys - gwraig i gysgu gyda thi a cherddi diddan ger dy ddeulin."
Mae Arthur Culhwch ac Olwen yn cadw puteindy o fath felly a dywed yr awdur hynny yn gwbl niwtral ei d么n, fel petai pawb yn gwneud yr un fath.
Ond wfft i'r fath faswedd. Gwnio o flaen y ffenest mewn dillad crand a wnaiff merched Y Tair Rhamant ac nid porthor anghwrtais sy'n cadw gatiai'r llysoedd chwaith ond gweision sidanwisg mewn esgidiau o ledr cordofa.
Aiff awdur Iarlles y Ffynnon gam ymhellach hyd yn oed, gan feiddio awgrymu bod awdur Culhwch ac Olwen yn anghywir.
"Ac er y dywedid bod porthor ar lys Arthur, nid oedd un,"
meddai.
Dyna Arthur ei hun wedyn.
Yn Culhwch ac Olwen ni roddir teitl i Arthur. Cyferchir ef gan Cai fel "fy nghyfaill" ac mae Arthur yn ei watwar drwy ganu englyn iddo. Perthynas dau gyfaill sydd yma, nid perthynas gwas a brenin.
Gwahanol yw'r darlun a gawn ohono yn Y Tair Rhamant. Ystyrier y pwt hwn o ddeialog allan o Iarlles y Ffynnon:
"'W欧r, pe na buasech yn fy ngoganu,' meddai ef, 'fe gysgwn i tra bawn yn aros fy mwyd; a gellwch chwithau ymddiddan a chymryd ystenaid o fedd a seigiau cig gan Gai.' A chysgodd yr ymherodr."
Gelwir Arthur yn ymherodr yma. Gwelwn ei fod yn h欧n hefyd. Nid yw'n ymuno yn yr hwyl fel ag y gwn芒i yn Culhwch ac Olwen. Mae'n blino, ac yn cysgu. Yn ogystal a hyn, mae ei lys wedi symud i Gaerllion ar Wysg ac y mae ganddo tair mil o farchogion, mewn cymhariaeth 芒'r tri chant a oedd ganddo yn Culhwch ac Olwen.
Cymdeithas wahanol
Mae natur y gymdeithas yn wahanol hyd yn oed.
Arthur Celtaidd yw Arthur Culhwch ac Olwen ac yn 么l at ffynonellau Celtaidd yr aeth yr awdur. Trodd at Drioedd Ynys Prydain a Llyfr Du Caerfyrddin. Mae gan ei filwyr gyneddfau hynod; Cai er enghraifft:
"Yr oedd i Gai hynodrwydd.
O dan y d诺r, byddai ei anadl yn para am naw noson a naw diwrnod. Byddai am naw noson a naw diwrnod o hyd heb gysgu. Ni allai meddyg wella ergyd cleddyf Cai."
Defnyddio'r cyneddfau hyn i ladd cynifer a phosib oedd amcan Arthur a'i filwyr.
Ond o na, na. Paganiaeth anghristnogol fyddai hynny i awduron Y Tair Rhamant. Rhaid oedd ei gywiro ac yn y chwedlau hyn mae ymladd yn grefft. Brwydir yn barchus a hynny heb dwyllo gyda hud a lledrith.
Eithriad oedd i filwyr Arthur ladd gelyn. Byddent yn eu gorfodi i erchi nawdd. Nid dull Cymreig o ymladd mo hyn ond un Cyfandirol neu, i fod yn fanwl gywir, dull Ffrengig.
Diddorol yw sylwi hefyd bod cymdeithas Y Tair Rhamant yn frith o farwniaid a ieirll. Mae ffiwdaliaeth Eingl Normanaidd yn dechrau ennill ei phlwyf yng Nghymru. Ac o graffu, mae'r enwau priod, Luned, Limwris a Gwiffred Petit oll yn fathiadau o'r Ffrangeg.
Hyn sy'n egluro'r gwahaniaeth mawr rhwng Arthur Culhwch ac Olwen ac Arthur Y Tair Rhamant. Rhwng y ddau, digwyddodd dau beth o bwys yng Nghymru.
Yn gyntaf, cyhoeddwyd Historia Regum Brittanniae Sieffre o Fynwy yn 1136.
Defnyddiodd yr ysgolor hwn lawer ar ei ddychymyg wrth lunio'r gwaith. Er enghraifft, ef oedd y cyntaf i ddweud mai i ynys Afallon yr aeth Arthur i wella ei glwyf.
Er hyn, cydnabyddid y llyfr am ganrifoedd fel gwirionedd hanesyddol ac at y llyfr hwn y trodd awduron Y Tair Rhamant.
Normanaidd
Yn ail, gwelwyd cynnydd aruthrol yng ngrym yr arglwyddi Normanaidd a ymsefydlasai yn ne Cymru. Byddai hyn wedi dylanwadu ar chwaethau'r arglwyddi Cymreig cyfagos, ac o ganlyniad, ar y gymdeithas, gan gynnwys awduron Y Tair Rhamant.
Sgrifennu sifalriaidd sydd yma. Sgrifennu sy'n cuddio'r drwg ac yn dyrchafu'r da. Ymgais yw'r Tair Rhamant i wareiddio milwyr gwyllt Prydain, a dysgu tipyn o urddas Ffrengig i Gymru fach anwaraidd.
Erbyn heddiw mae Arthur ar y we ac yn seren ar y teledu.
Pam?
Oherwydd bod yr hedyn gwreiddiol o hanes yn cynnig cymaint o bosibiliadau. Gall unrhyw un edrych arno a'i saern茂o o'r newydd i drafod agweddau modern mewn cymdeithas fodern.
Na, nid dyna'r gwir - ond dyna lenyddiaeth yng ngwir ystyr y gair.