Adolygiad Carys Mair Davies o Rhwng y C诺n a'r Brain gan Elgan Philip Davies. Hughes. 拢4.50.
Mae'r hen ddywediad sy'n deitl i'r nofel hon yn un tu hwnt o addas.
Mae Elgan Phillip Davies wedi meistroli'r grefft o ysgrifennu stori dditectif, antur a chariad ac wedi'u rhowlio'n un campwaith ysblennydd ar gyfer pleser a mwynhad y darllenwyr.
Mae'r awdur yn medru cyfareddu person ac mae Rhwng y C诺n a'r Brain yn enghraifft wych o sawl llinyn stori unigol yn plethu 芒'i gilydd i greu plot cymhleth ond credadwy.
Ceir sawl nofel yn y gyfres hon ond Rhwng y C诺n a'r Brain yw'r orau ohonynt. Nofel dditectif yw hi'n bennaf sy'n troi o amgylch marwolaeth erchyll Edward Morgan.
Marwolaeth naturiol ar yr olwg gyntaf ond buan y gwelir fod mwy o drafferth gyda rhai pobl yn farw nag yn fyw ac y sylweddolir nad marw o achosion naturiol a wnaeth Edward Morgan.
Y prif gymeriad yw'r Ditectif Ringyll Gareth Lloyd gyda'r stori'n dilyn ei hynt mewn swydd newydd mewn rhanbarth newydd.
Gwelwn ei gymeriad yn datblygu wrth i bleserau bywyd (Miss Carys Huws) a threialon bywyd (yr Arolygydd Ken Roberts) gael eu taflu ato!!
Fy hoff gymeriad yn y nofel yw'r Prif Arolygydd Clem Owen. Er nad oes iddo ran mor flaenllaw 芒 Gareth Lloyd mae'r holl frawddegau disgrifiadol amdano yn dod 芒'i gymeriad yn fyw ym meddwl y darllenydd.
Mae'n meddu ar bersonoliaeth hynaws ond yn gymeriad sy'n ymylu ar fod yn ystrydebol ac heb gael cyfle i ddatblygu llawer yn ystod y nofel gan fod mwy o sylw yn cael ei roi i symud y stori yn ei blaen.
Clem Owen yw'r plismon 'da' yn y stori; bob amser yn sefyll dros ei gredoau ac yn fodlon dweud y drefn wrth ei weithwyr heb flewyn ar dafod. Mae hefyd yn fodlon gwrando ar syniadau'r plismyn eraill.
Mae iaith Rhwng y C诺n a'r Brain yn syml a'r arddull yn fendigedig gyda chyffelybiaethau, trosiadau, bratiaith a llawer iawn mwy.
Mae'r dafodiaith ddeheuol yn eithaf cryf drwy'r nofel a hynny'n cyfleu ysbryd o gymuned glos.
Ond i mi, mae gwahanol deitlau y plismyn yn eithaf dryslyd - Prif Arolygydd, Arolygydd, Rhingyll ac yn y blaen gan na wyddwn pa gymeriad oedd uchaf ei safle yn yr orsaf.
Ond gair o rybudd - mae'r nofel yn hen bellach wedi ei hargraffu gyntaf yn 1991 ond wedi ei hailargraffu sawl tro a hynny'n brawf o'i phoblogrwydd.
Buaswn yn ei hargymell ar gyfer unrhyw oedran. Nid oes iddi gynnwys nac iaith anweddus ac mae'n ddealladwy er gwaethaf cymhlethdod y plot.
Nid yw'r clawr yn gwneud cyfiawnder 芒'i chynnwys felly da chi, peidiwch 芒 chamu heibio iddi yn y siop.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi