Nofel sy fymryn gwell na 'da'
Martin Williams yn trafod Brithyll gan Dewi Prysor.
Mae'n anodd meddwl am nofel Gymraeg gydag enwau difyrrach a doniolach ar 'gymeriadau' na Brithyll.
Tiwlip, Drwgi, Tabitha, Dyn Sdici, Dilwyn Lldi, Tomi Shytyl, PC Pennylove/Penelope, Delyth Dyn, Dafydd Bwmerang, Arwel Chicken Tonight, McPuke/McTug.
Diau y bydd darllenwyr a chanddynt rhyw fath o gysylltiad chwarelyddol yn gallu uniaethu yn syth bin 芒'r holl enwau gwirion ac athrylithgar hyn (a dwi'n si诺r pe bai yna ysgol neu athrawon yn rhan o'r nofel yna y byddai lefel dychymyg Dewi Prysor wedi bod yr un mor ffraeth!)
Hollol hileriys
Ond nid yw hyn ar ben ei hun, afraid dweud, yn gwarantu nofel dda ond dyma gomedi sy'n llawn dop o frawddegau a digwyddiadau...wel, hollol hileriys fel:
"Dau gi bach yn mynd i'r coed..." (tudalen 133). Duwcs, mae'r FBI, KGB ac MI5 yn hynod eiddigeddus o iaith gyfrinachol soffistigedig Heddlu Gogledd Cymru!
"Ella 'na un o'r petha dairylea 'na ydio, Jac. C锚r-in-ddy-cymiwniti, wsti" (96).
Os ydych yn hoff o ddarllen llyfr tra'n trafeilio yna peidiwch, da chi, a darllen pennod 20 ar fws. Artaith (ha, ha). A gobeithio na fydd yna bry yn mynd ar eich nerfau tra'n darllen pennod 52 yn y gegin!
"Mwoa-haaa" medda Cled. "Byss-byssia 诺an ta'r butwr cachu!"
Wow! Brithyll - y mwfi. A hoffai pwysigion S4C ymateb?!
Dadl puryddion
Efallai y bydd rhai puryddion ieithyddol yn dadlau bod yr arddull yn rhy Seisnigaidd: Colwyn Be yn lle Bae Colwyn. Proffits yn lle elw. Stitches yn lle pwythau. Hoples yn lle anobeithiol a Restront yn lle T欧 bwyta. Ond ffish cecs, ni fyddai "fatha ych yr afon" (114) wedi taro deuddeg.
Tybed a fyddai 'tocyn un ffordd' ar dop tudalen 58 wedi bod yn rhy boring ac na fyddai Cled yn debygol o ddefnyddio Cymraeg "bur" (h.y. a chymryd bod yna ffasiwn beth yn bod!) drwy'r adeg?...Dwn im.
Efallai nad yw brawddeg olaf/gyntaf tud. 57/58 yn enghraifft o Gymraeg pur, ond pwy all wadu dawn dweud boncyrs a digrif yr awdur?
Peidiwch a darllen y frawddeg dan sylw ar dr锚n- efallai y bydd eich barn amdano chi'ch hun, y teithwyr eraill a'r pen siwrnai yn newid er gwaeth.
Mae'n amlwg fod DP yn hoff iawn o'r gair 'sgrialu'- gair da. Ond tybed a yw'n gorddefnyddio "Ar hynny"?
A pham defnyddio "ar hast" ar ddiwedd paragraff cyntaf pennod 26? A fyddai "ar frys" wedi bod yn fwy addas? Dim ond gofyn.
"Gwyn eu byd y rhai addfwyn, canys hwy a gymerant holl gachu'r ddaear"- Cymraeg pur, di-chwaeth, clyfar a threiddgar.
Ddim yn brin o ddyfnder
Tybed a fydd nofel nesaf DP yn ymosod yn uniongyrchol ar Thachteriaeth? Amser a ddengys. Na, tydi Brithyll ddim yn brin o ddyfnder a chwilfrydedd deallusol.
Y chwarel (gair addas ar gyfer y llyfr yma) o syniadau ac agenda os mynnwch chi: pwysigrwydd plismyn lleol Cymraeg (sylwer sut mae'r plisman o Gofi yn gorffen brawddeg ar dudalen 209. Yndi, mae cyfathrebu'n effeithiol mor bwysig yn tydi (ha,ha). Dichon yn wir bod hyn braidd yn goman a di-chwaeth ac nid dyma'r unig enghraifft o afledneisrwydd 'chwaith.
Onest a di-lol
Ond mae hi hefyd yn nofel onest a di-lol. Gwlad y Menyg Gwynion? Ydi pob un wan jac o'r cymeriadau yn seintiau ac yn siarad fel Derec Llwyd Morgan? Ia, wel...mae'r ddadl y dylai nofel adlewyrchu bywyd go iawn heb fwydro neis, neis, na茂f yn un gref.
Agenda/syniad arall:
Cymuned go iawn (gweler ail baragraff pennod 35- dyma galon y gwir?)
Parch a gonestrwydd.
Parhad yr heniaith fel rhywbeth byw.
Barddoniaeth y werin (byddai'r cymeriad Yncl Dic - Cyw Haul gan Twm Miall, wrth ei fodd!)
Potensial cerddoriaeth ysgafn Gymraeg i fynd o nerth i nerth ac i gyfoethogi bywydau llawer iawn mwy o Gymry na'r lefel bresennol: ia, fel yna dwi'n dehongli dechrau pennod hanner cant!
Onid yw hi'n wych o beth fod y cerddolegwyr byd enwog (sef Steve a Terwyn, Radio Cymru) yn cael mensh yn y nofel? Ewadd, corcar o nofel!
Gresyn nad yw Seamus yn gymeriad cyson drwy gydol y nofel. Mymryn o sbeisys Gwyddelig cryf o'r restront. Crac Cymraeg...
Tybed a yw'r awdur, mewn rhyw lecyn bach yn ei isymwybod, eisiau bod yn Wyddel?
Dim ffrils
Peidiwch a disgwyl y stori/plot mwya cyffrous, seicedelig, uchelgeisiol a chymhleth yn hanes y nofel- o wel, mymryn o bysgod mewn tanc wedi ei leoli mewn ardal o Gymru ble ceir dwbwl, drebal, mwy o ddefaid na phobol.
Diflas? Dim o gwbl.
Mae'r doniolwch, y deialog "no frills" a'r ambell i syniad a sylw craff (rhai yn aeddfetach na'i gilydd efallai, ond chwarae teg, rhaid cofio mai Brithyll yw nofel gyntaf yr awdur eofn hwn!) yn golygu na fydd hi'n cymryd gormod o amser ichi orffen darllen y 287 o dudalennau.
Gyda llaw, ceir 73 o benodau, sy'n syniad gwych mewn oes ble mae rhai pobl mor brysur yn, wel... gwylio'r teledu efallai?
Duwcs, byddai'n ddigon hawdd ffeindio digon o amser i allu darllen pennod gyfan rhwng rhan 1 a 2 o Corrie neu Pobol y Cwm, decini.
Ambell i lun
Efallai y teimla rhai y byddai ambell i lun da gan er enghraifft Iwan Bala (fel yn Cyw Haul Twm Miall) wedi cyfoethogi'r profiad i'r darllenydd.
Jac a Tomi'n gweld y bws deg o Dre (Clipa bach gwyrdd) ac felly'n gwybod bod y "pyb yn gorad"- byddai'r olygfa ar ddiwedd pennod 22 wedi bod yn her a hwyl i artist talentog.
Ac mae llun y clawr yn iawn (Iwan Phillips / Dewi Prysor), ond mae clawr Cyw Haul (un o hoff nofelau'r awdur) gan Iwan Bala yn llawer clyfrach yn fy marn i.
"Don't judge a book by it's cover," medd y Sais. ond mae digon o bobl YN gwneud hynny mewn siopau llyfrau.
Am ei bod yn dda
Mae'n ofid gan rai cenedlaetholwyr diwylliadol Cymraeg nad yw rhai Cymry Cymraeg bron byth yn darllen stwff yn eu mamiaith.
Glyn Wise, Jonsi, C'mon Midffild (Cert. 18!), Tipyn o Stad, Cyw Haul, Rhys Ifans . . . rhyw gymysgedd llenyddol rhyfedd o'r blaenorol ydi Brithyll i mi.
Unigryw.
Chwa o awyr iach.
Ailgysylltu.
Cic ym mhen 么l yr SDC (Sin Darllen Cymraeg).
Ond peidiwch, da chi, a'i phrynu hi achos eich bod eisiau gwneud y peth iawn a phrofi i chi eich hun eich bod yn Gymro/Cymraes i'r carn.
Na; lol botes maip.
Prynwch hi achos ei bod hi'n DDA!
Wel, mae hi fymryn gwell na 'da' a dweud y gwir. Mae hi (a chogio fy mod yn un o brif gymeriadau'r nofel) yn Fi Dai Sy' 'ma.
Mae gan Brithyll y potensial o gyrraedd ffigwr gwerthiant uwch na hunangofiant Dai Jones Llanilar (dim bod dim byd o'i le yn y llyfr
hwnnw 'chwaith - difyr dros ben).
Gwerthu mwy
Ac o, oni fyddai'n braf gweld nofel feiddgar a diofn fel hon yn curo ffigwr gwerthiant Cyfansoddiadau a Beirniadaethau y Genedlaethol, a hynny'n rheolaidd?
Ia, amrywiaeth sy'n rhoi blas ar ddiwylliant bregus lleiafrifol.
Oes, mae gan Welsh fel pwnc ysgol c诺l - ond cofier, ysywaeth, am y Cert. 18 - a'r s卯n ddarllen ddyfodol, wel, lliwgar a gwallgof, o'i blaen.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi