大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Carreg Wrth Garreg
Dilyniant i Rhannu'r T欧
  • Adolygiad Glyn Jones o Carreg Wrth Garreg gan Eigra Lewis Roberts. Gwasg Gomer. 拢8.99


  • Prin bod angen cyflwyno Eigra Lewis Roberts, y prifardd, y prif ddramodydd a'r prif lenor.

    Carreg wrth Garreg yw ei nofel ddiweddara ac yn ddilyniant i Rhannu'r T欧 a gyhoeddwyd yn 2003 - nofel yn darlunio'r gwrthdaro a'r rhwygiadau rhwng ac o fewn teuluoedd adeg streic fawr Chwarel y Penrhyn ym Methesda, Arfon, 1900-03.

    Er i ugain mlynedd fynd heibio a'r Rhyfel Byd Cyntaf drosodd does fawr wedi newid. Mae Tom yn dal yn y chwarel, Grace yn troedio rhwng cownter a pharlwr Bristol House, a Daniel yn weinidog yng nghapel mawr y Blaenau.

    Clawr y llyfr Mae'r waliau a godwyd ers y streic fawr yn simsan a di-sylfaen, a'r muriau a godwyd rhwng y cymeriadau a'i gilydd, a rhyngont a hwy eu hunain yn solat a chryf.

    Cyn y gall Bethesda fod yn d欧 tangnefedd eto rhaid dymchwel y muriau hyn a, carreg wrth garreg, rhaid codi rhai newydd yn eu lle.

    Lluniau cyflym
    Aiff y nofel rhagddi mewn cyfres o glipluniau cyflym, techneg effeithiol sy'n hoelio'n sylw ar bob darlun yn ei dro.

    Ac eto, er mai oriel gelf o Fethesda sydd yma, ychydig o ddarlunio uniongyrchol a geir. Drwy bortreadu'r cymeriadau yn eu cynefin naturiol pery'r awdur i'r cymeriadau ddisgrifio eu hunain. Mae'r darn canlynol o bennod gyntaf y nofel yn enghraifft benigamp o hyn:

    "Aeth Grace 芒'r baned drwodd i'r parlwr. Ni fyddai'n mentro yno ond pan fo raid. Roedd y lle'n ei hatgoffa o bethau y gwnaethai ei gorau i anghofio.

    Eisteddai ei thad wrth y bwrdd mawr. Cododd ei olygon o'i Feibl a gofyn, 'Wel, ges ti bersw芒d ar yr hogan o forwyn 'na i dd诺ad i'r seiat heno?'
    'Naddo. Waeth heb, Tada.'
    'Mi ddylat ti gael ei gwared hi. Mae na ddigon o ferched bach parchus angan gwaith.'"

    Ni wyddom sut le yw'r parlwr, ond teimlwn yr awyrgylch llethol. Ni wyddom sut un yw Grace ond clywn y syrffed yn ei llais. Ni ddywed yr awdur ddim am Edward Ellis ond deallwn fod achub eneidiau yn bwysicach iddo na chysur ei ferch.

    Sylwch nad yw'n diolch am ei baned, ac y cyfyd ei lygaid o air Duw i fwrw enllib ar Magi, nad yw'n ei galw wrth ei henw hyd yn oed, gan fygwth ei throi o'i gwaith.

    Dyma enghraifft hefyd o ddawn Eigra Lewis Roberts i ennyn chwilfrydedd ei darllenydd. Mae'r crochan yn ffrwtian yn Bristol House, a gwyddom na fydd yn hir cyn y bydd yn berwi drosodd.
    Rhaid inni ddarllen ymlaen.

    Prif them芒u
    Gwacter ystyr, gorthrwm crefydd, rhwystredigaeth.
    Dyma brif them芒u y nofel hon.

    Fodd bynnag, nid eu plethu i'r naratif a wnaiff ond fframio'r darluniau 芒 hwy.

    Mae hunllefau Tom, er enghraifft, yn dangos effaith y Rhyfel Mawr ar y pentref, er y byddai'r nofel wedi elwa'n sylweddol ar ddisgrifiad mwy uniongyrchol o'r hunllefau hyn. Bodloni ar s么n amdanynt wrth fynd heibio a wneir.

    Fe'i caf yn rhyfedd fod Eigra Lewis Roberts yn anwybyddu tlodi, a'r nofel wedi'i lleoli mewn ardal chwarelyddol ar adeg dlawd yn ei hanes. Mae hyn yn wendid gan nad yw'n manteisio'n llawn ar y lleoliad, ac yn hepgor rhywbeth sy'n gwbl ganolog i fywyd yr ardal.

    Er hyn, wrth edrych arni o ochr arall mae'n llenyddiaeth wedi boddi mewn tlodi, a thrwy ddewis trafod aelodau'r dosbarth canol, teulu Bristol House a'r Capel Mawr, llwyddir i osgoi'r rhigol honno gan ganolbwyntio ar broblemau emosiynol yn hytrach na rhai materol.

    Eto, byddai'r nofel wedi elwa ar fwy o gydbwysedd rhwng y ddwy elfen.

    Nid du a gwyn
    Ni ddisgynna'r awdures i'r trap o ddarlunio ei chymeriadau yn ddu neu'n wyn, yn dda neu'n ddrwg. Er y melltithiwn Maud am y ffordd mae'n trin Tom, pan sylwn na chafodd erioed na hapusrwydd plentyndod na chariad mam buan y down i faddau iddi, rhywbeth na all Elen Evans, un o'r seintiau, ei wneud.

    Yn hyn o beth, mae enw stryd ei chartref, Llwybrmain, yn gwneud cyfiawnder 芒 hi gan fod ei llwybr yn fain a'i chrefydd yn gulach.

    Ni theimlaf fy mod yn adnabod Ifan yn llwyr, er y gellid dadlau nad oes bosib i ni wneud hynny ac yntau ddim yn adnabod ei hun.

    Fodd bynnag, mae'r ffaith iddo gyrraedd t欧 Miss Watkins pan fo'r frig芒d d芒n newydd ddiffodd y fflamau yn ormod o gyd-ddigwyddiad. Ac nid yw'r modd y pryfocia'r athrawes ifanc yn gydnaws a'i gymeriad swil, ansicr.

    Mae'r awdur ar ei gorau pan fo ar ei chynilaf. Mae'r disgrifiad hwn o Laura yn llawn posibiliadau:

    "Roedd golwg wedi yml芒dd arni, a chleisiau duon o dan ei llygaid."

    Pam? Blinder? Ynteu trais domestig?

    Gwaetha'r modd, eithriadau prin yw awgrymiadau o'r fath. Gwell gan yr awdur roi cwestiynau ar bl芒t, a chyllell a fforc yn nwylo'i darllenydd yn hytrach na gadael iddo feddwl drosto'i hun.

    Mae cwestiynau megis, "A lle roedd o'r tro hwn, tybad?", "Be fyddai gan ei fam i'w ddweud?" ac "A be oedd o'n mynd i allu ei wneud ohoni?" yn britho, ac yn fy marn i, yn llesteirio'r naratif.

    Byddai Kate ei hun yn falch o ddiweddglo'r nofel. Y mae'n llawn awyrgylch ac yn gwneud i ni feddwl. Mae'r chwarelwyr ar fin streicio, Magi ar ddisgyn i rigol bywyd priodasol, a ni wyddom beth a ddaw o Grace a Tom.

    Mae yma obaith, ond gobaith brau ydyw, a waliau'r T欧 Tangnefedd eto'n gwegian dan y straen.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Rhannu'r T欧

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy