Pump o fuddugwyr yr Urdd
Adolygiad Huw Alun Foulkes
o'r gyfrol Crap ar Farddonigan Catrin Dafydd, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Iwan Rhys a Hywel Griffiths. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.
Yn ddiweddar bum yn darllen mwy o farddoniaeth. Cyfuniad o reidrwydd a diddordeb .
Ond rhaid cyfaddef mai mater o ddiddordeb yn unig oedd dewis darllen y gyfrol Crap ar Farddoni.
Wedi ennill
Mae'r pum cyfrannwr wedi ennill un o brif wobrau llenyddol Eisteddfod yr Urdd ac yn gyfarwydd mewn stompiau llenyddol ar hyd a lled y wlad.
Nid yw'r broliant ar gefn y gyfrol yn ffafriol nac ychwaith yn ymffrostio yn nhalentau'r pump gydag ambell i ddyfyniad gan feirniaid llenyddol yn lambastio ambell i gerdd yn y casgliad.
" Mae'r gerdd yn amddifad o deimlad ac ni chefais ynddi unrhyw wefr," meddai gerallt Lloyd Owen am un gerdd!
Mae'r sylwadau hyn yn ychwanegu at ddiben y gyfrol sy'n gyfuniad o'r dwys a'r doniol, y gwleidyddol a'r diwylliannol - amrywiaeth sy'n cynnal diddordeb er nad yw pob cerdd yn taro deuddeg.
To newydd
Braf yw gweld cyfrol fel hon yn cael ei chyhoeddi gan fod y pump yn cynrychioli'r to newydd o feirdd a braf yw gweld ganddynt gerddi o bob math - o ran strwythur, cynnwys ac arddull a phob un, i ryw raddau, a'i lais ei hun.
Yr hyn sydd fwyaf amlwg, fodd bynnag, yw'r ffaith fod yr wefr mae'r pump yn ei gael wrth ysgrifennu yn dod drosodd yn effeithiol a hynny'n ychwanegu at fwynh芒d y darllenydd.
Mae nifer o gerddi yn aros yn y cof a'r rheini gan amlaf yn dod 芒 gw锚n i'r wyneb.
Cerdd rydd gan Eurig Salisbury yn cyfarch un o gyfranwyr eraill y gyfrol, Hywel Griffiths ar ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd, er enghraifft.
Eironi'r sefyllfa yw mai Eurig ddysgodd Hywel sut i feistroli'r gynghanedd. Yn sicr, mae hiwmor a phersonoliaeth y bardd yn amlwg,
'Yn ddi-d芒l fe ofalais
Am ei glec a magu'i lais,
A mynych edrych ar 么l
Ei wawdodyn yn dadol.
Eto'n athro'n ei feithrin
A chodi'i wynt, sychu'i din.
Barn wleidyddol
Ymhlith y nifer o uchelbwyntiau eraill mae cerddi rhydd Catrin Dafydd a chlec y gynghanedd yng ngherddi Aneirin Karadog.
Llwydda cerdd Catrin Dafydd, i Rhodri Morgan a'i Lywodraeth, fynegi barn wleidyddol yn gryno ac effeithiol.
Ceir unoliaeth yn y gerdd a'r weithred o 'ddadlau' yn ganolog i'r dweud.
Teimlad ac angerdd sy'n nodweddu awdl Aneirin, Darluniau i gymoedd De Cymru, a'r cyfan yn llifo'n rhwydd ac yn hynod weladwy.
Mae'r graddoli hyfryd o dristwch ac anobaith tuag at orfoledd gobeithiol y penillion olaf yn argyhoeddi'n llwyr.
Mae'r gyfres o englynion a geir ar ddiwedd y gyfrol gan y pedwar cynganeddwr yn glo teilwng i gyfrol hwyliog y cefais fwynh芒d mawr yn ei darllen a lle mae pob un o'r beirdd 芒 rhywbeth newydd, ffres i'w ddweud.
Gobeithio na fydd hi'n rhy hir, felly, cyn y gwelwn ni'r pump yn mynd ati i lywio cyfrolau eraill tua'r wasg, boed hynny ar y cyd neu'n unigol.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi