大象传媒

Explore the 大象传媒
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

大象传媒 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dal dy Dir
LLyfr sy'n dipyn o Waw!
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Dal dy Dir gan Iola J么ns. Gomer. 拢7.99

  • Wedi darllen Dal dy Dir gan Iola J么ns fe'm parlyswyd gan ryfeddod llwyr.
    Waw!

    Mae'r llyfr yn s么n am anturiaethau tair athrawes "barchus" sy'n caru bywyd, dynion a chwrw.

    Clawr y llyfr Y tair yw Glenys, Trudi a Mona.
    Daw Glenys o Sir Gaerfyrddin, Trudi o Ddolgellau a Mona o Sir F么n.

    Mae'r stori'n cylchdroi o amgylch bywyd Mona - ac am fywyd yn wir!

    Fe hawliwyd fy sylw o'r cychwyn cyntaf a'r tair athrawes wedi swatio'n glyd yng ngwely Mona yn s么n am ddigwyddiadau'r noson cynt.

    Glenys a Trudi yn chwerthin o glywed Mona'n dwrdio ac yn bygwth wrth iddi arolygu'i gwddwg sy'n llawn 'cnoadau caru'.

    Gorffen yr olygfa yma gyda'r merched yn tyngu llw (am y canfed tro!) na fyddant byth yn yfed eto.

    Fe'm tynnwyd i'r sgwrs ddifyr hon ac fe wnaeth i mi deimlo'n rhan o'r miri a'r rhialtwch.

    Trychineb damwain
    Mwynheais fy hun i'r eithaf wrth ddarllen am yr anturiaethau lu mae'r tair yn eu rhannu - yn enwedig anturiaethau'r twmpath ddawns.

    Parha'r llyfr i olrhain bywyd y merched nes i ddigwyddiad erchyll chwalu eu bywydau am byth.

    Daw'r trobwynt yn hollol annisgwyl a'm bwrw innau oddi ar fy echel.

    Ar noswaith braf o haf, 芒'r athrawon yn uchel eu clych ar 么l sawl peint a dawns, dyma Glenys yn achosi damwain 芒 chanlyniadau andwyol iddi.

    Yn dilyn marwolaeth Glenys bu farw Mona a Trudi hwythau yn emosiynol ac nid yw eu bywydau yr un peth byth eto.

    Daw llawer o ddigwyddiadau hunllefus, cyffrous, hapus a thrist i'w rhan a chawn ninnau ein tywys drwyddynt ac erbyn diwedd y nofel, teimlwn fy mod yn adnabod y cymeriadau fel petaent yn bobl go iawn.

    Mae marwolaeth Glenys yn creu agosatrwydd rhwng Trudi a Mona - yn dilyn sawl ffrae, fe g芒nt gwrdd 芒 ffrindiau newydd a theulu Glenys a hynny'n diweddu gyda Trudi yn cwympo mewn cariad.

    Mae Mona hefyd yn cwympo mewn cariad 芒 Harri F么n a cholli ei gwyryfdod iddo.

    Ond y bore wedyn ni all gofio dim am gael rhyw a rhaid wynebu beichiogrwydd a phriodi Harri - nefoedd ar y ddaear iddi!

    Ond ar noson ei phriodas caiff wybod i'w phlentyn gael ei genhedlu oherwydd i ffrind ei g诺r roi cyffuriau yn ei diod y noson y collodd ei gwyryfdod!

    Yn y dyfodol
    Mae'r olygfa nesaf wedi'i gosod yn y dyfodol a Harri a Mona wedi magu tair merch, Esyllt, Dwynwen a Swyn - ond nid yw bywyd yn f锚l i Mona - dydi o byth, nac ydi?!!

    Mae hi'n poeni fod Harri a'i hanner chwaer yn cael aff锚r ac wedi wythnosau o ddiffyg cwsg a phryder mae hi'n dal hanner chwaer ei g诺r yn ei gwely - ond nid 芒'i g诺r ond gyda'i chyflogwr - prifathro'r ysgol gynradd!

    Mae'r stori'n gorffen yn eithaf penagored gyda dyfodol Mona yn saff a Harri yn llyfu bodiau ei thraed!

    Er na fuaswn yn argymell i unrhyw un dan 13 ddarllen y nofel hon, oherwydd yr iaith liwgar, mae hi'n berffaith ar gyfer rhai h欧n sy'n chwilio am stori anhygoel y gellir uniaethu 芒 hi mewn cymysgedd o dafodieithoedd.

    Mae'n cynnwys ychydig o fratiaith sy'n gweddu i'r dim at y steil arbennig ac er nad yw'r arddull yn hynod o farddonol na choeth mae yma ambell i gyffelybiaeth fan hyn ac ambell i drosiad fan draw.

    Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen Dal dy Dir gan Iola J么ns - neu difaru fyddwch chi!

    Canmolaf y llyfr i'r cymylau - ac y mae'n llawn haeddu'r ganmoliaeth.

    Llyfr gwych a threiddgar sy'n agos at fywyd bob dydd i oedolion.
    Fy neges? Peidiwch 芒 cholli allan!!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 大象传媒 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad arall


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 大象传媒 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy